Skip to main content

Heriau tennis bwrdd i ddod allan o’r cyfyngiadau symud

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Heriau tennis bwrdd i ddod allan o’r cyfyngiadau symud

Er nad yw cweit wedi cyfateb i lefel y galw am bapur tŷ bach a phasta, mae cynnydd mawr wedi bod yng ngwerthiant byrddau tennis bwrdd yn ystod dyddiau cynnar y cyfyngiadau symud.

Mae silffoedd cyflenwyr fel Decathlon, Argos a Butterfly wedi gwagio wrth i siopwyr clyfar fynd ati i fanteisio ar weithgareddau i’w diddanu yn ystod cyfnod hir o ynysu gartref.             

Gwelwyd cynnydd o 800 y cant mewn gwerthiant byrddau tennis bwrdd ledled y DU, ac mae rhwydi pop-yp hawdd eu hychwanegu at unrhyw fath o fwrdd wedi gwerthu allan hefyd. 

Ond er bod y cynnydd mawr mewn poblogrwydd wedi cael ei groesawu, mae’r gamp yn wynebu llawer o heriau o hyd wrth iddi geisio dod yn ôl i ryw fath o ‘normal newydd’ pan fyddwn yn dod allan o’r cyfyngiadau symud.

Mae Tennis Bwrdd Cymru yn brysur yn gweithio drwy syniadau ar gyfer gwarchod ac addasu’r gamp unwaith caiff y cyfyngiadau symud presennol eu llacio.  

Offer tenis bwrdd


Gyda Chymdeithas Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Cymru, maent ymhlith y cyrff rheoli cenedlaethol, yr awdurdodau lleol a’r ymddiriedolaethau hamdden sy’n cydweithio yng Nghymru i ddatblygu canllawiau a phrotocolau yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer dychwelyd yn raddol at hyfforddi a chystadlu. 

Mae bwrdd tennis bwrdd safonol yn 2 fetr 75cm o hyd, felly ni fydd y rheol cadw pellter cymdeithasol bresennol o 2 fetr yn creu unrhyw broblemau wrth chwarae.

Fel gyda chwaraeon eraill, bydd arferion hylendid da’n hanfodol i greu amgylchedd diogel ar gyfer chwarae tennis bwrdd, a chyfyngu ar rannu offer gymaint â phosib. Un syniad sy’n cael ei awgrymu yw bod y chwaraewyr yn cael eu set eu hunain o beli tennis bwrdd, ac yn ysgrifennu eu blaenlythrennau arnyn nhw, a dim ond cyffwrdd y rheiny, nid rhai eu gwrthwynebydd.  

Does dim posib defnyddio rhai cynhyrchion i lanhau peli tennis bwrdd, gan eu bod yn eu marcio, felly dyma bwynt pwysig arall i’w ystyried mewn unrhyw drefn newydd o ddiheintio dwylo ac offer.                        

Gan mai camp dan do yw hi yn bennaf, efallai y bydd angen addasu cyfleusterau i chwarae’n ddiogel. Hefyd mae posibilrwydd y bydd rhaid aildrefnu rhai canolfannau chwaraeon yn ystod y misoedd sydd i ddod, gan ddefnyddio rhai neuaddau ar gyfer offer campfa efallai, felly mae pryderon newydd am sut gall tennis bwrdd gael ei effeithio gan unrhyw newidiadau o’r fath. 

Wrth siarad am y sefyllfa bresennol, ac unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd Rhian Pearce, Prif Weithredwr Tennis Bwrdd Cymru: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn prynu byrddau tennis bwrdd yn ystod y cyfyngiadau symud ac yn mwynhau’r gamp gartref. Fe fydden ni wrth ein bodd yn gweld y chwaraewyr hamdden yma’n dal ati i chwarae am flynyddoedd i ddod. 

“Ond er bod y cynnydd mewn galw am fyrddau wedi bod yn bositif iawn, rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod gan lai na 30% o’r chwaraewyr ifanc ar ein llwybr perfformio ni fyrddau gartref, ac mae llawer mwy o bobl ar hyd a lled y wlad sy’n chwarae tennis bwrdd yn rheolaidd ond sy’n methu gwneud hyn ar hyn o bryd.

“I helpu gyda hyn, rydyn ni wedi prynu dwsinau o rwydi pop-yp, batiau a pheli ac maen nhw ar gael am ddim, ac rydyn ni wedi dosbarthu 50 o’r pecynnau yma yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn unig. Un o’r pethau gwych am dennis bwrdd yw ei bod yn gamp i bob oedran a gallu ei mwynhau, gyda manteision penodol i bobl â dementia, felly rydyn ni wir yn awyddus i weld llawer o’r pecynnau yma’n mynd i gartrefi gofal.

“Fel pob camp arall, rydyn ni’n gweithio’n galed ar sut i warchod ac addasu ein camp a dal i ddarparu cyfleoedd o ansawdd uchel i chwaraeon mewn clybiau ac yn y gymuned. Mae’n her enfawr i bawb wrth gwrs.” 

Ar lefel elitaidd, mae gan Gymru bum chwaraewr proffesiynol - Charlotte Carey, Anna Hursey, Chloe Thomas, Callum Evans a Josh Stacey – a chriw talentog o chwaraewyr ifanc ar lwybr perfformio Tennis Bwrdd Cymru.

Cyn y bydd tennis bwrdd yn ailddechrau mewn clybiau ac yn y gymuned, y cam cyntaf (pan fydd cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu) fydd sicrhau bod y rhai sy’n gwneud bywoliaeth o’r gêm yn gallu hyfforddi – ar lefel un i un i ddechrau gyda hyfforddi o bellter diogel, yn hytrach na gyda phartner hyfforddi. 

Nid yw talu am brofion y Coronafeirws yn opsiwn i sefydliad Tennis Bwrdd Cymru oherwydd y costau cysylltiedig, felly bydd rhaid i’r dychwelyd at gystadlu rhyngwladol fod yn raddol. 

Mae chwaraewyr gorau’r wlad wedi bod yn defnyddio’r cyfyngiadau symud nid yn unig i gynnal eu ffitrwydd corfforol, ond hefyd i ddadansoddi perfformiadau’r gorffennol ar fideo ac astudio elfennau’r gamp ar y lefel uchaf i’w helpu i fod ar eu gorau pan fydd y chwarae cystadleuol yn ailddechrau.

Charlotte Carey yn chwarae tenis bwrdd
Charlotte Carey


Fel rheol mae Charlotte Carey, y fenyw o Gymru yn y safle uchaf, yn hyfforddi yn Sweden, ond mae wedi bod gartref yng Nglynebwy ers i’r cyfyngiadau symud ddechrau. Gan ddisgrifio ei misoedd diwethaf, dywedodd Charlotte: “Mae mor rhyfedd i mi achos ’sa i wedi bod gartref mor hir â hyn heb deithio i gystadleuaeth ers bod yn 13 oed!

"Ar ddechrau’r cyfyngiadau symud roeddwn i’n rhwystredig iawn. Ond mae’n teimlo’n fwy normal. Mae gen i drefn, rhedeg 5k yn y bore, sesiwn hiit, codi pwysau, mynd am dro hir gyda fy nhad ac, os yw’r tywydd yn caniatáu, chwarae y tu allan ar fwrdd mae fy ffrind wedi’i roi i mi gyda robot wedi’i ddarparu gan sefydliad Tennis Bwrdd Cymru a fy noddwr i, Tees Sport. 

“Hefyd rydw i wedi defnyddio’r amser yma i wella o anaf cefn sydd wedi bod yn achosi problemau i mi ac rydw i wedi bod yn ceisio gwneud popeth i fod ar fy ngorau pan fyddaf yn cael dychwelyd at y bwrdd. Rydw i wedi bod yn astudio seicoleg chwaraeon, felly mae hynny wedi fy helpu i i feddwl am ochr feddyliol y gamp hefyd a gweithio ar strategaethau a allai fod o fudd i mi pan fyddaf yn ailddechrau chwarae. 

“Mae fy nodau i yr un fath. Mae’n anodd yn feddyliol, yr ansicrwydd ynghylch pryd byddwn ni’n gallu hyfforddi fel arfer eto, ond rydw i wir yn edrych ymlaen at hynny ac mae’n rhaid i mi ddal ati i wthio nes bod y diwrnod hwnnw’n cyrraedd.”

Os hoffech chi gael gwybod mwy am gyflenwad Tennis Bwrdd Cymru o rwydi pop-yp, batiau a pheli am ddim, cysylltwch â [javascript protected email address]

Am ragor o wybodaeth am y gamp a dolenni at fideos hyfforddi, ewch i www.tabletennis.wales

Newyddion Diweddaraf

Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?

Darllen Mwy

Pethau am ddim i’w gwneud yng Nghymru i gadw’n actif dros yr ŵyl

Dyma rai gweithgareddau i gael eich corff i symud a rhoi hwb i’ch lles dros y Nadolig.

Darllen Mwy

Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Difrod Storm ar ôl i nifer o gyfleusterau chwaraeon ddioddef…

Darllen Mwy