Skip to main content

7 ffordd o fod #NôlYnYGêm i roi hwb i’ch lles

Mae wedi bod yn flwyddyn anodd ond mae llawer ohonoch chi wedi addasu. Dosbarthiadau campfa ar Zoom. Ymarfer yn yr ardd. Rhedeg yr un llwybr o stepen y drws. Ar ôl bod yn styc yn syllu ar yr un pedair wal am y flwyddyn ddiwethaf, mae'n amser rhoi eich iechyd meddwl yn gyntaf. A pha ffordd well o wneud hynny na thrwy ddychweliad y chwaraeon hynny rydych chi mor hoff ohonyn nhw ac wedi'u colli? Mae'n amser bod #NôlYnYGêm. 

Mae ymarfer corff nid yn unig o fudd i chi'n gorfforol, ond hefyd mae'n chwarae rhan enfawr yn eich iechyd meddwl. Dyma 7 ffordd y mae'n gwneud hynny.

Ffrindiau / Rhyngweithio Cymdeithasol 

Nid dim ond yr un pedair wal ydyn ni wedi bod yn syllu arnyn nhw, ond yr un hen wynebau hefyd. Mae bod #NôlYnYGêm mewn clwb chwaraeon yn gyfle i chi ryngweithio â’ch ffrindiau wyneb yn wyneb, gan gymryd rhan mewn gweithgaredd rydych chi i gyd yn ei fwynhau a bod â rhywbeth yn gyffredin. 

Gwella Hunan-barch 

Mae ymarfer mor bwerus. Gall roi hwb i’ch hyder a rhoi ymdeimlad gwych o hunan-werth. Os ydych chi wedi treulio gormod o ddyddiau dan do a’ch gweithgarwch corfforol wedi lleihau, mae’n amser bod nôl yn y gêm a theimlo’n dda amdanoch chi’ch hun eto. 

Tynnu Sylw 

Does dim gwell ffordd o gael gwared ar y straen sydd ar eich meddwl na thrwy fod nôl yn y gêm. Wedi clywed am bŵer meddwlgarwch? Pan rydych chi’n canolbwyntio ar weithgaredd, ac yn anghofio am bryderon bob dydd, gall arwain at lawer o lawenydd i chi. 

Ceidwad gôl yn dathlu

Rhyddhau endorffinau

Ydych chi wedi teimlo’r bwrlwm mawr hwnnw ar ôl ymarfer? Mae ymarfer corff dwys yn rhyddhau hormon o’r enw endorffinau sy’n codi eich ysbryd yn naturiol. Ewch ati i ailbrofi’r bwrlwm hwnnw. 

Lleihau Straen 

Wrth siarad am ryddhau hormonau, nid yn unig mae endorffinau’n cael eu rhyddhau ond hefyd mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn helpu i leihau’r hormonau straen sy’n cael eu cynhyrchu. Mae hyn yn golygu bod yn actif yn rheolaidd oherwydd byddwch yn llai tebygol o deimlo straen. Llwyddiant! 

Gwella Cwsg   

Mae rhywbeth rydych chi’n ei wneud bob dydd (neu yn ystod y nos yn yr achos yma) yn bwysig iawn. Mae ymarfer yn rheolaidd wedi’i brofi fel rhywbeth sy’n golygu eich bod yn cysgu’n well yn ystod y nos. Bydd cymryd rhan mewn chwaraeon yn helpu i wneud eich camau’n fwy sionc ac yn eich gwneud yn fwy brwdfrydig yn eich bywyd bob dydd. 

Ysgogi’r meddwl   

Nid dim ond eich cyhyrau sy’n tyfu wrth i chi ymarfer yn rheolaidd, ond eich ymennydd hefyd! Bydd bod nôl yn y gêm yn ysgogi twf celloedd yr ymennydd. Mae ymarfer yn helpu i wella eich cof a’ch ffocws. Meddwl iach a chorff iach.         

Sut ydych chi’n bod #nôlynygêm? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. E-bostiwch backinthegame@workingword.co.uk neu ddefnyddio’r hashnod ar gyfryngau cymdeithasol. 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy