Ond clybiau cymunedol sydd wedi dioddef yn ddrwg yn ystod y cyfyngiadau symud, argyfwng sydd wedi sbarduno Chwaraeon Cymru i sefydlu a gweinyddu mwy na £500,000 o gymorth grant drwy gyfrwng y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng. 

“Roeddwn i’n chwarae i dîm y bechgyn yn Vale Wanderers rhwng chwech a 12 oed, oherwydd doedd dim tîm merched i’w gael,” meddai Ingle.

“Wedyn, pan oeddwn i’n 12 oed, fe wnaeth fy rheolwr i sefydlu tîm merched i fodloni’r galw ac fe wnes i aros am flwyddyn neu ddwy arall. Felly roedd y blynyddoedd cynnar yma gyda’r clwb ar lawr gwlad yn gwbl hanfodol i mi. 

“Fe fyddwn i’n mynd yno ddwy neu dair gwaith yr wythnos, ac yn chwarae i dîm yr ysgol hefyd. Roedd fy mrawd, sydd ddwy flynedd yn hŷn, yn chwarae hefyd, felly roedd Mam nôl a mlaen i’r clwb sawl gwaith ar fore Sadwrn.                           

“Yr hyn roeddwn i wir yn ei hoffi oedd bod yn rhan o dîm. Roedd cael pêl droed trefnus yn anhygoel ac mae’n siŵr bod chwarae gyda’r bechgyn yn fy ngwthio i’n galetach ac wedi fy ngwneud i’r chwaraewr ydw i heddiw. Fi’n siŵr o hynny.”

Cafodd Ingle ei magu yn y Barri, ac mae’r gwersi a ddysgodd gyda Vale Wanderers wedi bod o fudd mawr iddi, gan ddarparu technegau, sgiliau a hoffter o’r gêm – sylfeini wnaeth alluogi iddi ddatblygu ymhellach gyda Merched Dinas Powys ac wedyn Dinas Caerdydd. 

O Gaerdydd, symudodd i Lerpwl, a chael ei dewis yn chwaraewr y tymor yno yn 2017 cyn ymuno â Chelsea – un o griw elitaidd bach o glybiau yn Uwch Gynghrair y Merched – ddwy flynedd yn ôl.       

Ar ei siwrnai, mae Ingle wedi sefydlu ei hun fel un o chwaraewyr benywaidd gorau Cymru, gan ennill 99 o gapiau. Byddai wedi ennill ei 100fed yr haf yma oni bai fod chwaraeon wedi gorfod dod i stop, ac ymhlith sgwad presennol Cymru dim ond Jess Fishlock sydd â statws mor uchel â hi yn y gêm.   

Ond ni fyddai’r holl anrhydedd, y capiau a’r llwyddiannau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi digwydd, meddai, oni bai am amynedd ac ymrwymiad y gwirfoddolwyr mewn pêl droed ar lawr gwlad gyda hi pan oedd yn blentyn.           

“Roedd chwarae pêl droed yn ferch fach yn fy nghadw i’n heini ac yn iach wrth gwrs, ond fe wnes i ddatblygu sgiliau eraill hefyd. 

“Nid dim ond sgiliau pêl droed, ond datblygiad cymdeithasol – pethau fel arweinyddiaeth, cydweithio gyda phobl eraill, a dysgu sut i roi a derbyn help. Fe wnaeth ddysgu hynny i gyd i mi. 

“Roeddwn i wir yn ffodus bod Mam yn gallu mynd â fi i’r gemau – Mam oedd yn gwneud hynny fel arfer gan fod Dad yn y gwaith – ac roeddwn i’n ffodus iawn o gael y gefnogaeth honno.                 

“Ond roedd cymaint o bobl eraill yn dod ar ôl gwaith, yn estyn yr offer a’r peli yn barod ar gyfer ymarfer, yn marcio’r caeau, golchi’r cit – gan wneud y pethau hyn i gyd am eu bod nhw’n caru’r gêm ac yn hoffi rhoi cyfle i blant fwynhau pêl droed. 

“Roedd yr un peth yn wir pan es i ymlaen i chwarae i Ddinas Powys. Roedd y rheolwr, Lee Saunders, yn llawn egni ac roedd yn arfer rhoi cymaint o’i amser i hyfforddi’r tîm a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael y cyfleoedd yma.       

“’Dyw pobl ddim yn gwerthfawrogi pa mor werthfawr yw’r holl wirfoddolwyr yma i chwaraeon yn gyffredinol ac i’r ffordd mae cymunedau yn ffynnu. 

“Mae pob un chwaraewr wedi chwarae ar lawr gwlad ar ryw adeg. Dyna ddechrau’r siwrnai, a’r garreg gamu ymlaen.”

Ar hyn o bryd, mae siwrnai Ingle wedi gorfod dod i stop. Mae gêm y merched wedi pennu dyddiad gofalus ym mis Medi ar gyfer dechrau’r tymor newydd, ond mae cymaint yn dibynnu ar allu’r clybiau i ddychwelyd yn ddiogel gan gadw at y canllawiau presennol.                 

Mae’r un peth yn wir am ei siawns o gyrraedd y garreg filltir bwysig o ennill ei 100fed cap yn chwarae dros Gymru. Mae gan dîm y rheolwr Jayne Ludlow gêm gymhwyso dyngedfennol yn yr Ewros oddi cartref yn erbyn y tîm sydd ar frig y grŵp, Norwy, ar Fedi 22, ond mae’r gêm honno hefyd yn dibynnu ar oresgyn y problemau eraill sy’n gysylltiedig â’r pandemig presennol. 

Tan hynny, bydd Ingle yn cadw’n brysur yn hyfforddi ar ei phen ei hun ac yn mynd â’i chi am dro yn ymyl ei chartref yn Epsom.

“Gobeithio cawn ni ddechrau’n ôl ym mis Gorffennaf ryw ben, a chael rhyw fath o hyfforddiant cyn i’r tymor ddechrau. Mae pawb wedi cael seibiant hir o bêl droed ac rydyn ni i gyd yn awyddus i gael mynd yn ôl.”