Skip to main content

Arolwg i fapio arfer da ledled Cymru

Mae arolwg ar-lein newydd wedi'i lansio a fydd yn helpu Chwaraeon Cymru i nodi llwyddiannau, heriau a syniadau pobl ynghylch gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy cynhwysol i bawb yng Nghymru.

Mae gan Chwaraeon Cymru ddiddordeb arbennig mewn clywed gan y rhai sy’n creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc, naill ai mewn rôl gyflogedig neu rôl wirfoddol.

Wrth esbonio’r arolwg ymhellach, dywedodd Owen Lewis, Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon Cymru: “Mae effaith pandemig Covid yn ogystal â’r argyfwng costau byw presennol wedi amlygu pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n dal i ofyn i’n hunain beth allwn ni ei wneud yn wahanol i wneud chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ddeniadol ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru.

“Mae’n amlwg bod angen i ni barhau i addasu’r hyn rydyn ni’n ei gynnig fel ein bod ni’n cael gwared ar unrhyw rwystrau i chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rydym am i bawb allu cael mynediad at weithgareddau mewn ffyrdd sy'n gweddu i'w hanghenion unigol drwy gydol eu hoes. Dylai cyfleoedd fod yn gynhwysol, yn ddiogel ac yn fforddiadwy, yn ogystal â darparu'r sgiliau i bobl gyflawni eu nodau. Ond yn anad dim, mae'n rhaid i chwaraeon a gweithgarwch corfforol fod yn bleserus!

Gwyddom fod miloedd o bobl ledled Cymru yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi eu cymunedau i fod yn actif. Rydyn ni eisiau deall yn well beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, a pham, ac edrych ar sut gallwn ni ddefnyddio profiadau’r rhai sydd eisoes yn gwneud gwaith rhagorol i helpu eraill.”

Ychwanegodd Owen: “Bydd yr arolwg pwysig hwn yn ein helpu i fapio arfer da ledled y wlad fel y gallwn nodi arweinwyr a gwneuthurwyr newid posibl yn y rhwydwaith hwn.

“Hoffem hefyd i bawb sy’n llenwi’r arolwg ystyried ei anfon ymlaen at ffrindiau neu gysylltiadau a allai hefyd fod â diddordeb mewn rhannu eu barn gan ein bod am ddysgu gan gynifer o bobl â phosibl.

“Mae'r arolwg yn cymryd tua 10-15 munud i'w lenwi. Byddem wir yn gwerthfawrogi eich cyfraniad i helpu i lunio dyfodol chwaraeon yng Nghymru.”

Mae Chwaraeon Cymru yn gweithio ar yr arolwg gyda thîm o’r Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Diane Crone. Os byddai'n well gennych siarad â rhywun yn fwy anffurfiol, cysylltwch â'r [javascript protected email address] a fydd yn trefnu amser i siarad. 

Newyddion Diweddaraf

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy