Skip to main content

Y bwlch anghydraddoldeb wedi cynyddu yn ystod y cyfyngiadau symud

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y bwlch anghydraddoldeb wedi cynyddu yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae ymchwil yn awgrymu bod y cyfyngiadau symud wedi gwaethygu’r bwlch rhwng pobl actif a segur yng Nghymru, gyda’r rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig yn dioddef fwyaf.

Mae arolwg sydd wedi’i gynnal gan Savanta ComRes ar ran Chwaraeon Cymru wedi canfod er nad yw’r lefelau gweithgarwch corfforol wedi newid yn sylweddol – mae 34% o oedolion Cymru’n dweud eu bod yn gwneud mwy yn ystod y cyfnod yma na chyn cyfyngiadau COVID-19, a 33% yn dweud eu bod yn gwneud llai – mae amrywiadau amlwg oddi mewn i grwpiau demograffig penodol.

Ymhlith yr oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, mae 39% yn dweud eu bod yn gwneud mwy o weithgarwch a 32% yn gwneud llai, sy’n golygu bod cynnydd o +7 pwynt canran wedi bod mewn gweithgarwch. Fodd bynnag, ar gyfer oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, mae 29% yn gwneud mwy a 33% yn gwneud llai, sy’n golygu bod gostyngiad o -4 pwynt canran wedi bod ymhlith y grŵp hwn.

Mae canlyniadau’r arolwg yn awgrymu bod y gwahaniaeth yn amlycach fyth ymhlith plant. Er bod 9% o oedolion yn gyffredinol yn dweud nad yw eu plant yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol neu ymarfer ar ddiwrnod nodweddiadol ar hyn o bryd, ar gyfer y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, mae’r ffigur yn 14%.

Yn gyffredinol, dywedodd 26% o rieni bod eu plant yn gwneud mwy o weithgarwch nag arfer yn ystod y cyfyngiadau symud, a dywedodd 35% bod eu plant yn gwneud llai. Fodd bynnag, dim ond 23% o rieni o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is sy’n dweud bod eu plant yn fwy actif nag arfer, o gymharu â 36% sy’n dweud eu bod yn gwneud llai.

Yn ddiddorol, mae’n ymddangos bod y rhaniad gwryw-benyw mewn gweithgarwch wedi newid yn llwyr yn ystod y cyfyngiadau symud. Dywedodd cyfran uwch o ferched (36%) nag o ddynion (32%) eu bod wedi gwneud mwy o ymarfer neu weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf o gymharu ag wythnos nodweddiadol cyn cyfyngiadau COVID-19.

Mae merched yn fwy tebygol na dynion o fod wedi ‘cerdded fel hamdden’, gwneud ‘dosbarthiadau ymarfer gartref ar-lein’ neu fwynhau ‘chwarae actif anffurfiol/gemau yn y tŷ neu’r ardd’, tra mae dynion yn fwy tebygol o fod wedi ‘beicio fel hamdden’ na merched. Mae merched yn fwy tebygol o fod wedi gwneud gweithgarwch corfforol ar 1 i 4 diwrnod yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a dynion  yn fwy tebygol o fod wedi ymarfer ar bump neu fwy o ddyddiau.

Hefyd datgelodd yr arolwg gynnydd net mewn lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion iau 16 i 34 oed (+15 pwynt canran), ond gostyngiad net ymhlith y rhai 35 i 54 oed (-2 pwynt canran) a 55+ (-5 pwynt canran).

Wrth ymateb i ganfyddiadau’r arolwg, dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru Brian Davies: “Er ei bod yn galonogol gweld y pwysigrwydd hanfodol mae’r Llywodraeth wedi’i bennu i ymarfer yn ystod y pandemig hwn, yn anffodus mae’n ymddangos bod llawer o’r anghydraddoldeb a fodolai eisoes wrth gymryd rhan mewn chwaraeon wedi dwysáu yn ystod y cyfyngiadau symud.

“Fel rhan o’r gwaith ar y cyd sy’n cael ei wneud er mwyn ailgyflwyno chwaraeon ar bob lefel yng Nghymru yn ddiogel, rhaid i ni sicrhau ein bod yn adlewyrchu’r wybodaeth hon yn ein hymdrechion i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol mor hygyrch â phosib a thargedu ein hadnoddau i gyrraedd y cymunedau a’r grwpiau hynny sy’n llai actif yn ystadegol.

“Ar gyfer plant yn benodol, rydw i’n meddwl bod canlyniadau’r arolwg yma’n pwysleisio pwysigrwydd chwaraeon ysgol a’n strwythur o glybiau chwaraeon i bobl ifanc yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd, er bod y cyfyngiadau symud yn parhau, fe hoffwn i dynnu sylw at ymgyrch #CymruActif sy’n cynnig amrywiaeth eang o syniadau ar gyfer gweithgarwch a heriau i helpu pob oedran i fod yn actif, yn ogystal ag ymarferion cartref addas i bob gallu.   

“Hefyd rydyn ni wedi creu nifer o adnoddau arbenigol i wella sgiliau corfforol a chwaraeon plant ac maen nhw ar gael i’w lawrlwytho am ddim o’n gwefan ni. Ewch i adran #CymruActif ar wefan Chwaraeon Cymru i gael gwybod mwy, neu chwilio am yr hashnod ar gyfryngau cymdeithasol.”

Arolygodd Savanta ComRes 1,007 o oedolion Cymru rhwng 8 a 12 Mai. Mae’r data wedi cael eu pwysoli er mwyn bod yn ddemograffig gynrychioliadol o oedolion 16+ oed Cymru yn ôl rhywedd, oedran a’r aelwydydd a amcangyfrifir sydd â phlant dan 16 oed. 

Sign-up to our funding and support newsletter below.

* ofynnol