Main Content CTA Title

Diweddariad: Clybiau’n rhannu manylion am gefnogaeth mewn argyfwng

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Diweddariad: Clybiau’n rhannu manylion am gefnogaeth mewn argyfwng

Mae effaith y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng yn achub clybiau wedi cael sylw eto, wrth i 11 o glybiau pellach dderbyn cefnogaeth. 

Yn wythnos naw y ceisiadau, mae £13,120 wedi cael ei gymeradwyo i 11 o glybiau ledled Cymru. 

Mae cyfanswm y grantiau sydd wedi’u dyfarnu drwy’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi cyrraedd £543,944 ar gyfer 295 o glybiau oedd angen cefnogaeth ariannol ar unwaith. 

Hefyd, gohiriwyd wyth cais yr wythnos hon wrth iddynt aros am ragor o wybodaeth neu gadarnhad am gyllid arall gan y Llywodraeth.     

 

Dywedodd Joan Targett, Ysgrifennydd y Clwb yng Nghlwb Bowlio Garndiffaith:

“Fe hoffai Clwb Bowlio Garndiffaith ddiolch i Chwaraeon Cymru am y grant diweddar o £2,000. Mae’r grant wedi cael ei ddefnyddio i dalu am symud coeden oedd wedi mynd yn beryglus pan gawsom ni stormydd drwg yn ddiweddar, a hefyd i atgyweirio ffens sydd wedi difrodi. Bydd y gweddill yn cael ei ddefnyddio i newid ffos rwber mewnlenwi oherwydd fe gollwyd llawer ohoni yn ystod yr un stormydd.”

Ac meddai Mike Watkins o Glwb Golff Pontypridd:

“Ar ddechrau pandemig y Coronafeirws, nid oedd sefyllfa ariannol Clwb Golff Pontypridd yn gadarn iawn. Roedd y tywydd drwg cyson a gafwyd cyn y pandemig wedi effeithio ar incwm y clwb oherwydd gostyngiad difrifol mewn incwm o adeilad y clwb ac o’r cwrs golff. Fe wnaeth y cyfyngiadau a orfodwyd gan y pandemig waethygu’r problemau hyn gyda’r ffrwd incwm, gyda chau llwyr ar y clwb i ddechrau, ac wedyn y cwrs. 

“Penderfynodd y clwb bod posib stopio defnyddio’r clwb a rhoi’r staff ar ffyrlo, ond nid oedd yr un peth yn ddoeth ar gyfer y cwrs a staff y lawntiau, oherwydd pan fyddai’r sefyllfa’n gwella a golff yn ailddechrau, ni fyddai posib chwarae ar y cwrs. 

“Cafodd y cais i Chwaraeon Cymru ar gyfer y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng ei dargedu i ddarparu cyllid i ddiwallu anghenion cynnal a chadw’r cwrs golff yn ystod y cyfnod arbennig yma. Roedd y grant ddaeth i mewn ar ddechrau mis Mai yn galluogi’r clwb i sicrhau deunyddiau lawnt gan ei gyflenwyr ar unwaith, ac wedyn llogi offer arbenigol ar gyfer awyriad y lawnt golff a hefyd i wneud gwaith cynnal a chadw arbenigol ar beiriannau’r clwb. 

“Er nad oedden nhw wedi llwyddo i gadw at eu hamserlen arfaethedig, gyda chefnogaeth y grant, a’r tywydd da ym mis Mai, llwyddodd y staff i wneud iawn am yr amser a gollwyd a chwblhau’r holl waith roedden nhw wedi’i gynllunio. Roedd hynny’n golygu bod Clwb Golff Pontypridd ar gael ar gyfer chwarae pan gafodd golff ailddechrau ym mis Mai. 

“Heb y grant byddai wedi bod yn amhosib cadw’r cwrs mewn cyflwr derbyniol ar gyfer ailddechrau chwarae golff arno. Mae mwyafrif helaeth aelodau’r clwb yn byw yn lleol ac maen nhw wedi dychwelyd i chwarae golff ar ôl i’r gamp gael ailddechrau. Er bod y clwb wedi colli aelodau am nad oedd y cwrs ar gael o ganlyniad i dywydd gwlyb iawn i ddechrau ac wedyn y pandemig, mae’r newyddion am gyflwr gwych y cwrs ar ôl ei gau wedi cael ei rannu’n lleol ac wedi denu aelodau newydd. Mae’n hynod braf bod proffil oedran yr aelodau newydd wedi ffafrio’r grŵp o oedolion ifanc – gwaed newydd y mae’r clwb ei angen.”

Mae mwy o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd, a chwestiynau ac atebion, ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru yma.

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau ac ymholiadau i emergencyrelief@sport.wales

Newyddion Diweddaraf

£2.1m mewn Grantiau Arbed Ynni wedi'u dyfarnu i 120 o glybiau chwaraeon yng Nghymru

Mae'r Grant Arbed Ynni yn helpu clybiau i dorri costau ac ailfuddsoddi arbedion yn ôl mewn chwaraeon…

Darllen Mwy

Plant sydd ag anghenion ychwanegol yn mwynhau cyffro sgïo, gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol

Diolch i gyllid drwy Chwaraeon Cymru, mae Ice Cool Kids wedi gallu adnewyddu ei offer oedd wedi mynd…

Darllen Mwy

Lle i Chwaraeon: Helpu clybiau i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn

Gall clybiau chwaraeon yng Nghymru gael cyllid i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn drwy Le…

Darllen Mwy