@GowerRidersCC

Yn Chwaraeon Cymru, y blaenoriaethau yn y tymor byr yw cadw ein pen ariannol uwch ben y dŵr – gyda’r Coronafeirws yn dod ychydig wythnosau ar ôl y llifogydd a achoswyd gan Stormydd Ciara a Dennis – cymell pobl yng Nghymru i gadw’n actif yn ystod y cyfyngiadau symud, a rhoi gwybodaeth gyson i’n partneriaid ni. Mae hyn i gyd wedi dibynnu ar ddefnyddio technoleg i raddau amrywiol.

Ond beth am y dyfodol?     

Beth bynnag a ddaw yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod, rydw i’n fwy sicr nag erioed y gall technoleg wneud gwahaniaeth creiddiol i oroesi a ffynnu. 

I mi yn bersonol, mae rhedeg neu feicio wedi bod yn allweddol er lles fy iechyd corfforol a meddyliol. 

Mae’r gymuned ar-lein wedi bod yn allweddol hefyd. 

Rydw i wedi dwyn rhai ymarferion cartref gwych o gyfrifon ar Twitter ac Instagram, ac wedi rhoi cynnig ar rai o’r sesiynau rhagorol sydd ar ein tudalennau ni yn #CymruActif Chwaraeon Cymru.

Ac rydw i wedi ymuno â miliynau o bobl eraill, a Benji’r ci, ar y mat ioga ac wedi llacio’r cyhyrau gydag Adriene ar You Tube. Roeddwn i’n rhyfeddu, ond eto ddim yn synnu, o ddarllen yr erthygl oedd yn amcangyfrif y gallai sianel y guru o Texas wneud cymaint â $188,500 y mis o refeniw hysbysebu yn unig.          

David Lloyd @Home

A dyna pryd wnes i ddechrau meddwl – fe fydd enillwyr a chollwyr o’r cyfyngiadau symud – y rhai sydd eisoes wedi croesawu (neu sy’n mynd ati nawr i groesawu) technoleg fel ffordd o gysylltu â’u haelodau a’u cwsmeriaid, a’r rhai sydd heb gychwyn oddi ar y blociau dechrau.   

Yn syml, bydd clybiau a sefydliadau chwaraeon llwyddiannus yn gallu pecynnu eu darpariaeth yn wahanol, gan weithio hefyd gyda’u haelodau a’u cwsmeriaid mewn ffordd hwyliog, ysgogol, cynhwysol, cefnogol a llawn gwybodaeth ... gan wneud iddynt deimlo’n rhan o rywbeth mwy – cymuned. 

Gall technoleg ein helpu ni i gyd i gyflawni’r pethau hyn. 

Fe welais i ddyfyniad grêt gan un clwb: “fe ddylech chi ganolbwyntio ar beth allwch chi ei wneud, nid beth nad ydych yn gallu ei wneud”.

Ac mae rhai esiamplau gwych o hynny (ac rydw i’n gobeithio y gallwch chi rannu eich esiamplau gyda ni). 

Mae rhai ohonyn nhw wedi aros gyda mi: 

  • Clybiau’n darparu sesiynau ar-lein, fel sesiynau Zoom Beicwyr Gŵyr, sy’n cysylltu’n rheolaidd gyda’i aelodau ac yn darparu cefnogaeth i gadw’n heini ac actif. 
  • clwb tennis bwrdd yma yn Brighton (do, rydw i wedi dwyn hwn gan gydweithwyr yn Sport England) sydd wedi croesawu’r ymdeimlad o gymuned gyda’i sioe ddyddiol ei hun. 
  • Clybiau David Lloyd @home membership sy’n cynnal incwm masnachol tra mae eu cyfleusterau wedi cau eu drysau.                 
  • Clybiau fel Clwb Golff Pontarddulais sy’n defnyddio eu cegin ac yn darparu prydau tecawê eithriadol boblogaidd i’r gymuned leol. Mae darllen yr Adolygiadau ar Facebook yn codi gwên yn sicr. 
  • Mae cynllun Next Bike yng Nghaerdydd wedi mynd ati i sefydlu ei le fel cyfrannwr allweddol at y rhwydwaith teithio a rhoi hwb i enw da ei frand gyda’i ddarpariaeth ddiweddaraf. 
  • Mae gan ein hadnoddau Atebion Clwb lawer mwy o esiamplau hefyd.

Gall defnyddio technoleg godi ofn ond defnydd syml sy’n gweithio orau yn aml – a parkrun yw fy hoff esiampl i. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar-lein ac yn aml mae’n well dysgu oddi wrth eraill gan eu bod nhw wedi gwneud camgymeriadau yn ystod y cynlluniau hefyd mae’n siŵr. 

Felly, dyma un sicrwydd i chi ... mae chwaraeon a hamdden yng Nghymru’n mynd i edrych yn wahanol iawn yn y dyfodol a bydd technoleg yn chwarae rhan ganolog. 

Bydd angen newid ffordd o feddwl. Yn hanesyddol, mae prinder adnoddau wedi bod ar gyfer cyfathrebu a thechnoleg yn y byd chwaraeon mewn sawl maes, o bersbectif pobl ac arian. Mae’n anodd gweld sut gall hynny barhau. 

Rhaid i bob clwb a sefydliad chwaraeon edrych ar sut gall technoleg eu helpu i gysylltu â’u haelodau, cefnogi incwm masnachol, gwella effeithlonrwydd, helpu eu gwirfoddolwyr, neu ddarparu gweithgarwch sy’n ategu neu’n datblygu eu dull o weithredu. 

Goroesi neu ffynnu ... mae chwaraeon a thechnoleg wedi dod yn llawer pwysicach mewn ychydig wythnosau yn unig. Fedrwn ni ddim fforddio anwybyddu hynny.