Skip to main content

Paratoadau Hollie Arnold ar gyfer gwres mawr Tokyo

Bydd pethau'n poethi i Hollie Arnold yn ystod 2020 wrth iddi baratoi ar gyfer y tymheredd uchel eleni fel rhan o'i hamserlen - y Gemau Paralympaidd ym mis Awst yn Tokyo.

Mae'r taflwr gwaywffon sy'n bencampwraig byd - a dorrodd record y byd i gipio'r aur i Gymru yn y Gemau Cymanwlad Para yn 2018 - yn benderfynol o amddiffyn y teitl Paralympaidd a enillodd yn Rio de Janeiro yn 2016.

Y gwahaniaeth, fodd bynnag, fydd y gwres a'r closrwydd llethol yn Japan yng nghanol yr haf, o gymharu â thymheredd oerach hemisffer y de ym Mrasil ym mis Medi.  

Pan gynhaliwyd y Gemau Olympaidd y tro diwethaf yn ninas fawr Tokyo yn ôl yn 1964 - y flwyddyn pryd enillodd Lynn Davies wych ei fedal aur yn y naid hir - ym mis Medi y cynhaliwyd y Gemau.                    

Ond mae'r byd chwaraeon wedi newid ers hynny ac mae gofynion ariannol teledu Americanaidd yn golygu bod yr IOC yn dewis cynnal eu Gemau ym misoedd crasboeth Gorffennaf ac Awst gyda'r Gemau Paralympaidd yn dilyn ar Awst 25.

Bydd y tymheredd yn Tokyo yn 30 gradd o leiaf, gyda gwyntoedd cynnes ac aer llaith o'r môr yn addo closrwydd mawr.      

Mae hynny'n her i bob athletwr, yn enwedig y rhai fel Arnold sy'n cyfaddef nad yw hi'n hoff iawn o'r haul ar y gorau.           

"Dydw i ddim yn hoff iawn o'r haul, rydw i'n berson gwelw iawn," meddai'r ferch ifanc 25 oed sydd wedi gorfod paratoi'n ystyrlon iawn i amddiffyn ei theitl byd F46 llwyddiannus ym Mhencampwriaethau Para Athletau'r Byd yn Dubai ym mis Tachwedd.

"Fe wnes i rywfaint o waith mewn siambr wres cyn mynd allan i Dubai. Eistedd mewn rhyw fath o dŷ gwydr sy'n creu ei glosrwydd ei hun ym Mhrifysgol Loughborough.

"Fe ddois i i arfer eistedd yn y gwres ac wedyn rydych chi'n rhoi cynnig ar sawna. Fe wnes i sesiynau chwe awr ac roedd hynny o help. Ond fe fydd rhaid i mi wneud mwy o hyfforddiant yn y math yna o glosrwydd ar gyfer Tokyo, oherwydd mae'n mynd i fod yn llawer gwaeth."

Yn Dubai, fe gafodd rownd derfynol y waywffon ei chynnal gyda'r nos pan nad oedd hi mor boeth. Bydd yr un fath yn Tokyo, ond erbyn 7.00pm pan fydd y cystadlu'n dechrau, bydd y gwres a'r closrwydd yn ffactor enfawr o hyd.       

"Doedden ni ddim mewn haul llachar yn Dubai, ond roedd hi'n gynnes a chlos iawn yr un fath," meddai Arnold, sy'n credu y gallai trefnwyr y Gemau gymryd camau doeth a syml iawn o hyd er mwyn lleihau'r peryglon i'r athletwyr.         

"Rydw i'n deall bod symud pethau o gwmpas yn anodd weithiau i drefnwyr. Ond yn Dubai roeddwn i allan yn y gwres am bron i ddwy awr ac, yn y diwedd, fe wnaeth effeithio arna' i. Roeddwn i'n teimlo'n hollol wan.  

"O fynd yn ôl i fy mhencampwriaethau byd cyntaf erioed yn Lyon yn 2013, roedd yn ferwedig o boeth - 39 gradd am 11 o'r gloch y bore a doedd dim cysgod rhag yr haul. 

"Hyd yn oed yn Dubai, roedd cadeiriau i ni, ond dim cysgod ar gyfer yr athletwyr - dim hyd yn oed yn y bore pan oedd yr haul allan.

"Fe wnes i ymarfer am 10 mlynedd i ennill fy nghystadleuaeth bara gyntaf a dydw i ddim eisiau i'r cyfle ar y diwrnod gael ei danseilio gan y gwres."

Bydd Arnold - a gafodd ei geni heb fraich a llaw dde - yn cael hyder o leiaf o'r ffaith mai hi, yn ddiamau, yn 2019 oedd y taflwr gwaywffon benywaidd Paralympaidd gorau ar y blaned. 

Efallai ei bod wedi colli ei record byd i'w gelyn Holly Robinson o Seland Newydd fis Ebrill diwethaf, ond pan oedd popeth yn y fantol ar y llinell daflu yn Dubai, yr aelod o Dîm Cymru 2018 ddaeth yn fuddugol.           

Mae'n cyfaddef bod diffyg cystadleuaeth ystyrlon rhwng gornestau weithiau'n bygwth tanseilio ei chymhelliant, ond mae'n dal i gyflawni mewn achlysuron mawr.

"Roedd pethau'n anodd eleni, ceisio cynnal fy nghymhelliant am gymaint o amser. Roedd cymaint o fwlch rhwng 2018 ar yr Arfordir Aur a'r cystadlaethau Ewropeaidd, oedd ym mis Gorffennaf, yn anodd iawn. Doedd dim cystadlaethau mawr am 18 mis mewn gwirionedd, nes i mi gystadlu yn Dubai.

"Gan fod hynny mor hwyr yn y flwyddyn, dim ond tair cystadleuaeth oedd gen i cyn mynd i Dubai. Fy mhrif nod i oedd mynd allan yno ac amddiffyn fy nheitl. Pedwerydd teitl yn olynol oeddwn i eisiau mewn gwirionedd.

"Roedd llawer o bobl yn siarad am dorri recordiau ond fy meddylfryd i oedd mynd yno a mynd â'r fedal aur gartref.   

"Pe bai unrhyw beth arall wedi dod ar ôl hynny, fe fyddwn i wedi bod yn hapus iawn, ond yn y diwedd fe gefais i orau personol, oedd yn anhygoel ym mis Tachwedd gyda dim ond ychydig o gystadlaethau ymlaen llaw i 'mhrofi i.    

"Felly roeddwn i'n hapus iawn gyda fy mherfformiad. Fi ydi fy meirniad gwaethaf un i, felly roeddwn i'n hapus iawn gyda sut wnes i gystadlu. Ond mae llawer mwy i ddod bob amser."

Os bydd Arnold yn ennill eto yn Tokyo, bydd yn bencampwraig Baralympaidd ddwbl ac yn bencampwraig byd bedair gwaith yn ei hugeiniau canol.

Byddai'n gyfnod nodedig o reoli'n llwyr, ond does ganddi ddim cynlluniau i gerdded i ffwrdd eto ac, ar ôl cyfnod o gerdded, nofio, badminton ac ioga gartref yn Grimsby ddiwedd y llynedd, mae hi'n barod i estyn am y waywffon eto a dechrau taflu.             

"Fe fydda' i'n 26 ym mis Mehefin," meddai. "Mae'r dyfodol yng nghefn fy meddwl i bob amser oherwydd dydi cystadlu mewn camp ddim yn para am byth.

"Rhaid i chi gael cynllun wrth gefn. Rydw i wedi meddwl am aros yn y byd chwaraeon - yn hyfforddi neu ar y cyfryngau - ond dydw i ddim wedi gwneud unrhyw benderfyniadau pendant eto. Fe wnes i ddechrau yn 14 oed felly rydw i'n meddwl bod gen i ddigon o wybodaeth i'w rhannu.

"Ond dydw i ddim yn dda iawn am gynllunio. Dydw i ddim yn hoffi cynllunio blynyddoedd ymlaen llaw. Rydw i'n hoffi byw un dydd ar y tro, ond gyda nod mawr yn ystod y flwyddyn i ddod.

"Mae pethau'n digwydd ac mae'n rhaid i chi fyw eich bywyd yn y presennol. Pan rydw i'n teimlo nad ydw i'n hoffi cystadlu mwyach, dyna fydd yr amser i mi ymddeol, ond dydi hynny ddim wedi  digwydd eto yn sicr."

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy