Skip to main content

Yn dilyn ôl traed mawr, dewch i gyfarfod Bethany Paull

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Yn dilyn ôl traed mawr, dewch i gyfarfod Bethany Paull

Daeth y gymnast Bethany Paull â blwyddyn ragorol i ben drwy fynychu gwobrau nodedig Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Sports yn Aberdeen.

Roedd y ferch 18 oed yno ochr yn ochr â rhai o enwau mwyaf y byd chwaraeon ar ôl cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Personoliaeth Ifanc y Flwyddyn.

Ymhlith yr enillwyr blaenorol mae'r enillydd medal aur Olympaidd a Phencampwr Wimbledon, Andy Murray, pêl droediwr gyda Manceinion Unedig a Lloegr sydd wedi torri sawl record, Wayne Rooney, a gymnast arall, Claudia Fragapane, a enillodd bedair medal aur yng Ngemau Cymanwlad Glasgow.

Yn y seremoni wobrwyo roedd Bethany - a enillodd dair medal aur a dwy arian yn y Gemau Olympaidd Arbennig eleni yn yr Emiradau Arabaidd Unedig - yn hynod falch o gael cyfarfod y cyflwynydd chwaraeon gyda'r BBC a seren Blue Peter, Radzi Chinyanganya.

Meddai Bethany: "Roedd yn brofiad gwych cerdded i lawr y carped coch enwog. Roedd cyfarfod llawer o athletwyr ac enwogion anhygoel yn arbennig iawn. 

"Fy ffefryn i oedd Radzi oherwydd fe wnes i ei adnabod e oddi ar Blue Peter. Mae e wedi addo anfon Bathodyn Blue Peter ata' i os byddaf yn anfon llun i'r rhaglen."

Bydd posib i Bethany, sy'n cael ei disgrifio fel ysbrydoliaeth i bawb yn Academi Gymnasteg Valley yng Nghrymlyn, osod y Bathodyn Blue Peter ochr yn ochr â'r holl fedalau mae wedi'u hennill. 

Ar ôl ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Arbennig y DU yn 2018, cafodd  Bethany ei dewis ar gyfer tîm Prydain a gipiodd 58 o fedalau yng Ngemau Olympaidd Arbennig Abu Dhabi ym mis Mawrth.

Perfformiodd y ferch ifanc, sydd ag anawsterau dysgu, yn wych i ennill tair medal aur a dwy arian yn y gystadleuaeth Gymnasteg Artistig Lefel Tri. 

Parhaodd llwyddiant Bethany ym mis Hydref pan gafodd ei choroni'n Bencampwraig Prydain yn un o gategorïau hŷn y merched ym Mhencampwriaethau Artistig Anabledd Prydain yng Nghaerlŷr. 

Er bod pencampwraig bocsio ieuenctid y Byd a'r Gemau Olympaidd, Caroline Dubois, wedi ei threchu i ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn, mae pawb yn Academi Crymlyn yn hynod falch o'i chyflawniadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Meddai'r Prif Hyfforddwr a'r cyfarwyddwr rheoli, Melissa Anderson: "'Sa i'n gwybod a yw Bethany'n sylweddoli pa mor ysbrydoledig yw hi. Mae hi'n derbyn popeth heb gynhyrfu dim.            

"Mae hi'n gweithio mewn dosbarth prif ffrwd gyda chriw o ferched ddwy neu dair gwaith yr wythnos ac wedyn ar ddyddiau Sadwrn mae hi gyda chriw o blant sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol.         

"Felly, i'r plant prif ffrwd, mae hi'n esiampl wych, yn gweithio'n galed ac yn dal ati, gan ddangos beth allwch chi ei gyflawni.                   

"Ond i'r plant yn y sgwad anabledd, mae hi'n fodel rôl eithriadol. Yr agwedd yw, 'iawn bois, efallai bod gennych chi anabledd neu anghenion ychwanegol, ond edrychwch beth allwch chi ei gyflawni drwy ymrwymo a gweithio'n galed'.

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r sgwad anabledd wedi cynyddu - mae gymnastwyr yn gwneud cystadlaethau ychwanegol ac rydw i'n credu bod Bethany'n fodel rôl gwych i'r plant yma, gan ddangos iddyn nhw beth sy'n bosib ei gyflawni."

Ddeunaw mis yn ôl, roedd rhaid i Bethany newid hyfforddwyr gan fod ei hyfforddwr blaenorol, Shevel Hewitt, wedi symud i America. Er hynny, mae hi wedi ffurfio perthynas hynod gynhyrchiol gyda'i hyfforddwr newydd, Jaz McLellan.

Dywedodd Anderson: "Doedd Jaz ddim wedi gweithio gydag anableddau mewn gymnasteg ond roedd ganddi brofiad sylweddol o weithio gyda phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, ond mewn amgylchedd ysgol. Felly roedd yn dipyn o her i Jazz hefyd.

