Skip to main content

Y Rhedwr Roc a Rôl

Mae Jimmy Watkins, a gyrhaeddodd rownd derfynol yr 800m ym Mhencampwriaethau Athletau Dan Do y Byd, yn elwa o fanteision corfforol a meddyliol ar ôl dychwelyd at redeg fwy na degawd ar ôl troi ei gefn ar y gamp. 

Ddwy flynedd yn unig ar ôl herio goreuon y byd ym Moscow yn ôl yn 2006, rhoddodd y cyn bencampwr 800m o Gymru ei esgidiau rhedeg i gadw ac estyn am ei gitâr a throi at ei angerdd mawr arall – cerddoriaeth roc. 

Ond ar ôl treulio’r 10 mlynedd nesaf yn byw bywyd roc a rôl ac yn chwarae gyda sawl band llwyddiannus – gan gynnwys Future of the Left – sylweddolodd Watkins bod ei iechyd yn dechrau dioddef.

Ar ddiwedd 2018, penderfynodd ei bod yn amser am newid a throdd at y gamp yr oedd wedi gwneud enw iddo’i hun ynddi fel rhedwr rhyngwladol hynod addawol dros Gymru a Phrydain Fawr. 

Ers estyn am ei esgidiau rhedeg eto, mae’r gŵr 39 oed wedi elwa’n fawr, gan gynnwys gwella ei iechyd meddwl ac aildanio ei ddyhead i gystadlu. 

Ar ôl dechrau drwy loncian yn araf, dechreuodd Watkins gymryd rhan mewn rasys 5k a 10k, cyn dechrau cystadlu eto ar drac athletau dan do am y tro cyntaf ers mwy na 10 mlynedd ddiwedd 2019.                               

Meddai Watkins: “Roeddwn i tua 16 stôn y flwyddyn ddiwethaf, ac yn yfed gormod yn sicr, ac yn mynd i ormod o bartïon. Doeddwn i ddim yn byw yn iach iawn o gwbl.   

“Fe wnes i addo i mi fy hun y byddwn i’n dechrau loncian eto a dod yn heini. Fe wnes i dreulio tua dau fis yn rhedeg am hwyl, i gael gwared ar y bol cwrw.   

“Wedyn mae rhywbeth jyst yn digwydd, mae rasio’n dod yn ôl ac rydych chi eisiau profi eich hun yn erbyn pobl eraill.”

Awgrymodd cyn hyfforddwr Watkins, Arwyn Davies, y dylai roi cynnig ar ras 600m yng nghyfarfod dan do y Nadolig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn NIAC fis Rhagfyr diwethaf.

“Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n mynd yn ôl ar y trac byth eto,” meddai Watkins. “Fe wnes i ddechrau drwy wneud ychydig o rasio ar y ffordd, ambell 5k a 10k, ac wedyn fe wnaeth Arwyn awgrymu, ‘beth am i ti ddod i fyny yma a gwneud 600’?”

Fe welodd Watkins bod dychwelyd i’r trac lle cystadlodd dan do ddiwethaf yn 2008 yn cynnig manteision ychwanegol. 

Meddai: “Fe wnes i benderfynu bod yn heini ac iach i bobl eraill oherwydd rydw i’n haws byw efo fi pan rydw i’n iach, felly fe wnes i hynny i fy nheulu.

“Ond am y tro cyntaf drwy’r flwyddyn, yn lle rhedeg i bobl eraill, hwn oedd y peth cyntaf i mi ei wneud i mi.

“Dyma lle wnes i rasio am y tro cyntaf erioed, felly roeddwn i eisiau dod yn ôl i lawr yma. Roeddwn i’n teimlo ’mod i wedi gadael ar delerau gwael felly roeddwn i eisiau rhoi sylw i ryw fusnes anorffenedig.” 

Yn ogystal â’r manteision corfforol o ddychwelyd at redeg, mae Watkins yn dweud ei fod wedi rhoi hwb i’w iechyd meddwl hefyd a byddai’n annog pobl eraill i roi cynnig ar redeg er mwyn gwella llesiant yn gyffredinol. 

Dywedodd Watkins: “Efallai nad oeddwn i’n sylwi cymaint ar hynny yn fy 20au oherwydd efallai nad oedd yn gymaint o broblem â hynny bryd hynny, ond mae rhedeg o fudd i iechyd y meddwl. 

“Doeddwn i ddim yn isel, ond roeddwn i mewn hwyliau da iawn weithiau ac wedyn yn rhywun fyddech chi’n ei ystyried fel person normal – roedd y cyfnodau da yr un mor rhyfedd. 

“Mae rhedeg wedi fy helpu i oherwydd dydw i ddim yn cael cyfnodau mor dda ag oeddwn i, rydw i fwy yn y canol, rhwng person normal ac un sydd wedi cael 10 coffi. Rydw i fel Jimmy Pump Coffi nawr! Yn y canol!       

“Mae llawer o bobl yn rhoi’r gorau i redeg am eu bod nhw’n anelu am fanteision corfforol. Wedyn, ar ôl pedair wythnos, dydyn nhw ddim wedi colli’r pwysau oedden nhw eisiau ac maen nhw’n colli hyder. 

“Ond rydw i wir yn gallu dweud y byddwch chi’n teimlo lles meddyliol bob tro ewch chi allan i redeg. Os mai dim ond meddwl am y lles i’ch iechyd fyddwch chi, dim ond un sesiwn rhedeg sydd ei angen.”

Mae Watkins wedi sefydlu clwb rhedeg ar-lein hyd yn oed, o’r enw Running Punks, sy’n cael ei ddisgrifio fel “llwyth o unigolion unigryw, anhygoel a gwych gyda meddylfryd pync a dyhead i fyw bywyd difyr a gwella’u hunain”. 

Mae ei ddychweliad at redeg wedi denu diddordeb o bob cwr o’r byd gyda chriw ffilmio o Lundain yn cofnodi ei ffordd yn ôl at ffitrwydd ac Athletau’r Byd yn rhoi sylw i’w stori ar eu gwefan yn ddiweddar. 

Hefyd mae Watkins wedi dechrau podlediad gyda’r teitl diddorol “Megabus to the Ritz”. 

Wrth esbonio’r enw, meddai Watkins: “Dychmygwch y Megabus yma ar y draffordd, a mwg yn dod o’i esgôst ym mhob man,” 

“Mae wedi chwyddo braidd, yn llawn pobl yn bwyta creision ac yn drewi o draed. Fi oedd hwnnw fwy na blwyddyn yn ôl. Y Ritz ydi’r nod yn y pen draw. Rhywle lle mae pawb eisiau mynd.”   

Stop nesaf y Megabus yw Pencampwriaethau Dan Do Cymru – y gystadleuaeth lle enillodd Watkins deitl 800m Cymru yn ôl yn 2005.

Meddai’r athletwr o Lanelli: “Fe wna’ i gystadleuaeth dan do Cymru ac rydw i’n meddwl y galla’ i wneud ryw un pum deg ar gyfer 800m.

“Rydw i’n meddwl y galla’ i wneud e. Pe baech chi wedi dweud hynny wrtha i ar y dechrau, fe fyddwn i wedi chwerthin dros y lle. Ond rydw i’n meddwl y galla’ i.”

Ar ôl penderfynu rhoi’r gorau i athletau ar lefel elitaidd yn ôl yn 2008 am nad oedd yn hoffi’r gamp mwyach, mae Watkins yn dweud bod y sbarc wedi cael ei danio unwaith eto ers iddo ddychwelyd at redeg er pleser ac er lles ei iechyd. 

“Fe wnes i ddechrau rhedeg i golli pwysau ac wedyn sylweddoli ei fod yn gwneud byd o les i mi yn feddyliol hefyd. 

“Felly rydw i’n ôl nawr, am yr ail filltir,” meddai’r gŵr sy’n cael ei adnabod fel y ‘Y Rhedwr Roc a Rôl’.