Skip to main content

Cyngor i fod yn actif, gan Ben John

Mae gan gyn seren rygbi Cymru, Ben John, neges i unrhyw un sy’n poeni bod y cyfyngiadau ar symud yn mynd i fod yn anodd iawn o ran iechyd a ffitrwydd. 

“Does dim rhaid i hynny ddigwydd. Does dim angen offer ffansi na llawer o ofod i edrych ar ôl eich hun,” meddai John, sy’n hyfforddwr ffitrwydd personol nawr ac yn brif hyfforddwr mewn campfa yn Llundain, Manor.

Mae John – a oedd yn chwarae’n broffesiynol i’r Gweilch am ddegawd cyn i anaf ei orfodi i ymddeol – wedi bod yn brysurach na’r rhan fwyaf o bobl yn ystod y cyfnod o ynysu sydd wedi’i achosi gan bandemig y coronafeirws.             

Mae nid yn unig wedi newid o hyfforddiant un i un ar gyfer ei gleientiaid i sesiynau ar-lein, ond hefyd mae wedi bod yn rhoi cyfres o fideos hynod boblogaidd ar Twitter, Instagram a’i sianel YouTube sydd wedi cael llawer o gymeradwyaeth mewn cylchoedd rygbi a thu hwnt.       

Mae ei sgiliau trin pêl rygbi’n gallu gweithio fel ymarfer aerobig ysgafn a gwella cydsymudiad llygad a llaw.           

Hefyd, mae ganddo ymarfer jyglo tair pêl a hefyd sioe “sgiliau a driliau” gymysg sy’n cyfuno ymarferion pwyso i fyny, hyrddiadau, sgwatiau a chodi’r pengliniau’n uchel – ar gyflymder addas i bob lefel – gyda’r sgiliau pêl trawiadol a phleserus.       

Os nad yw hynny’n ddigon, rhowch gynnig ar ei ymarfer troelli pêl dennis i focs cardfwrdd yng ngornel yr ystafell – digon o hwyl, ac mae’n fwy anodd na mae’n edrych! 

Mae ganddo bob math o gymwysterau hyfforddiant personol a thystysgrif codi pwysau Olympaidd Brydeinig Lefel 2 ac felly mae John yn ddelfrydol ar gyfer awgrymu ffyrdd o gadw mewn siâp yn eich cartref. 

Yn rhoi cyngor am dair lefel wahanol o weithgarwch, mae’n dweud y gall pawb gynnal – a hyd yn oed wella – eu ffitrwydd, gydag ychydig o ddychymyg a phenderfyniad. 

Gweithgarwch Ysgafn – Gweithgareddau ysgafn yn y cartref ar gyfer pobl sy’n newydd i ymarfer efallai, neu sydd â symudiad cyfyngedig. 

“Os nad ydych chi wedi arfer ymarfer, mae’n rhaid i chi gael rhywbeth sy’n mynd i gymryd lle’r symudiad dyddiol roeddech chi’n ei wneud pan oedden ni i gyd yn cael gadael y tŷ. 

“Y peth cyntaf fyddwn i’n ei ddweud yw bod rhaid i chi gynnwys rhywfaint o strwythur yn eich diwrnod. Rhaid i chi gael trefn newydd gan fod eich hen drefn wedi mynd.      

“Felly gwneud amser i ymarfer, cynllunio eich cerdded dyddiol. Os ydych chi’n bwyta gormod o fyrbrydau, diflastod yw hynny fwy na thebyg, nid eich bod chi’n llwglyd. 

“Un cyngor da yw cael llyfr nodiadau a phensil yn y gegin ac ysgrifennu popeth rydych chi’n ei fwyta ynddo. Drwy wneud hynny fe allwch chi gadw trefn ar beth rydych chi’n ei fwyta. 

“O ran ymarfer, does dim rhaid cael offer campfa yn y tŷ. Fe allwch chi ddefnyddio eich corff eich hun i ymestyn a symud a chyflymu cyfradd eich calon. Mae digon o fideos y gallwch chi eu dilyn, yn addas i bawb. 

“Fe fyddwch chi nid yn unig yn cadw’n iach ac yn gwella eich system imiwnedd i’ch helpu chi os byddwch yn mynd yn sâl, ond hefyd byddwch yn gwella eich iechyd meddwl. 

“Os ydych chi’n ymarfer yn y tŷ, fe allwch chi ddefnyddio eich lwfans awyr agored i gerdded gydag aelod o’r teulu neu ddim ond ymlacio a bod yn y presennol.”

Gweithgarwch Cyffredinol – Gweithgareddau i bobl sy’n mwynhau chwaraeon ac ymarfer ac sydd eisiau dal at i elwa o’r manteision iechyd. 

“Ar gyfer pobl sydd wedi arfer gwneud cryn dipyn o chwaraeon ac ymarfer, fe fydd gennych chi gymhelliant i gadw’n heini ac ymarfer mae’n debyg. 

“Eto, mae llawer i’w wylio a dilyn cyfarwyddyd. Yr hyn fydd y grŵp yma’n ei golli fydd yr elfen gystadleuol o beth roedden nhw’n ei wneud o’r blaen efallai. 

“Felly, chwiliwch am gystadleuaeth yn yr ymarferion, yn erbyn ffrindiau neu aelodau eraill y tîm. Bydd yn gwneud pethau’n fwy diddorol a chystadleuol. 

“Fe allwch chi naill ai herio eraill neu ddim ond herio eich hun. Nodwch eich lefelau a’ch cyflawniadau a gweithio ar geisio eu gwella.”

Gweithgarwch Uwch – Ar gyfer pobl sy’n cymryd rhan yn rheolaidd mewn chwaraeon ac sydd eisiau hyfforddiant dwysach. 

“I bobl oedd yn gwneud llawer o chwaraeon a’r rhai ar lefel uchel, mae gwahanol heriau i’w goresgyn.             

“Rydw i’n meddwl y bydd y bobl yma’n profi beth mae athletwyr elitaidd yn ei deimlo pan maen nhw’n gorffen cymryd rhan yn eu camp. 

“Maen nhw i gyd yn gwybod sut i ymarfer a chadw’n heini, ond efallai eu bod yn colli’r undod, y brawd neu’r chwaergarwch, a’r tynnu coes yn yr ystafell wisgo.

“Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn greadigol – ffurfio grwpiau, a defnyddio technoleg fel WhatsApp a Zoom i ail-greu’r cwlwm oedd ganddyn nhw cynt. 

“Fe fyddan nhw’n gwybod pa drefn gorfforol i’w dilyn, ond cynnal y cymhelliant fydd yn anodd efallai a dyma pam mae cadw mewn cysylltiad yn hanfodol. 

“Cadw mewn cysylltiad, cymharu ymarferion, cyfnewid straeon, cael cwis – bod yn rhan o grŵp mwy hyd yn oed os ydych chi’n teimlo braidd yn unig.”

Hefyd mae John yn annog pawb ym mhob camp i geisio dysgu oddi wrth eraill a’r ffyrdd maen nhw’n ymdopi yn y dyddiau anodd iawn yma.               https://www.youtube.com/channel/UCRXkjwz4tyCRWbPobk7VLDw/featured

Yn ddigidol, ar-lein, edrychwch dros ffens yr ardd i weld beth mae eich cymydog yn ei wneud.       

“Mae Joe Wicks yn gwneud stwff ffantastig fel The Body Coach, i bob oedran, ond rydw i hefyd yn hoff iawn o beth mae chwaraeon eraill yn ei wneud,” meddai John.

“Mae Pêl Rwyd Cymru wedi bod yn rhoi stwff da iawn ar eu sianelau, gyda phobl fel Nia Jones a Kyra Jones, ac mae fideos Jazz Carlin ar gyfer ffitrwydd nofio’n rhyfeddol.         

“Rydw i wedi mwynhau’r holl ymdrechion gyda her y papur toiled ac fe welais i glip o hen ffrind rygbi i mi’n cicio pêl drwy ffenest tŷ agored – ond dydw i ddim yn siŵr fydd hynny’n cael ei ailadrodd gan bobl eraill.”

Edrychwch ar ymarferion Ben John yn:

Twitter - @benjaminjohn91

Instagram – benjohnpt

YouTube – Ben John: Ball Skills and Fitness

NEWYDDION DIWEDDARAF - #CymruActif

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy