Skip to main content

NIA JONES: BYWYD DAN GYFYNGIADAU A SUT I GYNNAL EICH CYMHELLIANT I YMARFER

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. NIA JONES: BYWYD DAN GYFYNGIADAU A SUT I GYNNAL EICH CYMHELLIANT I YMARFER

Mae gan Nia Jones ateb ar unwaith pan fydd y cyfyngiadau symud yn bygwth gwneud iddi deimlo’n isel – mae’n estyn am ei chit. 

Mae capten pêl rwyd Cymru wedi cyfaddef bod cymhelliant yn gallu bod yn anodd wrth hyfforddi ar ei phen ei hun yn ystod y cyfyngiadau symud.

Fel gweddill sgwad Severn Stars yng Nghaerwrangon, mae Jones yn dilyn yr amserlen sydd wedi cael ei hanfon ati ar-lein fel rhan o sesiwn Zoom actif, gyda’r chwaraewyr yn gwrando i mewn ar yr hyfforddwyr wrth fynd ati i ymarfer.         

Gyda thymor yr Uwch Gynghrair Pêl Rwyd wedi dod i ben yn ddirybudd – cyn iddo gael cyfle i ddechrau hyd yn oed – mae cyn seren y Dreigiau Celtaidd yn dweud bod amserlenni’n newid a diffyg cyswllt personol ag aelodau eraill y tîm yn gallu bod yn heriol.

 

Ond meddai: “Un peth fi wedi’i deimlo sy’n ddefnyddiol, pan rydw i wedi cael anhawster gyda chymhelliant, yw jyst gwisgo fy nghit. 

“Unwaith fi ynddo fe, mae’n llawer haws codi allan a gwneud eich sesiwn.           

“Mae pawb yn cael dyddiau gwael am ddim rheswm amlwg. Fi’n gallu deffro weithiau mewn hwyliau drwg a ’sa i’n siŵr pam.   

“Fe fydd yr hyfforddwr yn gofyn, ‘oes unrhyw beth wedi newid yn dy drefn di? Neu oes rhywbeth wedi digwydd i wneud i ti deimlo felly?’ Ond weithiau does dim.         

“Weithiau rydych chi’n deffro mewn hwyliau drwg. Ond mae hynny’n cŵl. ’Dyw e ddim yn golygu bod unrhyw beth o’i le. 

“Os byddaf yn gwneud fy hyfforddi yn y bore, fi mewn gwell hwyliau o lawer yn gyffredinol, ac yn neisiach gyda’r bobl o fy nghwmpas i os ydw i wedi cwblhau sesiwn yn gynharach yn ystod y dydd.”

Mae Jones wedi symud at sgwad y Stars ar ôl pum mlynedd gyda’r Dreigiau yng Nghaerdydd, lle sefydlodd enw da iddi hi ei hun fel amddiffynwraig galed a medrus gyda llawer iawn o stamina.

Mae’r caledi meddyliol wedi profi’n ddefnyddiol iawn iddi yn ystod y tri mis diwethaf, ond mae gan y gyn bêl droedwraig ryngwladol gyda Chymru gyngor arall i’w roi hefyd i unrhyw un sy’n teimlo bod eu cymhelliant wedi diflannu. 

“Un peth arall sydd wedi bod yn fuddiol i mi yw ysgrifennu sesiynau creadigol i mi fy hun a chadw amrywiaeth yn y rheiny,” meddai.

“Os fi’n teimlo braidd yn isel, fi bob amser yn gwneud yn siŵr ’mod i’n ysgrifennu’r pethau fi’n eu mwynhau. ’Sa i’n mynd ati i ysgrifennu sesiwn erchyll fi’n ei gasáu. Fi’n ysgrifennu rhywbeth fi’n ei fwynhau, fel ymarfer i gân gawslyd gan Westlife.

“Wedyn, ei gofnodi. Pan fyddaf yn edrych drwy fy nodiadau nawr, mae’n anhygoel faint o hyfforddiant a gweithgarwch allwch chi ei wneud heb sylweddoli hynny.

“Mae gennym ni benderfyniadau allwn ni eu gwneud drwy’r dydd i wneud i ni deimlo’n well. Fi’n credu y bydden ni i gyd yn cytuno mai’r ateb i hynny weithiau yw ychydig o ymarfer.”

Mae ymarfer yn y parc a defnyddio clustffonau i glywed cyfarwyddiadau ei hyfforddwr wedi bod yn anodd dod i arfer ag ef – i bobl sy’n mynd heibio yn ogystal ag i’r chwaraewraig pêl rwyd mae’n nhw’n ei gweld yn rhedeg, newid cyfeiriad ac, yn sydyn, taflu pas o’r frest at aelod dychmygus o’i thîm. 

Ond mae Jones yn mynnu bod sesiynau Zoom ac agweddau eraill ar y cyfyngiadau symud wedi arwain at ddylanwadau positif annisgwyl – fel agwedd fwy adlewyrchol a pharodrwydd i rannu emosiynau.             

“Rydyn ni ar olwyn y bochdew yn rhy aml – codi, mynd i’r gwaith, hyfforddi, dod adref, gwneud swper a mynd i’r gwely. Does gennych chi ddim amser i feddwl am lawer o bethau. 

“Felly mae hynny wedi bod yn bositif – a hefyd cyn gynted ag y mae un person yn y grŵp Zoom yn cyfaddef ei bod wedi bod yn gweld pethau’n anodd o ran cymhelliant, mae eraill yn cyfaddef eu bod nhw’n teimlo yr un fath. 

“Efallai nad oedd gennym ni syniad bod eraill yn teimlo’r un fath. Felly, pan mae rhywun yn cyfaddef hynny, mae’r sgwad cyfan yn teimlo’n brafiach, oherwydd nid dim ond chi sy’n teimlo felly. 

“Wedyn, rydych chi’n gallu gofyn beth rydyn ni’n mynd i’w wneud amdano? Roedden ni i gyd yn dweud bod ceisio clocio sesiwn cyn hanner dydd wedi helpu gyda’n hwyliau ni. 

“Gall aros am sesiwn gyda’r nos greu pryder. Fe allwch chi wneud i bethau rydych chi’n eu hofni deimlo’n fwy nag ydyn nhw, a theimlo’n fwy bregus.”

Mae hyfforddi deuddydd yr wythnos yn Ysgol y Gadeirlan yn Llandaf, Caerdydd, wedi bod yn ddihangfa i Jones hefyd – yn enwedig y cyfle i gael cyswllt â phobl.                           

“Mae’r plant yn gwneud eu gwaith ysgol gan gadw pellter cymdeithasol ond mae wedi bod yn cŵl cael mynd i mewn a rhyngweithio gyda’r plant a ’nghydweithwyr i. 

“Ond rydyn ni’n gorfod diheintio ein dwylo bob munud bron!” 

Newyddion Diweddaraf

Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?

Darllen Mwy

Pethau am ddim i’w gwneud yng Nghymru i gadw’n actif dros yr ŵyl

Dyma rai gweithgareddau i gael eich corff i symud a rhoi hwb i’ch lles dros y Nadolig.

Darllen Mwy

Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Difrod Storm ar ôl i nifer o gyfleusterau chwaraeon ddioddef…

Darllen Mwy