Skip to main content

Blog: Tanni Grey-Thompson ‘Fy Niwrnod yn y Senedd’

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Blog: Tanni Grey-Thompson ‘Fy Niwrnod yn y Senedd’

Rydw i wrth fy modd yn dweud wrth bobl am bŵer a manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol; ac un o'r llefydd gorau i wneud hynny yng Nghymru yw yn y Senedd.

Roedd hyd yn oed y trên yn barod i gydweithredu ac roeddwn i yng Nghaerdydd yn brydlon braf i wneud y siwrnai i Fae Caerdydd gyda'n Prif Swyddog Gweithredol ni, Brian Davies. Gan fod y ddau ohonom ni’n (gymharol) newydd o hyd i’n swyddi, hwn oedd ein cyfle cyntaf ni i siarad ag Aelodau’r Senedd gyda’n gilydd am waith parhaus y sefydliad, siarad am flaenoriaethau pellach a thynnu sylw at rai meysydd allweddol rydyn ni eisiau gweld ffocws yn cael ei roi arnyn nhw. 

Roedd y digwyddiad – wedi’i noddi gan Delyth Jewell, Aelod Seneddol (AS) Plaid Cymru dros ranbarth Dwyrain De Cymru a hefyd cadeirydd yPwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, yr Iaith Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol’ (CCWLSIR) – yn llwyddiant mawr ac fe fuon ni’n ymgysylltu â bron i hanner yr aelodau etholedig. Roeddwn i wir yn ddiolchgar iddyn nhw i gyd am roi o'u hamser.

Felly, beth oedd y prif bynciau trafod?

  1. Ochr yn ochr â’r tîm polisi cynhyrchwyd astudiaethau achos penodol ar gyfer pob aelod, gan dynnu sylw at rai o lwyddiannau Cronfa Cymru Actif. Mae’r Gronfa’n helpu i gyllido clybiau i dyfu, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fod yn actif yng Nghymru. Roeddwn i’n arbennig o falch o glywed cymaint o frwdfrydedd oedd gan lawer o’r aelodau i ymweld â’r clybiau a gweld y datblygiadau cadarnhaol drostynt eu hunain.
  2. Roedd rhai o'r negeseuon allweddol y gwnaethom eu rhannu gyda’r aelodau yn ymwneud ag egluro sut rydym yn gwneud gwahaniaeth gyda phob un o *7 blaenoriaeth ein cynllun busnes. Mae pob un yn ein helpu ni i symud yn nes at gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Roedden ni eisiau siarad gydag Aelodau’r Senedd a phwysleisio bod gan chwaraeon y potensial i leddfu rhywfaint o’r pwysau mwyaf ar ein cenedl ni, dim ond i ni feddwl ychydig yn wahanol am sut rydym yn cyflawni rhai polisïau. Er enghraifft, sut gall mentrau iechyd ataliol ddefnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol i wella a hybu gwytnwch pobl i gymryd pwysau oddi ar wasanaethau iechyd.
  3. Yn naturiol, roedd diddordeb gwirioneddol yn y modd y mae prosiectau a rhaglenni chwaraeon yn gweithio a sut gallai aelodau fwrw ymlaen â hwy yn lleol. Roedd pethau fel cyfleusterau, caeau, Parkrun a phartneriaethau chwaraeon yn bynciau o ddiddordeb yr ydyn ni’n awyddus i’w dilyn.

Ar ôl digwyddiad gwych ac ar ôl gwneud rhai cysylltiadau allweddol, bydd fy nghydweithwyr a minnau’n parhau i feithrin y perthnasoedd yma ac yn ymgysylltu’n rhagweithiol yn ystod gweddill tymor y Senedd yma yng Nghymru. Bydd y tro nesaf y byddwn yn y Senedd yn fater llawer mwy ffurfiol wrth i Bwyllgor CCWLSIR gynnal ei sesiwn craffu rheolaidd ar Chwaraeon Cymru ddechrau mis Tachwedd.

Yn gywir 

Tanni

*Saith Blaenoriaeth Cynllun Busnes Chwaraeon Cymru:

  1. Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  2. Addysg
  3. Iechyd a Lles
  4. System Chwaraeon Gynhwysol
  5. Partneriaethau Chwaraeon
  6. Cynaliadwyedd a Datgarboneiddio
  7. Buddsoddiadau

Newyddion Diweddaraf

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

Mae Dr Sue Barnes wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru.

Darllen Mwy