Skip to main content

Nofio Cymru – y rhai i’w gwylio

Efallai bod Georgia Davies ac Alys Thomas yn herio oedran yn ogystal â'r farn draddodiadol am nofwyr, ond mae digon o sêr newydd yng Nghymru'n efelychu eu camp.                   

Profwyd hynny yn ddiweddar ym Mhencampwriaethau Cwrs Byr Cenedlaethol y Gaeaf Cymru gyda llawer iawn o berfformiadau trawiadol gan y genhedlaeth nesaf. 

Yn gymharol ddiweddar, roedd ieuenctid yn eu harddegau fel pe baent yn rheoli'r gamp, ond mae Davies a Thomas - sydd ill dwy yn 29 oed - wedi profi bod eu blynyddoedd gorau wedi cael eu hymestyn lawer ymhellach i'r cyfeiriad arall.

Cipiodd Thomas yr aur yn y pili pala 200m yng Ngemau'r Gymanwlad y llynedd gan nofio ei gorau erioed bron, a daeth yn bumed ym mhencampwriaethau'r byd eleni. Hefyd enillodd Davies fedal aur yn y dull cefn 50m ym mhencampwriaethau Ewrop y llynedd ac fel ei chyd-aelod o dîm Cymru, mae wedi cyrraedd safon byd wrth iddi nesau at ei phen blwydd yn 30 oed.     

Dilynodd y ddwy nofwraig lwyddiannus o Gymru lwybrau gwahanol fis Rhagfyr. Rasiodd Davies ym Mhencampwriaethau Cwrs Byr diweddar Ewrop yn Glasgow ac enillodd fedal efydd yn y dull cefn 100m, a gwelwyd Thomas ym mhencampwriaethau Cymru yn Abertawe. Roedd Thomas yn frenhines y pwll yno, gan ennill pedair cystadleuaeth a chael gorau oes newydd yn y dull rhydd 200m.

Hefyd manteisiodd Dan Jervis - prif nofiwr gwrywaidd Cymru - ar y cyfle i fwynhau dipyn o gysuron cartref drwy ennill y dull rhydd 1500m mewn blwyddyn sy'n addo bod yn flwyddyn Olympaidd enfawr i'r nofiwr o Resolfen, ar ôl iddo "afael ynddi" , fel mae'n cyfaddef ei hun, ym mhencampwriaethau'r byd ym mis Gorffennaf.    

Y tu ôl i'r triawd ar y top, roedd y cyfarfod tridiau yn Abertawe'n gyfle hefyd i sêr Cymru yfory berfformio - fel Matt Richards, Lewis Fraser, Kyle Booth, Joe Small, Elena Morgan a Medi Harris - i ddangos eu cynnydd.  

I gyfarwyddwr perfformiad cenedlaethol Nofio Cymru, Ross Nicholas, mae'r pencampwriaethau cwrs byr domestig yn gyfle i gael golwg ar sut mae pethau'n gweithio, yn hytrach na'u gwthio i'r eithaf.

"Gyda'r Gemau Olympaidd ar y gorwel, bydd mwy o bwysau wrth i'r misoedd fynd heibio," meddai Nicholas. "Felly, yr adeg yma o'r flwyddyn, rydyn ni'n tueddu i gadw proffil eithaf isel.

"Rydw i'n edrych ar ddyfnder ein nofwyr iau ni, pwy sydd gennym ni'n dod drwodd a phwy sy'n dechrau codi safon. Mae un llygad ar Gemau Cymanwlad 2022 a thu hwnt.

"Mae hefyd yn fesur da, yn gynnar yn y tymor, o ran ble mae rhai o'r athletwyr eraill - yn enwedig o ran gweithredu eu prosesau. Dyna beth rydyn ni'n edrych arno fwyaf, yn hytrach na'r canlyniad cyffredinol.    

"Rydyn ni'n edrych ar eu gallu technegol a'r nodau rydyn ni wedi'u gosod iddyn nhw. Rydyn ni'n eu monitro a'u tracio drwy gydol y flwyddyn."

I nofiwr fel Jervis, sydd dal ond yn 23 oed, dylai tynhau pethau olygu ei fod mewn sefyllfa dda iawn i gael ei ddewis ar gyfer y Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf. 

"Dyna'r peth sy'n mynd i'w symud nhw ymlaen. O ran Dan Jervis, ei nod technegol clir yw ei allu i roi ei draed ar y wal a chychwyn a symud ar y lefel y mae'n rhaid iddo fod arni er mwyn cystadlu yn erbyn goreuon y byd eleni.   

"Dyna ble mae'n colli tua 0.3 eiliad mae'n debyg ar bob tro i oreuon y byd. Felly mae'r ffocws ar broses. Lle maen nhw arni, yn dechnegol ac yn gorfforol. O ddweud hynny, roeddwn i'n falch iawn o beth welais i yn gyffredinol."

Cafwyd pump record ar lefel Cymru yn y Pencampwriaethau - a gynhaliwyd ym Mhwll Cenedlaethol Cymru gyda thua 1,000 o wylwyr. Ymhlith y rhai'n gwneud eu marc roedd Harris, athletwraig 17 oed gyda Nofio Gwynedd a gafodd hatrig o deitlau yn y dull cefn 50m, 100m a 200m.

Cafodd y cystadleuydd oedd yn rownd derfynol Pencampwriaeth Iau Ewrop orau personol o 59.91 yn y dull cefn 100m - y tro cyntaf iddi fynd o dan funud fel amser.

Meddai Nicholas wedyn: "Y peth gorau i mi yw ein bod ni'n dechrau gweld dyfnder gwirioneddol yn datblygu yn y grwpiau oedran iau.               

"Yn draddodiadol, fel gwlad fechan, mae gennym ni un neu ddau o ieuenctid da. Ond nawr rydyn ni'n gweld grŵp llawer mwy o ieuenctid sydd nid yn unig yn gystadleuol yn erbyn ei gilydd, ond yn gystadleuol ar lefel genedlaethol Brydeinig hefyd.

"Mae gennym ni lawer iawn sy'n rhif pedwar neu bump ym Mhrydain Fawr. Mae hynny'n rhoi cronfa lawer mwy o dalent i ni. Ond mae'r pontio i gystadlu elitaidd ar lefel hŷn yn mynd yn anos am fod pobl yn aros yn y gamp am lawer hirach."               

Gyda Richards - pencampwr iau Ewrop eleni yn y dull rhydd 100m - Harris a Booth i gyd yn symud yn awr o lefel iau i lefel hŷn, byddant yn cystadlu'n rheolaidd yn fuan yn erbyn nofwyr sydd wedi bod yn nofio ers amser hir iawn, fel Thomas a Davies.

Mae hynny, meddai Nicholas, nid yn unig yn rhywbeth y bydd rhaid iddynt arfer ag ef, ond yn sefyllfa y mae pob nofiwr ifanc yn mynd i orfod ei hwynebu gan fod cystadleuwyr hŷn yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gadw'n heini ac yn iach a chael eu gwobrwyo'n ariannol am eu hamser.   

"Newidiadau mewn gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon sy'n gyfrifol am hyn, ond hefyd cyflwyno cyflogau eithaf da i rai o'r athletwyr gorau," meddai cyn nofiwr rhyngwladol Cymru a Phrydain Fawr. 

"Mae'r ystod oedran ymhlith y rhai sy'n ennill medalau mewn nofio rhyngwladol yn enfawr erbyn hyn. Fe allwch chi fynd o nofwyr 15 oed i rai yn eu 30au cynnar. Mae'n anhygoel. 

"Mae mwy o arian i ddal ati'n hirach os ydych chi'n gallu cadw'n heini. Mae'n yrfa tymor hir ymarferol bellach."

Newyddion Diweddaraf

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy