Skip to main content

AG gartref - beth mae plant ei eisiau?

Gan Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru - Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus 

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi gweld effaith enfawr ar gymdeithas wrth i ni wynebu cyfyngiadau symud ac ymarfer cadw pellter cymdeithasol llym. 

Mae gweithio o gartref wedi arwain at lawer o heriau, ac un her fawr yw’r ffaith bod llawer ohonom ni wedi dod yn athrawon newydd ein plant.      

Mae ysgolion ledled Cymru wedi cymryd camau enfawr i wneud y pontio hwn mor hwylus â phosib gan greu adnoddau ar-lein, datblygu ffyrdd amrywiol o gadw mewn cysylltiad a chynnig cyngor, yn ogystal ag arddangos esiamplau o addysgu gartref gwych. Yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni hefyd wedi rhyddhau adnoddau arbenigol am ddim i rieni eu defnyddio er mwyn helpu yn ystod y cyfnod yma. Mae’r adnoddau hyn nid yn unig yn galluogi rhieni i gadw eu plant yn actif, ond hefyd mae’n rhoi hyder eu bod yn adlewyrchu’r math o sesiynau fyddem yn eu gweld mewn ysgolion. 

Y gwirionedd wrth gwrs yw nad ydyn ni i gyd yn athrawon A.G. cymwys a hyd yn oed os ydyn ni, mae hwn yn amgylchedd gwahanol iawn. Ond yn ystod cyfnod fel hwn, un peth y gallwn ni ei wneud er mwyn cefnogi plant yw gwrando ar eu barn nhw. 


Mae Chwaraeon Cymru yn cynnal Arolwg Chwaraeon Ysgol, un o’r ymarferion llais y disgybl mwyaf yn y byd, ac mae’n rhoi gwybodaeth allweddol i ni am beth mae plant ei eisiau mewn perthynas â chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rydyn ni eisiau rhannu rhai o’r gwersi o’r arolwg diwethaf er mwyn helpu yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. 

Hyder:

Dywedodd mwy na chwarter y 120,000 o blant a gymerodd ran yn yr arolwg ar chwaraeon ysgol diwethaf y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai ganddynt fwy o hyder. Rydyn ni’n gwybod bod cefnogi plant i roi cynnig ar bethau newydd a datblygu sgiliau newydd, heb bwysau diangen, yn ffactor pwysig yn eu parodrwydd i wneud mwy o chwaraeon. 

Does neb yn mynd i fod yn asesu gallu eich plentyn yn yr ardd gefn. Nawr yn fwy nag erioed, fe allwn ni groesawu egwyddorion y cwricwlwm sydd i ddod yng Nghymru a chael rhyddid i fod yn actif heb ofni methu. Does dim medalau Olympaidd yn y fantol felly fe allwch chi fod yn gyfforddus a gweithio gan ymlacio heb ganolbwyntio ar dargedau. 

Ffitrwydd:

Yn gysylltiedig â hyder, mae bron i chwarter y plant yn dweud y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe baent yn fwy heini. Does dim angen dull strwythuredig o weithio. Mae dim ond symud a bod yn actif yn eithriadol fuddiol i iechyd corfforol a meddyliol ar hyn o bryd.     

Manteisiwch ar yr holl adnoddau am ddim sydd ar gael, fel ymarferion dyddiol ar YouTube neu’r cyngor gan ymgyrch #CymruActif Chwaraeon Cymru. Rhaid i chi ddeall bod chwarae heb strwythur hyd yn oed yn garreg gamu at well iechyd corfforol, gan arwain at fod yn barotach ar gyfer bod eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon yn y dyfodol. 

Mwynhad:

Gan fynd yn ôl at y pwynt am wrando ar lais y disgyblion, mae cyswllt hynod arwyddocaol rhwng y plant hynny sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos a’r rhai sy’n teimlo bod pobl yn gwrando ar eu barn am addysg gorfforol. 

Os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth arall yn ystod y cyfnod yma o gyfyngiadau, canolbwyntiwch ar bethau hwyliog a phleserus, beth sy’n creu hyder a beth mae eich plant eisiau ei wneud. Gofynnwch iddyn nhw am y math o weithgareddau chwaraeon maen nhw eisiau rhoi cynnig arnyn nhw ac y maen nhw’n eu mwynhau, a gadewch iddyn nhw fod yn greadigol ac yn llawn dychymyg o ran sut mae gwneud hyn yn eich cartref. Cofiwch hefyd na fydd un gamp neu sesiwn yn addas i bob plentyn, felly daliwch ati i drafod. 


Gyda’n gilydd os yw hynny’n bosib: 

Gall gwneud pethau eich hun fod yn her. Rydyn ni’n gwybod mai’r ffactor pwysicaf sy’n cefnogi plant i fod eisiau gwneud mwy o chwaraeon yw os yw eu ffrindiau’n gallu cymryd rhan gyda nhw. Wrth gwrs, mae hynny’n anodd yn yr hinsawdd yma, ond gyda mwy a mwy o bobl yn troi at dechnoleg ar-lein, beth am groesawu hynny ble gallwch chi. Zoom, Youtube, Whatsapp, Facetime – mae sawl ffordd i chi drefnu gweithgarwch a ffitrwydd ar y cyd, hyd yn oed os yw hynny’n digwydd o bell. 

Cyfle:     

Rydyn ni wedi gweld dros y blynyddoedd mai’r rhwystrau mawr o ran cymryd rhan mewn chwaraeon yw bod y cyfleoedd yn gyfyngedig. Ymhlith y rhesymau allweddol sy’n cael eu nodi gan blant dros beidio â gwneud mwy o chwaraeon mae dim digon o amser, maen nhw angen mynd adref ar ôl ysgol, nid yw’r clybiau’n hawdd eu cyrraedd neu maen nhw’n gorfod dal y bws. Mae Chwaraeon Cymru yn parhau i hybu’r angen am ddiwrnod ysgol estynedig yn y tymor hir ond, am nawr, mae gwell cyfle nag erioed i fanteisio ar yr amser rhydd i wneud mwy. 

Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb, ond mae hefyd yn rhoi cyfle enfawr i chi sefydlu dull o fod yn actif sy’n creu manteision oes i’r teulu cyfan. Bydd yn dechrau gartref ond cawn weld pa mor bell allwn ni fynd ag ef yn y pen draw.