Pan gaeodd clwb triathlon iau Eve Baker, roedd hi'n poeni y gallai ei breuddwydion chwaraeon fod ar ben. Ond diolch i glwb lleol am agor ei ddrysau i blant iau, gyda chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol, mae hi'n ôl ar y trywydd iawn ac yn caru ei holl sesiynau nofio, beicio a rhedeg ar hyd y ffordd.
O fwrlwm diwrnod ras i ansicrwydd
I'r triathletwr 16 oed o Gonwy, mae diwrnodau rasio yn bleser pur. Mae hi wrth ei bodd â sŵn trydanol y dorf. Adrenalin y trawsnewidiadau nofio-beicio-rhedeg a'r her o wthio ei hun i'r eithaf.
Ond gwta ddwy flynedd yn ôl, roedd ei dyfodol yn y gamp yn y fantol.
Roedd y clwb hollbwysig iddi, Tri Stars Conwy, ar fin mynd i'r wal. Gadawodd hynny athletwyr ifanc ar draws yr ardal heb unman i hyfforddi.
Dyna fu’r hanes nes i Glwb Triathlon GOG gamu i’r adwy. Clwb i oedolion yn unig ydoedd yn wreiddiol, ond agorodd ei ddrysau i bobl ifanc am y tro cyntaf, gan eu croesawu â breichiau agored.
Mwynhau triathlon o'r cychwyn cyntaf
Dim ond chwech oed oedd Eve pan benderfynodd ymuno â Chlwb Triathlon Tri Stars gyda'i brawd. Syrthiodd mewn cariad â'r gamp yn gyflym.
“Roeddwn i wrth fy modd o’r cychwyn cyntaf,” meddai hi.
Ond gyda dim ond dau wirfoddolwr yn rhedeg popeth, bu’n rhaid i’r clwb gau yn y pen draw. Roedd Eve a'i chyd-athletwyr yn ddigalon iawn.