Skip to main content

Coronafeirws – Chwaraeon Cymru a’r sector

Diweddarwyd - 14/03/2020

Gyda phroblemau parhaus a lledaeniad Coronafeirws, mae’r byd chwaraeon yn canfod ei hun wrth galon yr adrodd yn ôl a’r trafod. 

Does dim amheuaeth bod hyn wedi achosi pryder ac ansicrwydd i’r cyhoedd. 

Mae Chwaraeon Cymru yn parhau ar agor ar gyfer busnes ac rydym yn parhau i fonitro a dilyn cyngor a chyfarwyddyd yr asiantaethau swyddogol, yn enwedig Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.

Hoffem atgoffa holl ddefnyddwyr ein cyfleusterau ei bod yn bwysig cynnal safonau hylendid rhagorol bob amser. Byddwch yn gweld ein bod wedi gosod cynhyrchion hylendid ychwanegol mewn mannau cyhoeddus allweddol yn ein cyfleusterau, yn ogystal â phosteri a negeseuon atgoffa eraill am hylendid dwylo da. Rydym wedi sefydlu trefn lanhau gynyddol drwy gyfrwng ein contractwyr hefyd, gan gynnwys targedu ardaloedd cyhoeddus allweddol. 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am archebion rydych chi wedi eu gwneud yn ein cyfleusterau, dylech gysylltu â’n timau gwasanaethau cwsmeriaid ar y rhifau isod. 

Y Ganolfan Genedlaethol, Caerdydd - 0300 3003123

Plas Menai - 0300 3003111

Yn gyffredinol, os ydych chi’n cymryd rhan mewn camp a gweithgaredd, mae’n bwysig eich bod yn gwneud y canlynol: 

  • Dilyn cyngor a chyfarwyddyd yr asiantaethau swyddogol, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ddoe, (12/03/2020), cafodd y cyfarwyddyd swyddogol ei ddiweddaru os oes gennych chi symptomau’r haint Coronafeirws.
  • Ymarfer hylendid dwylo da, yn ogystal â hylendid da wrth ddefnyddio offer sy’n cael ei rannu.
  • Cadw at unrhyw gyfarwyddyd ychwanegol sy’n cael ei roi gan gorff rheoli eich camp.

Mae Chwaraeon Cymru yn parhau i fonitro’r sefyllfa, gan dderbyn cyngor gan asiantaethau swyddogol, a byddwn yn cyflwyno diweddariadau drwy ein sianelau os bydd y cyngor ar gyfer ein cwsmeriaid yn newid.     

Newyddion Diweddaraf

Hwylio I’r dyfodol

O ran hwylio, dydi pawb ddim yn yr un cwch, felly mae'r gamp yn newid i gwrdd â gofynion a diddordebau…

Darllen Mwy

Lansio hwb adnoddau newydd i helpu chwaraeon yng Nghymru i leihau eu heffaith amgylcheddol

Defnyddiwch yr adnodd ar-lein yma i ymgysylltu â materion cynaliadwyedd a chreu newid ystyrlon.

Darllen Mwy

Sut i gael cyllid ar gyfer eich clwb tennis yng Nghymru

Dysgwch am grantiau sydd ar gael i glybiau tennis yng Nghymru.

Darllen Mwy