Skip to main content

Gwylio’r cloc a choginio – bywyd yn nhŷ’r Cabangos

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gwylio’r cloc a choginio – bywyd yn nhŷ’r Cabangos

Trefn a gwobrau yw’r ffordd ymlaen yn ystod y cyfyngiadau symud, awgryma amddiffynnwr Dinas Abertawe, Ben Cabango.

Mae’r llanc 19 oed – sydd wedi cael adolygiadau gwych yn ystod ei dymor cyntaf gyda’r clwb – yn cyfaddef bod bywyd gartref ar ôl i’r tymor pêl droed ddod i stop wedi bod yn anodd dod i arfer ag ef. 

Er ei fod wedi dechrau chwarae pêl droed yn y Bencampwriaeth gyda’r Elyrch, mae Cabango yn dal i fyw gyda’i deulu yng Nghaerdydd. 

Mae hynny wedi bod yn gorfodi strwythur naturiol i’w ddiwrnod – codi’n gynnar, teithio i gae ymarfer Fairwood Dinas Abertawe ac wedyn ymarfer digon a llosgi llawer o egni dan gyfarwyddyd hyfforddwyr y clwb cyn dychwelyd adref.   

Ond yn fwy diweddar, roedd wedi symud i dŷ yn Abertawe, ond pan gafodd y tymor ei ohirio ym mis Mawrth – heb unrhyw hyfforddiant na gemau i chwaraewyr proffesiynol y wlad – symudodd y bachgen lleol o Ogledd Llandaf, Cabango, yn ôl at ei rieni, ei frawd Theo, a’i daid.           

“Fe ddiflannodd fy mhatrwm rheolaidd i dros nos ac yn sydyn iawn roeddwn i’n mynd i’r gwely’n hwyr, yn codi’n hwyr ac yn gweld ’mod i wedi colli hanner y diwrnod,” cyfaddefa.

“Cyn y cyfyngiadau symud, fe fyddwn i ar fy ffordd am 8.30am. Fe fyddwn i yn y gampfa erbyn 9.30am ac wedyn allan ar y cae ymarfer yn fuan ar ôl 10. Roedd strwythur i’r diwrnod, fe fyddwn i wedi cyflawni llawer cyn cinio ac roeddwn i’n gwybod ble oeddwn i. 

“Y peth nesaf oedd yn digwydd oedd ’mod i’n rholio allan o’r gwely am 11 y bore! Doedd dim cynlluniau ar gyfer y diwrnod, dim ond ychydig o ymarfer, a ’dyw hynny’n dda i ddim i mi. Fi angen trefn.”

Rydw i’n meddwl am y tymor yn dechrau eto – dyna sy’n fy nghymell i ar hyn o bryd – i gadw mor heini â phosib er mwyn bod yn barod ar gyfer pan fyddwn ni’n dechrau chwarae eto.
Ben Cabango

Ar ôl trafod ei anghenion gyda hyfforddwyr a swyddogion y clwb, mae’r amddiffynnwr canol ifanc – y mae llawer yn disgwyl iddo fod yn rhan o ymgyrch Cymru yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop sydd wedi’u gohirio tan y flwyddyn nesaf – wedi setlo’n llawer gwell erbyn hyn. 

Mae ei drefn nawr yn cynnwys codi am 8.00, bwyta brecwast iach, ac wedyn mentro allan i redeg i’w baratoi am y diwrnod.       

Fe roddodd y clwb bythefnos o seibiant o ymarfer iddo i ddod at ei hun ar ôl tymor cyntaf eithriadol flinedig gyda’r tîm cyntaf, ond nawr mae ei ddyddiau’n llawn.   

“Fe fydda’ i’n rhedeg 5k efallai, wedyn cyfres o sbrintiau byrion, ac wedyn rydw i’n gallu mynd adref lle mae gen i ddymbelau a phwysau tegell i weithio gyda nhw yn yr ardd.  

“Yn y prynhawniau, fe fydda’ i’n ymlacio gyda’r teulu, cymdeithasu gyda ffrindiau ar-lein neu fynd ag un o’n cŵn ni am dro.”              

Weithiau, yn lle rhedeg, bydd Ben a Theo, sy’n 17 oed – ac yn digwydd bod yn chwaraewr rygbi digon da i fod yn rhan o academi Gleision Caerdydd – yn mynd â phêl gron a phêl hirgron i’r parc i fireinio eu sgiliau.                 

