Skip to main content

Cyngor y cewri ar gyfer bywyd gyda chyfyngiadau symud

Rydyn ni i gyd angen arwr y dyddiau hyn – hyd yn oed pencampwyr Olympaidd.

Mae Lynn Davies – sy’n cael ei adnabod fel ‘Lynn the Leap’ yn dilyn ei gamp yn ennill gornest y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo 1964 – yn dweud ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan Gapten Tom.

Yn un o gewri mawr y byd chwaraeon yng Nghymru, mae Lynn bellach yn 77 oed.

Mae dal yn fain, yn heini ac yn actif iawn yn gorfforol – yn union fel yr oedd yn ei oes aur athletaidd – ac mae’n debyg iawn i seren ffilmiau Hollywood. 

Ond fel pawb arall dros 70 oed, mae’r cyfyngiadau presennol yn creu cyfnodau o bryder, nerfusrwydd a rhwystredigaeth i Lynn. 

Dyma pam mae wedi cael hwb gan ymdrechion nodedig Tom Moore, sydd wedi codi cyfanswm syfrdanol o £28m hyd yma i elusennau’r GIG drwy gerdded rownd ei ardd 100 gwaith fis cyn ei ben blwydd yn 100 oed.                 

“Mae Capten Tom wedi bod yn anhygoel – yn ysbrydoliaeth nodedig,” meddai Lynn.

“Fy modelau rôl i oedd pobl fel Carl Lewis, a sbrintwyr ac athletwyr mawr eu dydd.             

“Ond nawr fy mod i wedi cyrraedd oedran penodol mae rhywun sydd fwy nag 20 mlynedd yn hŷn na mi’n dal i godi allan ac ymarfer ac fe wnes i feddwl, ‘bobl bach, os yw e’n gallu gwneud ’na, fe alla’ i wneud beth sydd raid i mi ei wneud’.

“Mae e’n ein cymell a’n ysbrydoli ni i gyd ac yn dangos nad oes raid i oedran atal pobl rhag bod yn actif.”

Y cyngor swyddogol i bawb dros 70 oed yn ystod pandemig y coronafeirws yw cadw at ffurfiau llym ar gadw pellter cymdeithasol a dim ond mynd allan am gyfnodau o ymarfer a chadw dwy fetr oddi wrth bobl eraill. 

Mae hefyd yn cynnwys cadw oddi wrth feibion a merched, wyrion a wyresau a ffrindiau, ar wahân i’r rhai sy’n byw gyda chi. 

Felly sut mae pobl 70 oed enwocaf Cymru’n ymdopi â’r cyfyngiadau symud a beth yw eu cyngor gorau?

Cyngor Lynn

  1. Rhowch gynnig ar ymarferion ymestyn a symudiadau ysgafn ar gyfer y breichiau a’r coesau, hyd yn oed os oes raid i chi wneud hyn yn eistedd i lawr.
  2. Ewch allan i gerdded am 10 neu 15 munud, hyd yn oed os yw hynny ddim ond rownd eich tŷ neu’r stryd.
  3. Ar ôl i chi wneud 15 munud, efallai y bydd posib i chi gynyddu hynny i 30 munud, ond cofiwch gadw pellter cymdeithasol rhyngoch chi a phobl eraill.
  4. Ceisiwch gael ysbrydoliaeth gan bobl eraill – cyfnewid cyngor a chynlluniau ymarfer gyda ffrindiau, neu wylio ymarferion ar y teledu neu ar-lein – “mae’n grêt gweld The Greed Goddess a Mr. Motivator yn ôl.”
  5. Cadwch at drefn, ond gwneud yn siŵr ei bod yn ddigon hyblyg i’ch lefelau egni o un diwrnod i’r nesaf. Os oes gennych chi drefn, fe welwch chi bod hynny’n gwella cryfder y meddwl hefyd a byddwch yn cael boddhad o fod wedi cyflawni rhywbeth.
  6. Cadwch mewn cysylltiad â ffrindiau. Bydd siarad gyda nhw’n rhoi hwb i chi ac yn codi eu hysbryd hwy hefyd.
“Mae fy ngwraig a mi’n defnyddio’r ffôn a thechnoleg arall i gadw mewn cysylltiad gyda’r teulu i gyd ac er ein bod ni’n teimlo braidd yn ynysig ar adegau, fe ddown ni drwyddi. Mae amser gwell i ddod.”
Lynn Davies

Efallai nad oes ganddo gyflymder y sbrintiwr bellach, a sicrhaodd ei fod wedi hedfan i lawr llwybr y naid hir yn y 1960au, ond mae Lynn yn dal i redeg ac mae’n dweud bod ymarfer ac iechyd yn bwysicach nag erioed iddo. 

“Rydw i’n dal i redeg chwe dolen 500 metr rownd cae, sy’n rhyw ddwy filltir. Wedyn y diwrnod wedyn, fe af i i loncian efallai, dros bellter byrrach, er mwyn cynnal amrywiaeth.   

“Yn sbrintiwr ac athletwr pŵer, ’dyw loncian ddim yn hawdd i mi, ond rydw i bron â gwneud y newid nawr.                       

“Mae hwn yn gyfnod anodd a rhyfedd iawn i bawb ac rydw i wedi teimlo’n bryderus ac yn fregus ar adegau, fel pawb arall.       

“Ond rhaid i ni wrando ar y cyngor ac un rhan fawr o hynny yw cadw’n iach ac yn heini. Bydd hynny’n gwneud yn siŵr, os byddwn ni’n mynd yn sâl, y bydd ein system imiwnedd ni’n ddigon cadarn i helpu i’n gwarchod ni. 

“Os oes un peth da wedi dod allan o’r cyfyngiadau symud yma, teimlad o bersbectif yw hynny, a gwerthfawrogi beth sydd wir yn bwysig – eich iechyd chi, a chael eich teulu a’ch ffrindiau i fwynhau bywyd gyda nhw. 

“Mae fy ngwraig a mi’n defnyddio’r ffôn a thechnoleg arall i gadw mewn cysylltiad gyda’r teulu i gyd ac er ein bod ni’n teimlo braidd yn ynysig ar adegau, fe ddown ni drwyddi. Mae amser gwell i ddod.”

Mae un o gewri byd rygbi Cymru, Phil Bennett, yn aelod arall o’r grŵp dros 70 oed sy’n gorfod addasu i fywyd gyda chyfyngiadau symud. 

Roedd Phil, a ddathlodd ei ben blwydd yn 71 oed yn ôl ym mis Hydref, yn rhedeg bob dydd tan bedair blynedd yn ôl, pan wnaeth anafiadau i’w ben-glin a’i gefn yn gysylltiedig â’i yrfa rygbi ei orfodi i arafu yn y diwedd. 

“Cerdded ydw i yn bennaf y dyddiau yma, ond gydag ychydig o loncian hefyd,” meddai.

“Rydw i’n codi’n gynnar, yn cael brecwast da gyda ffrwythau ffres ac wedyn yn cerdded am awr gyda fy ngwraig Pat, ar lwybrau a lonydd fy ardal.         

“Pan rydw i’n ymarfer ar ben fy hun, rydw i’n rhoi marciau i lawr yn y parc ac yn cerdded yn gyflym am 50 llath rhyngddyn nhw, ac yn loncian ychydig hefyd. 

“Ond cerdded fydda’ i’n ei wneud yn bennaf. Os na fydda’ i’n mynd allan, dydw i ddim yn hapus, a gyda’r sefyllfa bresennol, mae’n rhaid i chi wneud yn fawr o’r amser ymarfer i’ch iechyd a’ch lles.”

Cyngor Phil

  1. Ceisiwch fwyta brecwast iach, da i’ch paratoi chi ar gyfer y diwrnod o’ch blaen.
  2. Ewch allan am dro mor aml ag y gallwch chi. Bydd yn gyfle i edmygu cefn gwlad hardd Cymru yn y bore a gwerthfawrogi pa mor ffodus ydyn ni o fod yn fyw.
  3. Gweithiwch yn yr ardd neu o gwmpas y tŷ i gadw’n actif.
  4. Peidiwch â gorymarfer rhag cael niwed. Rhaid i chi sylweddoli bod eich corff yn newid a rhaid gwerthfawrogi’r traul arno.
  5. Gwisgwch oriawr sy’n mesur eich camau a gosod rhyw fath o darged i chi’ch hun.
  6. Cofiwch gyngor yr arbenigwyr ar gadw pellter cymdeithasol, felly defnyddiwch yr holl dechnoleg sydd gennych chi i gadw mewn cysylltiad â’r wyrion a’r wyresau a’r plant.
  7. Cofiwch ddifetha eich hun bob hyn a hyn a thaflu’r glorian yn yr ystafell ymolchi. Y ffordd orau i wybod os ydych chi wedi magu pwys neu ddau yw pan mae eich trowsus chi’n teimlo’n dynn.
"Yn y sefyllfa bresennol mae'n amlwg bod yn rhaid i chi wneud y mwyaf o amser ymarfer corff ar gyfer eich iechyd a'ch pwyll."
Phil Bennett