Drwy logi ei neuadd, hyd yma i dri chlwb pêl droed lleol, pum clwb criced, a chynnal dosbarthiadau bocsarfer dair gwaith yr wythnos, mae gan Glwb Criced Ynystawe gynllun cynaliadwy yn ei le eisoes i godi’r arian y bydd arno ei angen i newid y llawr eto ymhen 20 mlynedd. Nod y clwb yw parhau i hybu’r cyfleuster ymhlith grwpiau cymunedol lleol, a thargedu teuluoedd ac oedolion hŷn.
Wrth ymweld â’r cyfleuster i’w agor yn swyddogol, dywedodd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae cael mynediad i gyfleusterau chwaraeon o safon uchel yn hanfodol os ydyn ni eisiau creu Cymru sy’n genedl fwy egnïol, felly mae’n wych gweld y gwahaniaeth positif mae’r cyfleusterau newydd yng Nghlwb Criced Ynystawe yn ei wneud. Dyma beth roedden ni’n ei ragweld wrth lansio’r gronfa Lle i Chwaraeon y llynedd.”
Yn 2019, neilltuodd Llywodraeth Cymru £5m ar gyfer y gronfa ‘Lle i Chwaraeon’ i Chwaraeon Cymru, i ddyfarnu grantiau i wella, gwarchod neu greu cyfleusterau chwaraeon newydd yng Nghymru. Yn ogystal ag uwchraddio Clwb Criced Ynystawe, mae’r arian wedi helpu i gyllido mwy na 150 o brosiectau sydd o fudd i 28 o wahanol chwaraeon. Mae’r prosiectau’n amrywio o draciau beicio newydd i adnewyddu ystafelloedd newid, caeau artiffisial newydd, gosod llifoleuadau yn eu lle, robotiaid hyfforddi tennis bwrdd a phopeth yn y canol.