Yn y cyfamser, mae clybiau pêl droed eraill ledled Cymru – ar ôl wynebu anawsterau gyda thalu eu biliau yn ystod y cyfyngiadau symud – yn falch iawn o’r gefnogaeth.
Roedd Clwb Pêl Droed a Chwaraeon Abergwaun yn llwyddiannus yn ei gais am grant ac mae’n ei ddefnyddio i dalu costau cynnal a chadw’r cae, sy’n cynnwys ailhadu, gwrteithio ac ychwanegu tywod.
Dyma Owen Duggan i esbonio sut mae Covid-19 wedi effeithio ar sefyllfa ariannol y clwb: “Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’n clwb ni, sydd wedi colli tua £4500. Rydyn ni wir yn ddiolchgar i Chwaraeon Cymru am ddosbarthu’r grant yma mor gyflym. Bydd hyn wir yn sicrhau bod dyfodol y clwb yn ddiogel o bersbectif ariannol ac rydyn ni’n aros nawr am ddiwedd y pandemig difrifol yma fel bod y timau i gyd yn gallu mynd nôl allan ar y cae gyda gwên ar eu hwynebau.”
Mae’r gwanwyn a’r haf yn gyfnodau prysur i glybiau chwaraeon ac yn gyfnod pryd mae llawer yn gwneud y rhan fwyaf o’u gwaith codi arian. Er enghraifft, mae Clwb Pêl Droed Penycae, ger Wrecsam, yn creu’r rhan fwyaf o’i incwm rhwng misoedd Mawrth a Mehefin fel arfer.
“Yn anffodus, oherwydd pandemig y Coronafeirws, fe gafodd yr holl ddigwyddiadau oedden ni wedi’u trefnu eu canslo ac fe gaewyd y clwb,” esboniodd Colin Jackson o’r clwb. “ Rydyn ni’n ffodus ein bod ni wedi gallu canslo neu ohirio llawer o’r biliau misol, oedd yn rhyddhad, ond roedd rhai yr oedd rhaid i ni eu talu.
“Heb unrhyw incwm o gwbl ar hyn o bryd, mae ein cais llwyddiannus ni am grant wedi galluogi i ni dalu’r biliau yma yn ystod y misoedd nesaf diolch byth, heb ein gorfodi i ddefnyddio arian wrth gefn fydd ei angen dros y gaeaf, pan mae’n llawer mwy anodd cynhyrchu incwm.”