“Gan fy mod i’n chwaraewr sboncen oedd hynny mae’n siŵr – rydyn ni’n gwneud 60 i 70 y cant o’n hymarfer dan do ac wedyn yn cystadlu dan do hefyd.   

“Ond rydw i wedi bod yn gwneud llawer o gerdded ger fy nghartref yng ngogledd Cymru ers y cyfyngiadau symud ac wedi dod i’w fwynhau yn fawr. 

“Rydyn ni wedi cael ci bach newydd yn ddiweddar ac felly rydw i wedi bod yn defnyddio’r amser sydd gen i ddim yn chwarae sboncen yn mynd â’r ci am dro ac yn ei hyfforddi ac rydw i wir wedi teimlo manteision hynny.” 

Mae meddygon, arbenigwyr iechyd meddwl a gwyddonwyr chwaraeon wedi pwysleisio erioed bod cerdded yn rheolaidd yn gallu helpu gydag iechyd emosiynol gymaint â ffitrwydd corfforol.                 

Pan gyflwynwyd cyfyngiadau’r coronafeirws, fe ddaeth cerdded yn ffordd o godi hwyliau i lawer o bobl o bob oedran a lefel ffitrwydd – yn enwedig gan mai dim ond un ffurf ar ymarfer bob dydd oedd y rheolau’n ei ganiatáu.             

Ond er bod y rheoliadau newydd yn gadael i ni ymarfer gymaint ag yr ydyn ni eisiau nawr, dim ond i ni aros yn lleol, cerdded – yn y dref, y ddinas neu yng nghefn gwlad – yw’r dewis o hyd i lawer o bobl. 

Rhowch gynnig ar gerdded ac efallai y gwelwch chi ei fod nid yn unig yn codi’r cwmwl tywyll uwch eich pen ond hefyd yn helpu i glirio’ch meddwl, datrys problemau, ac arwain at greadigrwydd hyd yn oed. 

Rygbi, pêl rwyd, athletau a sboncen yn cyfuno wrth i Lloyd Ashley, Nia Jones, Aled Sion Davies a Tesni Evans siarad am yr hyn maen nhw’n ei wneud i gadw’n actif yn gorfforol...Rhan 1

Chwarae Fideo

 

Ac wrth i’ch hwyliau wella yn yr awyr iach, efallai y cewch chi fudd ychwanegol o fod yn gymdeithasol gyda’r cymdogion fyddwch chi’n eu gweld – dim ond i chi gadw dwy fetr o bellter wrth gwrs.           

A dweud y gwir, mae gan Tesni ddau gyngor syml iawn ar gyfer gofalu am iechyd eich meddwl yn ystod y cyfnod pryderus yma – cerdded a siarad. 

“Yr hyn sydd wir yn helpu yw siarad gyda phobl a bod yn onest gyda nhw am eich teimladau,” meddai’r ferch 27 oed o’r Rhyl sy’n rhannu ei hamser rhwng gogledd a de’r wlad pan nad yw’n hedfan i bob cwr o’r byd i chwarae mewn twrnameintiau.               

“Weithiau, rydw i wedi bod yn deffro heb unrhyw gymhelliant o gwbl. Mae’r tymor sboncen wedi dod i stop a does neb wir yn gwybod pryd bydd yn ailddechrau. 

“Mae sôn am fis Medi, ond mae’r cyfan yn yr awyr ac mae’r ansicrwydd yma’n gallu gwneud pethau’n anodd o ran cael ffocws. Hefyd mae’r adroddiadau ar y newyddion a’r pethau rydych chi’n eu darllen ar gyfryngau cymdeithasol yn gallu gwneud i chi deimlo’n ansicr iawn am bethau. 

“Dyna pam rydw i’n gwneud yn siŵr ’mod i’n siarad yn onest am sut rydw i’n teimlo gyda’r bobl agosaf ataf i sy’n fy nghefnogi i. Rydw i’n lwcus mai fy nhad yw fy hyfforddwr i hefyd, oherwydd rydw i wedi gallu cadw mewn cysylltiad ag o drwy’r amser.” 

Gan ei bod wedi cael anaf i’w ffêr a achosodd oedi cyn iddi allu dechrau cymryd rhan yn y tymor sboncen presennol yn ôl ym mis Ionawr, nid yw Evans – sydd hefyd yn chwarae sboncen cynghrair i’r Welsh Wizards yng Nghaerdydd – wedi chwarae gêm gystadleuol ers mis Hydref diwethaf.                 

Mae’n gyfnod eithaf hir i rywun sydd ond wedi arfer peidio â chwarae sboncen am ddim ond deufis bob haf.   

Ond mae’r cyfyngiadau symud wedi ei gorfodi i gyfrif ei bendithion a dysgu gwneud yn fawr o bethau. 

“Fel arfer rydw i’n treulio naw mis o’r flwyddyn oddi cartref, yn chwarae mewn twrnameintiau, ond y gwir amdani yw ’mod i’n hoff iawn o fod gartref.   

“Mae’r sefyllfa yma wedi galluogi i mi dreulio llawer o amser gartref ac rydw i wedi bod yn gwneud yn fawr o hynny. 

“Rhaid i chi chwilio am elfennau positif. Fe fydd llawer ohonom ni’n edrych yn ôl ar y cyfnod yma ac yn gweld bod manteision iddo, am nad oedden ni’n brysio hyd y lle am unwaith.   

“Mae’n hawdd teimlo braidd yn ddigalon pan mae teimladau negyddol yn dod i’ch meddwl chi, ond wedyn rydych chi’n cofio bod rhai pobl yn yr ysbyty gyda choronafeirws, yn brwydro am eu bywydau, ac mae hynny’n rhoi pethau mewn persbectif.”

RHAN 2

Chwarae Fideo