Skip to main content

Y gefnogaeth mewn argyfwng yn fwy na £550,000 erbyn hyn

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y gefnogaeth mewn argyfwng yn fwy na £550,000 erbyn hyn

Mae cefnogaeth i achub clybiau wedi cael ei rhoi yn awr i 313 o glybiau ledled Cymru ar ôl wythnos 10 y ceisiadau.

Mae’r cyfanswm sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer clybiau drwy’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi cyrraedd £570,079 erbyn hyn, ar ôl cymeradwyo £26,769 i 22 o glybiau eraill yr wythnos hon. 

Hefyd mae 25 o geisiadau wedi cael eu gohirio ar hyn o bryd tra maent yn aros am ragor o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth.

Yn wreiddiol, neilltuodd Chwaraeon Cymru £400,000 i’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng. Cafodd y swm ei gynyddu yn ddiweddarach i £550,000 ond gydag ymrwymiad i fuddsoddi unrhyw arian mewn argyfwng ychwanegol oedd clybiau ei angen. 

 

“Mae’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi profi’n gwbl allweddol i chwaraeon cymunedol ac mae wedi bod yn galonogol clywed yr adborth am sut mae wedi diogelu’r asedau cymunedol hanfodol yma ar gyfer y dyfodol,” meddaiCyfarwyddwr Cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru, Owen Hathway.

“Rydyn ni nawr yn creu cynlluniau terfynol ar gyfer cam nesaf ein cefnogaeth i glybiau cymunedol, a’r amcanion yw parhau i warchod y rhai sy’n wynebu risg a hefyd paratoi eraill i ailddechrau. Bydd gennym ragor o fanylion am hyn yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.”

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i [javascript protected email address]

Newyddion Diweddaraf

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

Mae Dr Sue Barnes wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru.

Darllen Mwy