“Fe wnes i sylweddoli y gallai’r cyfyngiadau symud yma fynd un ffordd neu’r llall. Fe allwn i naill ai fwyta gormod, yfed gormod a rhoi stôn o bwysau ymlaen. Neu fe allwn i ddefnyddio’r amser fel cyfle da i ddod yn fwy heini a cholli stôn.”
Agwedd feddyliol bositif at y cyfyngiadau symud
Fe benderfynodd Ali Yates, 45 oed, fynd gyda’r olaf a gyda chriw o ffrindiau sy’n mynd i Slimming World ym Methesda, mae wedi wynebu her o gerdded, beicio neu redeg o Land’s End i John O’Groats.
Mae’n her enfawr. Mae’r merched naill ai’n gymharol newydd i ymarfer neu braidd yn rhydlyd. Mae’r llwybr yn 1,083 o filltiroedd ac mae’r ffrindiau wedi dewis ceisio ei gwblhau mewn 10 wythnos.
“Mae hynny’n 108 milltir ar y cyd, 19 milltir y dydd. Mae rhai’n cerdded, rhai’n beicio neu’r ddau,” meddai. Mae Ali yn faint 20 ac mae wedi bod yn cael anhawster gyda’i phwysau yn ddiweddar. Mae’n hyfforddwr awyr agored ers 20 mlynedd ond fe wnaeth ei lefelau gweithgarwch leihau pan gafodd swydd weinyddol, o flaen desg, fel Rheolwr Gweithrediadau Plas Menai, y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ar gyfer Cymru.
“Fe wnes i ymuno â Slimming World ac maen nhw i gyd mor neis a chefnogol. Fe ddechreuodd hyn i gyd pan oedd un o’r merched yn mynd drwy gyfnod anodd iawn. Roedd ei mab 12 oed yn cael trawsblaniad iau felly fe wnaethon ni benderfynu gwneud her codi arian er mwyn gallu helpu.”
Fis Ionawr, fe wnaeth Ali awgrymu eu bod nhw’n mentro Rhwyf-Fyrddio yn Sefyll ar Afon Menai, gyda chefnogaeth y tîm ym Mhlas Menai.
“Fe wnaethon ni gychwyn o Blas Menai a mynd i Gaernarfon ac yn ôl. Roedd yn gyflawniad mawr iawn, yn enwedig o ystyried bod llawer o’r merched yn nerfus am wisgo siwt wlyb. Ond gan ein bod ni i gyd yn gwneud yr her gyda’n gilydd, roedd yn gymaint o hwyl. Roedd pawb wedi mwynhau ac eisiau gwneud mwy.”
Fe aethon nhw dan do ar gyfer eu hymarfer nesaf:
“Rhoi cynnig ar Ddawnsio Dŵr oedd y penderfyniad nesaf. Roedd un o’r merched wedi colli chwe stôn ond doedd hi heb fod yn nofio ers 35 o flynyddoedd. Doedd un o’r merched eraill heb nofio erioed ac roedd wedi gwella o ganser y fron. Fe wnaethon ni roi cynnig ar bolo dŵr a chaiacio hyd yn oed. Roedd yn gymaint o hwyl.”
Ond mae lledaeniad y Coronafeirws wedi gorfodi Plas Menai i gau ei ddrysau. Ond fe aeth Ali ati i dynnu’r llwch oddi ar ei beic a meddwl am y syniad o her Land’s End i John O’Groats:
“Y tro cyntaf i mi fynd ar fy meic, fe wnes i 3.5 milltir a theimlo nad oeddwn i’n heini o gwbl, ond rydw i wedi gwella llawer ers hynny. Rydw i wedi bod yn dilyn rhaglen Soffa i 30 milltir ar-lein, gan fuddsoddi mewn cit da ac fe wnes i 20k mewn pythefnos.
“Mae wyth ohonom ni’n ei wneud ac rydyn ni i gyd yn cynnwys ein teuluoedd i ymarfer gyda ni bob dydd. Y cynllun yw cwblhau’r llwybr mewn 10 wythnos. Fe fydden ni wrth ein bodd yn cael gwneud y tair milltir olaf gyda’n gilydd ond bydd rhaid i ni weld fydd y cyfyngiadau symud wedi cael eu codi.
Hefyd mae Plas Menai wedi bod yn cefnogi pobl i fynd yn ôl ar eu beic yn ddiogel gyda chyngor doeth ar ei dudalen Facebook:
“Mae pethau syml fel ddim yn gwybod sut i drwsio pyncjar yn gallu bod yn rhwystr mawr sy’n atal pobl rhag mynd ar gefn eu beic. Ond mae beicio yn ffordd wych o gadw’n heini, dim ond eich bod chi’n gwneud hynny’n ddiogel a chan gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol y Llywodraeth.
“Mae’n teimlo fel ein bod ni i gyd yn gwneud rhywbeth positif yn hytrach nag aros o gwmpas i glywed y newyddion drwg diweddaraf. Mae wedi bod yn dda i symud y meddwl.”
Mae cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar gyfer beicio yn ystod y cyfyngiadau symud wedi cael ei ddiweddaru yn awr. Mae disgwyl i chi feicio ar eich pen eich hun neu gydag aelodau eich teulu, ar lwybrau cyfarwydd sydd o fewn lefel eich gallu. Dylai beicwyr ar lwybrau a rennir fod yn ystyriol tuag at gerddwyr, rhedwyr a phobl eraill sy’n beicio: dylent gadw dwy fetr oddi wrth ei gilydd, arafu eu cyflymder a stopio i adael i bobl fynd heibio fel sy’n briodol. Mwy o fanylion yma.