Skip to main content

Tanio dychymyg eich plentyn ... a’i gael i fod yn actif

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Tanio dychymyg eich plentyn ... a’i gael i fod yn actif

Mae’r cyhoedd yng Nghymru wedi cael eu hannog i fod â thân fel Draig yn eu bol er mwyn cadw ein plant yn heini ac ar dân. 

Fedrwch chi ymdopi â’r gêm Dwli Dwl? Fyddwch chi’n llwyddo gyda’r Pump Ffynci? 

Dyma ddwy gêm sy’n rhan o heriau Chwarae i Ddysgu ac Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig gan Chwaraeon Cymru. 

Y nod yw cadw plant tair i 11 oed Cymru yn iach ac yn actif drwy weithgareddau hwyliog y gallant gymryd rhan ynddyn nhw gyda gweddill y teulu yn eu cartrefi a’u gerddi.     

Hefyd maen nhw’n ceisio hybu datblygiad corfforol a sgiliau symud creadigol, yn ogystal â thanio dychymyg plant gyda straeon a themâu cyffrous. 

Os ydych chi’n chwaraewr rygbi o Bontypridd, chwaraewr pêl rwyd o Nantymoel, neu ganŵ-ŵr o Fae Colwyn, efallai bod y cyfyngiadau symud wedi eich gwneud chi’n llai heini, felly dyma gyfle perffaith i chi weld fedrwch chi helpu eich plant i ddofi’r Ddraig.       

Mae dwsinau o wahanol gemau a sgiliau i’w meistroli yma ar wefan Chwaraeon Cymru.           

Ewch i:

https://www.sport.wales/media-centre/latest-news/2020-04-21-sport-wales-makes-education-resources-available-during-lockdown/

Os ydych chi’n meddwl bod eich ymdrechion yn haeddu cynulleidfa ehangach, neu ddim ond eisiau rhannu’r hwyl wrth fod yn gorfforol yn ystod y cyfyngiadau symud, postiwch eich clipiau ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CymruActif.

Un ymennydd y tu ôl i’r rhaglen yw’r addysgwraig a’r hyfforddwraig arweinyddiaeth Jan English, a ddatblygodd y gemau i ddechrau ar gyfer plant i’w defnyddio mewn ysgolion. 

Ond gyda’r cyfyngiadau symud presennol yn effeithio ar fwyafrif helaeth yr ysgolion yng Nghymru – a dim ond rhai plant yn cymryd rhan yn eu gweithgarwch corfforol arferol – mae heriau’r Ddraig ar gael nawr ar gyfer pob plentyn a rhiant yn eu cartrefi eu hunain.       

“Pan oedden ni’n eu defnyddio nhw gydag ysgolion, meithrinfeydd, grwpiau chwarae ac ati, roedd pawb wrth eu bodd,” meddai Jan.

“Ond os unrhyw beth, yn ystod y cyfnod presennol, maen nhw’n fwy perthnasol nag erioed. Nid dim ond chwaraeon yw’r ffocws. Mae pobl yn addysgu gartref ac yn chwilio am weithgareddau i’w gwneud yn y tŷ ac os ydych chi’n fam ac eisiau cadw’ch plant yn actif gyda gweithgareddau hwyliog, mae’r rhain yn berffaith. 

“Gemau mewn fformat cyflym a hawdd yw’r rhain. Does dim angen llawer o offer, ar wahân i beth fyddai gennych chi yn y tŷ, ac fe allwch chi fod mor greadigol a dychmygus ag ydych chi eisiau. 

“Byddai’n grêt pe bai pobl yn cael hwyl, herio ei gilydd a dangos eu hymdrechion ar-lein fel bod teuluoedd a ffrindiau’n gallu rhannu a bod yn rhan o hyn.”

Felly, mae gennym ni Chwarae a Chwedlau – yn cynnwys tagwyr ac osgowyr – Helfa Ŵy y Ddraig – sy’n cynnwys creu cwrs rhwystrau – a gemau eraill ar gyfer plant saith i 11 oed.       

Wedyn mae gennych chi Ddawns y Ddraig, Jade yn Neidio a Phlop Cerrig Mân ar gyfer y plant tair i saith oed.

Mae Plop Cerrig Mân yn cynnwys taflu gwrthrychau i fwced a bydd Jade yn Neidio yn eich cael chi i neidio ar draws afon lydan.       

Gan fod y gweithgareddau hyn wedi cael eu creu’n wreiddiol ar gyfer grwpiau ysgol, mae’r lluniau a rhai awgrymiadau’n cynnwys grwpiau mwy o blant na sydd yn y rhan fwyaf o deuluoedd. 

Ond mae posib eu haddasu nhw i gyd ar gyfer grwpiau llai a does dim angen neb ychwanegol at y teulu agosaf, a allai beryglu cadw at y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol. 

“Mae’r gemau’n gallu cael eu chwarae fel fersiwn a fyddai ond yn cynnwys parau neu rieni a phlant gyda’i gilydd,” meddai Jan.

“Mae posib eu haddasu ac yn sicr dydyn ni ddim eisiau i bobl gynnwys unrhyw un y tu allan i’w teulu. 

“Ond byddai’n grêt pe bai pobl yn wynebu’r her ac yn cymryd rhan. Tybed sut hwyl fyddai capten rygbi Cymru’n ei gael ar rai o’r rhain, neu chwaraewyr pêl droed neu bêl rwyd Cymru, neu gerddorion neu sêr teledu Cymru, neu hyd yn oed y Prif Weinidog, Mark Drakeford?”

Byddai’n braf iawn gweld.