A dyma ble mae’r gwobrau’n cyfrif, oherwydd byddai dim ond gwaith heb unrhyw chwarae’n ddiflas iawn i Ben. 

Mae Ben Cabango wedi dod o hyd i ddiddordeb newydd mae’n hoff iawn ohono – coginio, sy’n gyfuniad o hwyl a maeth da. 

“Y tymor yma, rydw i wedi bod llawer mwy o ddifrif am fy neiet a maeth, oherwydd mae’n rhaid i chi wneud hynny os ydych chi am gael y gorau ohonoch chi eich hun wrth ymarfer ac mewn gemau. 

“Mae bwyd da’n gwneud i mi deimlo’n well ac rydw i wedi dechrau mwynhau ei wneud. Fe wnes i paella neis y noson o’r blaen, ac roedd yn hyfryd. 

“Rydw i wedi gwneud cyrri tatws melys da ac roeddwn i eisiau gwneud pizza iach gyda fy nhoes fy hun, ond mae cael gafael ar flawd yn amhosib bron.           

“Mae coginio’n sgil ddefnyddiol ac mae’n bleserus oherwydd mae’n symud eich meddwl chi oddi wrth bopeth arall sy’n digwydd ar hyn o bryd. 

“Mae llawer o fechgyn Abertawe wedi bod yn datblygu gwahanol sgiliau. Mae Connor Roberts yn mwynhau gwaith coed ac yn brysur yn gwneud silffoedd llyfrau a chabinets ac mae Joe Roden wrth ei fodd gyda PS4.

“Mae hynny’n sgil, am wn i – ac o leiaf mae’n cadw’r chwaraewyr mewn cysylltiad, sy’n beth mawr arall i ni ar hyn o bryd – i gadw mewn cysylltiad gyda phawb.”

Ar hyn o bryd, y PlayStation yw’r cyfle gorau i unrhyw bêl droediwr proffesiynol yng Nghymru fwynhau cystadlu tra mae’r cyfyngiadau symud yn parhau.

Does dim dyddiadau penodol i’r chwaraewyr yn yr Uwch Gynghrair neu’r Gynghrair Bêl Droed ddychwelyd i chwarae, ond mae’r clybiau’n parhau’n optimistig y gallant ailafael yn y tymor ryw dro yn ystod yr haf.                 

Yr haf nesaf – yn 2021 – efallai y bydd uchelgais gwahanol ar feddwl Cabango gyda’r Ewros sydd wedi’u gohirio’n gyfle am rywfaint o fri rhyngwladol. 

Ar ôl ennill bri eisoes gyda Chymru Dan 17, Dan 19 a Dan 21, mae’n awyddus i sicrhau lle yn sgwad Ryan Giggs mewn pryd ar gyfer rowndiau terfynol y twrnamaint.       

“Rydw i’n meddwl am y tymor yn dechrau eto – dyna sy’n fy nghymell i ar hyn o bryd – i gadw mor heini â phosib er mwyn bod yn barod ar gyfer pan fyddwn ni’n dechrau chwarae eto. 

“Cyn i’r tymor stopio, fy nod i oedd ceisio gwthio ymlaen ac efallai sicrhau lle yn y sgwad ar gyfer yr Ewros yr haf yma. 

“Roeddwn i’n gwybod bod siawns o hynny pe bawn i’n cadw fy lle yn nhîm Abertawe. Ond gyda’r rowndiau terfynol wedi’u symud ymlaen flwyddyn, mae mwy o gyfle i mi nawr i wneud yn siŵr bod Ryan Giggs yn sylwi arna’ i.

“Os bydda’ i’n gweithio’n galed bob dydd er mwyn gwella fy hun fel chwaraewr, ac yn cael tymor da dan fy melt, rydw i’n meddwl y galla’ i wneud yn siŵr fy mod i’n barod amdano pan ddaw’r cyfle. 

“Fe fyddwn i wrth fy modd yn chwarae dros Gymru yn yr Ewros. Fe fyddai’n anrhydedd enfawr ac mae’n gymhelliant mawr arall i mi ar hyn o bryd.

“Mae’r oedi’n rhoi blwyddyn arall i mi brofi fy hun ac mae hefyd yn golygu y bydd cyfle i chwaraewyr fel Joe Allen gael blwyddyn arall i wella o’u hanaf a bod yn heini. 

“Mae hynny’n aruthrol bwysig – felly mae llawer i edrych ymlaen ato.”