Skip to main content

Blwyddyn ffrwythlon arall o ‘insport’ yn rhoi blas ar chwaraeon i bobl anabl

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Blwyddyn ffrwythlon arall o ‘insport’ yn rhoi blas ar chwaraeon i bobl anabl

Pe bai’r rhaglen insport sy'n cael ei gweithredu gan Chwaraeon Anabledd Cymru angen athletwyr nodedig i hyrwyddo ei llwyddiant, does dim angen edrych ymhellach na Beth Munro a Harrison Walsh.

Yn athletwyr Paralympaidd yn eu meysydd eu hunain - Munro yn y byd taekwondo a Walsh yn y byd athletau – cawsant eu cyflwyno i gyfleoedd chwaraeon i bobl anabl drwy'r dull cynhwysol o weithredu a gynigir gan insport.

Ond mae’r rhaglen yn ymwneud â llawer mwy na darganfod yr athletwr anabl elitaidd nesaf o Gymru i gystadlu ar lwyfan y byd.

Yn sylfaenol, mae'n ymwneud ag ehangu cyfleoedd i bob grŵp ac oedran drwy gynhwysiant. Y cysyniad yw cynhwysiant + chwaraeon = insport.

Mae sawl elfen i’r rhaglen insport, gyda Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC) yn darparu arbenigedd ac arweiniad i helpu clybiau, cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol, yn ogystal â sefydliadau partner fel yr Urdd, Awdurdodau Lleol, a Chwmnïau Buddiant / Budd Cymunedol i ddatblygu agwedd gynhwysol at chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw.

Ond efallai mai’r agwedd fwyaf gweladwy ar raglen insport, ers iddi ddechrau yn 2012, yw digwyddiadau cyfres insport sy’n cael eu trefnu i roi blas ar wahanol chwaraeon i bobl anabl fel eu bod yn gallu gweld beth sydd ar gael, a gobeithio, yn bleserus.

Gall y rhai sy’n mynychu fod yn enillwyr byd posibl fel Munro (er nad oedd hi’n gwybod hynny cyn iddi gyrraedd am sesiwn) neu’n amlach yn bobl sy’n chwilio am ychydig o hwyl drwy chwaraeon.

Gyda chefnogaeth AF Blakemore (SPAR), mae ChAC yn cydlynu 15 o ddigwyddiadau cyfres insport ledled Cymru bob blwyddyn, gyda'r nod o ddenu miloedd o bobl anabl i roi cynnig ar chwaraeon newydd am y tro cyntaf erioed.

Mae enghreifftiau diweddar o ddigwyddiadau cyfres insport yn cynnwys cynnal digwyddiad pêl droed cadair pŵer, am y tro cyntaf yng Nghymru, ochr yn ochr â Sefydliad CPD Dinas Caerdydd. Hefyd, cynhaliodd ChAC dri digwyddiad cyfresinsport yn canolbwyntio ar chwaraeon cadair olwyn yn rhanbarthau Gwent, Gogledd a Chanolbarth Cymru mewn partneriaeth â WhizzKidz.

Mynychodd mwy na 70 o gyfranogwyr yn gyffredinol a thynnodd y digwyddiadau sylw at y cyfleoedd sydd ar gael ym mhob cymuned leol. Roedd y chwaraeon a gynigiwyd yn cynnwys rygbi cadair olwyn, rygbi'r gynghrair cadair olwyn, pêl droed cadair pŵer, tennis cadair olwyn a boccia.


Yn gynharach yn 2023, bu ChAC yn gweithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Byddar Cymru ochr yn ochr ag Undeb Rygbi Cymru, Golff Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Tennis Cymru a Thennis Bwrdd Cymru i gynnal pedwar digwyddiad y Gyfres Chwaraeon Byddar ledled y wlad.

Mae pêl rwyd yn gamp arall y tynnwyd sylw ati yn ddiweddar diolch i bartneriaeth insport rhwng ChAC, Pêl Rwyd Cymru ac Urdd Gobaith Cymru - mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru.

Meddai Tomas Birkhead, rheolwr digwyddiadau chwaraeon yr Urdd: “Yn Nhwrnamaint Pêl Rwyd Cenedlaethol diweddaraf yr Urdd fe wnaethon ni drefnu digwyddiad cyfres insport a oedd yn cael ei gynnal ochr yn ochr â’r gystadleuaeth prif ffrwd.

“Gwahoddwyd 50 o bobl ifanc i gymryd rhan mewn sesiwn blasu pêl rwyd a arweiniwyd gan gyfuniad o hyfforddwyr a staff yr Urdd, Pêl Rwyd Cymru a ChAC.

“Drwy gynnig y cyfle yma roedden ni’n gallu rhoi eu blas cyntaf ar bêl rwyd i lawer o’r rhai oedd yn bresennol a chyfeirio cyfranogwyr at glybiau lleol.

“Mae gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu darparu cyfleoedd cystadleuol i athletwyr ifanc ag anableddau yn bwysig i ni.

“Mae’n wych gweld a chlywed yr effaith gadarnhaol y gall y digwyddiadau a’r cyfleoedd yma ei chael ar unigolion. Mae’n dangos pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr bod pawb yn cael y cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd, neu gystadlu mewn camp maen nhw’n ei mwynhau,” ychwanegodd Tomos.

Gall sesiynau insport gael effaith hynod bwerus ar bobl ifanc, yn ôl Jo Chaplin, mam i Sienna Allen-Chaplin sy’n naw oed. 

Mae gan Sienna angerdd am chwaraeon ac mae eisiau rhoi cynnig ar gymaint o chwaraeon â phosib. Gall gael rhywfaint o anhawster gyda chydsymudiad gan fod ganddi barlys yr ymennydd, ond nid yw’n gadael i hynny ei rhwystro.

Rhoddodd y gyfres insport gyfle iddi roi cynnig ar lawer o wahanol chwaraeon mewn un lle a nawr mae'r ferch ifanc o Orseinon ger Abertawe yn cael boddhad mawr o nofio, athletau, beicio a gymnasteg.

“Mae digwyddiad fel y gyfres insport yn gyfle gwych i weld gwahanol chwaraeon a phlant a phobl ifanc eraill ag anableddau,” meddai Jo.

“Mae’r digwyddiadau’n dangos beth sy’n bosib a sut gall chwaraeon ddod â phobl at ei gilydd.

“Mae chwaraeon ac ymarfer corff wedi bod mor fuddiol i Sienna. Nid yn unig y mae wedi helpu i wella ei symudedd cyffredinol, a’i chydbwysedd a’i chryfder, mae hefyd wedi helpu gyda’i sgiliau cymdeithasol”.


Mae dychweliad cyflwyno wyneb yn wyneb yn dilyn pandemig Covid wedi galluogi ChAC i dargedu darpariaeth mewn chwaraeon ac ardaloedd o’r wlad lle mae ei angen fwyaf. Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond mae 2024 eisoes yn addo i fod yn flwyddyn well fyth, gan ddechrau gyda’r gyfres insport yn dychwelyd i’r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC) yng Nghaerdydd ddydd Iau 25 Ionawr.

Hwn fydd y tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal ers 2019 a bydd yn cynnig gweithgareddau cynhwysol ar draws mwy na 25 o chwaraeon a fydd yn addas i bawb. Mae 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r digwyddiad cyntaf o’r fath (oedd yn cael ei alw bryd hynny yn Wheelchair Sport Spectacular) gael ei gynnal yn y lleoliad ac mae sesiwn 2024 eisoes yn llawn!

Mae Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol ChAC, yn angerddol am effaith digwyddiadau cyfres insport. Meddai: “Mae'r digwyddiadau yma’n ymwneud â chysylltu pobl anabl yng Nghymru â'r llu o gyfleoedd gwych sydd ar gael yn lleol. Mae partneriaeth yn hanfodol i'r digwyddiadau hyn.

“Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl anabl o hyd nad ydyn nhw’n gwybod beth sydd ar gael ar garreg eu drws, na pha chwaraeon sy’n hygyrch iddyn nhw. Drwy ddod i ddigwyddiad cyfres insport mae pobl a’u rhwydweithiau’n cael cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd, gwahanol neu gyfarwydd, ac wedyn y dewis i barhau ag o y tu hwnt i’r diwrnod.”

“O dan yr amgylchiadau presennol mae’n bwysicach bod pobl yn cael cyfleoedd mor lleol â phosib, ac ni fyddem yn gallu gwneud hyn heb gefnogaeth A F Blakemore, y clybiau, awdurdodau lleol a CRhC. Mae wir yn ymwneud â chydweithio.” 

Newyddion Diweddaraf

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy