Main Content CTA Title

Diweddariad Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

Mae dychweliad fesul cam y gwahanol gampau i Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd wedi dechrau gyda dychweliad grŵp dethol o athletwyr elitaidd. 

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae llawer iawn o waith cynllunio a pharatoi wedi bod yn digwydd tu ôl i’r llenni rhwng cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol a Chwaraeon Cymru er mwyn creu amgylchedd hyfforddi diogel ar gyfer athletwyr, hyfforddwyr a staff yr athrofa a’r ganolfan. 

 

O wirio tymheredd a sgrinio meddygol i weithdrefnau glanhau gwell a phrotocolau hyfforddi llym, mae’r Ganolfan wedi dechrau ar ei siwrnai tuag at alluogi chwaraeon i ffynnu eto. 

Mae gymnastwyr a chwaraewyr sboncen yn ôl yn hyfforddi nawr i baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd a’r Gemau Cymanwlad, gyda chynlluniau’n cael eu creu’n derfynol i ragor o athletwyr elitaidd ddychwelyd yn fuan. 

 

O dan y rheoliadau presennol, mae’n rhaid i’r Ganolfan barhau ar gau ar gyfer pob gwasanaeth a gweithgaredd chwaraeon arall, ond mae’r paratoadau’n parhau er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau’n ddiogel ar gyfer pan fydd cyfyngiadau pellach yn cael eu llacio. 

Bydd gennym ni ragor o ddiweddariadau cyn gynted â phosib. 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau ar lawr gwlad sy’n creu cyfleoedd i ferched a genethod

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru yn creu amgylcheddau croesawgar lle gall merched a…

Darllen Mwy

Lleihau’r bwlch rhywedd: Sut mae Clwb Sboncen Ynys Môn yn newid y gêm i ferched

Yn 2018, dim ond dwy o'r 38 o aelodau oedd yn ferched. Symud ymlaen i 2025, mae bron i 40 y cant o aelodau'r…

Darllen Mwy

Chwaraeon a gweithgareddau i bobl dros 60 oed yng Nghymru

Dyma rai o’r gweithgareddau hwyliog a hygyrch y gallwch eu mwynhau drwy’r Cynllun.

Darllen Mwy