"Fe gymerodd Bethany ychydig bach mwy o amser i addasu, ond i fod yn onest, maen nhw wedi sefydlu perthynas hyfryd. Mae'n wych gweld hynny.                         

"Mae hi wedi cael trefn newydd ar y llawr, maen nhw wedi newid ei cherddoriaeth hi, a threfn wahanol ar yr holl gyfarpar. Felly, fel y gallwch chi werthfawrogi rwy'n siŵr, mae hynny'n eithaf anodd i berson ifanc fel Bethany.

"Ond mae hi wedi llwyddo, wedi meithrin y sgiliau ar amser ac, ar ôl gweld ei pherfformiad yng ngemau'r byd ar fideo, roedd yn gwbl wych. Dylai fod yn falch iawn ohoni hi'i hun.                   

"Teithio allan i Abu Dhabi gyda hyffordddwyr y Gemau Olympaidd Arbennig, a doedd hi heb gael llawer o sesiynau gyda nhw, a phethau eraill newydd a gwahanol yn cael eu taflu ati - roedd meistroli hynny i gyd a pherfformio hyd eithaf ei gallu'n siŵr o fod yn heriol eithriadol iddi hi.                  

"Pe bai hi wedi mynd allan yno a heb ennill medalau, fe fydden ni wedi bod yn falch iawn, iawn ohoni oherwydd hynny. Roedd yn ddiwylliant mor wahanol, gwlad wahanol, mae hi wedi goresgyn cymaint o heriau."

Arweiniodd llwyddiant Bethany at ei chydnabod fel un o'r 10 enwebai terfynol ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn - wedi'u dewis o blith athletwyr ifanc eithriadol ym mhob cwr o'r wlad. 

"Mae cyrraedd rhestr fer gwobr Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn yn gyflawniad ffenomenal i unrhyw berson ifanc," meddai Anderson.

"I ferch ei hoedran hi, mae'r profiadau mae hi wedi'u cael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ffenomenal. Mae hi wedi cael profiadau gwych ac mae ei thraed hi dal ar y ddaear.

"Mae Bethany'n arweinydd ifanc hefyd, felly mae'n gwirfoddoli yn rhai o sesiynau'r ganolfan.    

"Mae hi wedi bod ar ambell gwrs ac mae'n mynd ar un arall ym mis Ionawr, sy'n gyflwyniad i wirfoddoli mewn digwyddiadau, felly mae cyfleoedd eraill iddi eu blasu hefyd."

Dywed Anderson bod y ferch ifanc yn esiampl berffaith o beth all chwaraeon ei wneud i blant a phobl ifanc o bob cefndir.               

"Rydyn ni'n glwb cynhwysol iawn," meddai. "Nid dim ond o ran pobl ifanc ag anableddau, ond pawb o'r gymuned. Rydyn ni eisiau darparu cyfleoedd i bawb fwynhau gymnasteg.

"Rydw i'n deall y manteision, os ydych chi'n cael hedfan i Abu Dhabi, mynd i Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, neu os ydych chi'n gwneud gymnasteg yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy unwaith yr wythnos, mae cymaint i'w ennill o chwaraeon, gweithgarwch corfforol rheolaidd, rhyngweithio gyda chyfoedion ac ati. Dyna ein harwyddair ni - gymnasteg i bawb. 

"Efallai bod gennych chi blant dihyder, felly rydyn ni'n gallu rhoi cyfle iddyn nhw ddisgleirio neu ryngweithio mewn amgylchedd diogel. Rydyn ni'n deall y manteision i les ac iechyd y meddwl hefyd.             

"Rydw i'n gwybod bod gennym ni blant a phobl ifanc sy'n wynebu anawsterau gartref, mae gennym ni ferch ifanc sy'n ofalwr i'w mam er enghraifft.             

"Maen nhw'n gallu dod i gymnasteg ac anghofio am hynny i gyd, mwynhau'r gamp a chael dianc am ychydig oddi wrth beth bynnag sy'n digwydd yn yr ysgol, gartref a phopeth arall. Rydw i'n meddwl bod chwaraeon yn arbennig iawn."

O ran beth sydd nesaf i Bethany fel anturiaethau gymnasteg, meddai Anderson: "Rydyn ni'n cymryd pethau un cam ar y tro.

"'Sa i'n credu bod Bethany'n hoffi meddwl bod ganddi ormod ar ei phlât. Y flwyddyn nesaf mae Gemau Olympaidd Arbennig y DU, felly'r nod ar hyn o bryd yw i Bethany ddatblygu ei pherfformiadau a chymryd rhan yn y gystadleuaeth honno."

Newyddion Diweddaraf

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy