Mae cyn fatiwr Lloegr yn paratoi ar gyfer ei dymor cyntaf yng ngofal Morgannwg, ar ôl cael ei gadarnhau yn ddiweddar fel prif hyfforddwr parhaol y sir ar ôl ei gyfnod yn y swydd dros dro eleni.

Mae'n dychwelyd i'r rol y bu ynddi am dri thymor o 2008, ond mae'r gamp, y sir a'r hyfforddwr wedi newid llawer i gyd o gymharu â degawd yn ôl.

Gyda'r gêm yn cael mwy a mwy o sylw, drwy gyfrwng twrnameintiau newydd proffidiol, mae'r frwydr am gontractau chwarae'n fwy nag erioed, yr amserlenni'n fwy heriol nag erioed a'r ymladd am berthnasedd ymhlith timau'n ffyrnicach nag erioed. 

Ac mae Maynard ei hun yn dweud ei fod yn ddyn gwahanol iawn i'r un cyn 2012, y flwyddyn pryd cafodd ei fab Tom ei ladd mewn damwain ar y rhwydwaith trenau tanddaearol yn Llundain.          

Roedd Tom yn 23 oed ac yn ymddangos fel pe bai ar y llwybr at yrfa griced lwyddiannus gyda Surrey a Lloegr, gyrfa a fyddai wedi rhagori ar gyflawniadau ei dad hyd yn oed efallai. Ond yn lle hynny, bu'n rhaid i'w deulu ddelio â sioc a thrawma ei golli'n ddirybudd.          

Mae'r saith mlynedd ers hynny wedi newid agwedd Maynard at fywyd, at griced ac at y materion sy'n effeithio ar y rhai sy'n chwarae'r gêm.

"Mae lles personol yn eithriadol bwysig," meddai'r hyfforddwr sydd hefyd wedi cael cyfnod llwyddiannus yng ngofal Gwlad yr Haf.

"Mae pawb yn mynd drwy gyfnodau anodd - boed yn brofedigaeth neu gael babi newydd, ysgariad neu beth bynnag. Mae'r pethau hyn i gyd yn gallu cael effaith ar berfformiad. 

"Rydyn ni'n ffodus o fod â Chymdeithas ar gyfer Cricedwyr Proffesiynol (PCA) sy'n eithriadol awyddus i warchod lles personol. Mae ganddyn nhw bopeth yn ei le i helpu'r chwaraewyr.

"Wedyn mae'n rhaid ceisio adnabod arwyddion a gallu gweithredu'r rhaglenni hynny. Os yw chwaraewr yn un 100mya fe rheol ac wedyn yn dawel am ychydig ddyddiau - ac os nad oes cysylltiad uniongyrchol â pherfformiad - rhaid i chi geisio cael sgwrs gyda'r chwaraewr hwnnw. 

"Rhaid i'r chwaraewyr ddeall bod rhwydwaith o gefnogaeth ar gael iddyn nhw. Yn aml iawn, dydyn nhw ddim yn siarad gyda'r hyfforddwr i ddechrau. Aelod arall o'r tîm efallai, neu'r ffisiotherapydd. Rhaid i chi gael staff sy'n gallu rhannu gwybodaeth yn gyfrinachol ac wedyn fe allwch chi gynnig yr help gorau posib i'r chwaraewyr.

"Yn y gorffennol, roedd disgwyl i bobl ddal ati, felly oedd pethau."  

Mae criced wedi bod yn gamp sydd fel pe bai'n sbarduno problemau iechyd meddwl ers amser maith. Nid yn unig mae cyfnodau hir oddi cartref ac oddi wrth deulu, ond mae'n ymddangos bod natur y gamp ei hun - gyda llwyddiant a methiant unigol manwl yn rhan o fformat tîm - fel pe bai'n arwain at lawer o hunanholi.  

Yn ddiweddar, mae seren Prawf Awstralia Glenn Maxwell, capten India Virat Kohli, Sarah Taylor o Loegr a chyn sêr fel Freddie Flintoff, Jonathan Trott a Marcus Trescothick i gyd wedi siarad am eu pryderon a'r straen roeddent yn ei wynebu.

Mae'r PCA yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol i bob aelod ac mae gan y Gymdeithas raglen Mind Matters sy'n cynnig help ac addysg i chwaraewyr.  

Fe fu Maynard yn hyfforddi Trescothick yng Ngwlad yr Haf a theithiodd gydag ef yn ystod cyfnod yr hyfforddwr fel rhan o dîm Lloegr.    

"Pan oeddwn i gyda Lloegr, cyn colli Tom, roedd achos gyda Marcus Trescothick yn India ac Awstralia.

"Felly, roeddwn i'n ymwybodol o sut gall bod oddi cartref effeithio ar chwaraewyr, yn ei achos e - y teithio a bod oddi wrth ei deulu.

"Ond mae'n debyg na wnes i sylweddoli pa mor ddwfn a difrifol roedd hyn yn effeithio arno nes i mi weithio'n agos gydag e yng Ngwlad yr Haf. Roedd amser pan oeddwn i yno ac roedd e angen rhywfaint o help, ac fe gafodd e hynny." 

Mae profiad Maynard ei hun, meddai, wedi dylanwadu ar sut mae'n edrych ar ei berthynas gyda'i chwaraewyr.

Yn ychwanegol at hynny, mae'n cydnabod bod llawer mwy o ymwybyddiaeth o'r cyswllt rhwng iechyd emosiynol a pherfformiad chwaraeon.

"Mae rhai agweddau arnaf i sy'n debyg iawn i'r person oeddwn i, ond mae agweddau eraill wedi newid yn eithaf dramatig.

"Mae profiadau bywyd yn eich newid chi fel person, ond mae'r dyhead i geisio gwella chwaraewyr dal yr un fath ac mae'r hyn rydw i'n ei gredu am ddisgyblaeth tîm dal yr un fath.

"Rydw i'n meddwl fy mod i'n deall beth sy'n gyrru chwaraewyr yn well nag oeddwn i yn y gorffennol. Fe wnaethon ni broffilio'r chwaraewyr y tymor diwethaf, am y tro cyntaf, ac roedd yn ddiddorol iawn. Ond hefyd rydych chi'n dysgu sut i drin pobl, sut i siarad gyda phobl a sut mae rhyngweithio'n cyflawni llwyddiant, wrth i chi aeddfedu.

"Bydd unrhyw un sydd wedi colli plentyn yn dweud wrthych chi eich bod chi'n newid yn llwyr. Dydych chi byth yn dod dros y peth. Rydych chi'n dysgu sut i ddal ati i fyw gydag e, sy'n golygu bod hynny'n eich newid chi.

"Mae'n wir am unrhyw un sydd wedi bod yn y sefyllfa erchyll honno yn fy marn i. Ond dydych chi ddim yn gallu aros yn llonydd chwaith. Mae gennych chi deulu arall i ofalu amdano, biliau i'w talu a bywyd i'w fyw.      

"Rydych chi'n ymdopi. Rydw i'n credu 'mod i'n ffodus o un peth, sef bod fy nhad wedi fy nysgu i bob amser mai adloniant yw chwaraeon. Nid gwaith ydi criced i mi. Dydi e heb deimlo fel gwaith fel chwaraewr erioed.

"Pan mae rhywbeth gwael yn digwydd, rydych chi'n mabwysiadu persbectif ffres. Roedd rhaid i mi weithio, ond roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n gallu mwynhau fy ngwaith oherwydd rydw i wedi mwynhau bod yn y byd criced erioed.

"Rydw i'n cael dyddiau gwaeth na'i gilydd, ond rydw i'n ceisio peidio â dangos hynny i'r chwaraewyr - mae gen i eraill yn gefnogaeth i mi - dydw i ddim eisiau iddyn nhw deimlo'n fwy pryderus.

"Ac rydych chi angen hiwmor. Mae hynny'n hanfodol."