Main Content CTA Title

Blwyddyn o chwaraeon yng Nghymru - edrych yn ôl dros 2025

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Blwyddyn o chwaraeon yng Nghymru - edrych yn ôl dros 2025

Mae hi wedi bod yn flwyddyn o ymgyrchoedd nodedig, digwyddiadau blaenllaw, a cherrig milltir pwysig ym myd chwaraeon yng Nghymru.

Wrth i’r chwiban olaf ddod â 2025 i ben, gadewch i ni gael cipolwg ar rai o’r uchafbwyntiau sydd wedi llywio chwaraeon Cymru.

Mae hi’n amser edrych yn ôl...

Yr ymgyrchoedd chwaraeon yng Nghymru a lwyddodd i greu argraff yn 2025

Yn 2025, roedd chwaraeon Cymru yn llawn ymgyrchoedd a mentrau a wnaeth wahaniaeth. Ac er bod llawer o uchafbwyntiau i ddewis ohonynt, dyma dri i'ch ysbrydoli yn 2026…

Pêl-fasged Cymru yn lansio ymgyrch Chwiban Goch i annog dyfarnwyr

Ym mis Ebrill, cyflwynodd Pêl-fasged Cymru ymgyrch lwyddiannus y Chwiban Goch. Mae'n eithaf syml: mae pob dyfarnwr ifanc a newydd yn gwisgo chwiban a laniard coch sy'n arwydd i chwaraewyr, hyfforddwyr a gwylwyr bod y swyddog yn ifanc neu'n ddyfarnwr newydd. Meddyliwch amdano fel plât D ar gwrt pêl-fasged.

Mae'n annog mwy o ddyfarnwyr i gamu ymlaen drwy sicrhau’r canlynol: 

  • lleihau pwysau 
  • caniatáu iddyn nhw ddysgu o’u camgymeriadau
  • magu hyder

Mae ffigurau eisoes yn dangos cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer cyrsiau dyfarnu lefel un eleni, tra nad oes unrhyw bryderon nac adroddiadau diogelu wedi'u cyflwyno gan ddyfarnwyr newydd neu rai o dan 18 oed yn nodi eu bod yn teimlo dan fygythiad.

Dywedodd Gavin Williams, Prif Swyddog Gweithredol Pêl-fasged Cymru:

"Mae ein hymgyrch Chwiban Goch eisoes wedi cael effaith gadarnhaol y tymor hwn, gyda gwelliannau amlwg mewn ymddygiad tuag at ein dyfarnwyr ymysg rhieni, hyfforddwyr a gwylwyr. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi'r ymgyrch hyd yn hyn ac wedi ei chroesawu mewn ffordd mor gadarnhaol.”

Badminton Cymru yn herio canfyddiadau o anabledd

Wrth i’r digwyddiad badminton para mwyaf erioed i gael ei gynnal yng Nghymru gyrraedd Caerdydd, manteisiodd Badminton Cymru ar y cyfle i herio rhagdybiaethau cyffredin am anabledd.

Yn y fideo trawiadol ‘Can you manage?’, fe wnaeth athletwyr badminton para sbarduno sgyrsiau pwysig. Mae'r fideo yn cynnwys y llinell bwerus:

“Dydw i ddim yma i ti deimlo biti drosta i. Dim fi ydi’r stori i wneud i ti deimlo’n dda. Dydw i ddim yma i dy ysbrydoli. Rydw i yma i symud. I gystadlu, i ennill. Os ydy hynny'n gwneud i ti deimlo'n anghyfforddus...dw i'n falch.”

Dywedodd Kelly Aston MBE, Prif Swyddog Gweithredol Badminton Cymru:

“Roedden ni’n hynod falch o ddod â Chystadleuaeth Ryngwladol Badminton Para Prydain ac Iwerddon i Gaerdydd. Ond roedd y digwyddiad yn llawer mwy na dim ond chwaraeon o'r radd flaenaf. Rhoddodd gyfle i ni herio canfyddiadau ac annog sgyrsiau ynghylch cynhwysiant a chynrychiolaeth mewn chwaraeon.”

Mae'n enghraifft wych o sut y gall chwaraeon ddylanwadu ar agweddau ac ymddygiad. Mae angen gweld mwy o hyn yn 2026.

Athletau Cymru yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch menywod

Gyda llawer o fenywod yn dewis peidio â rhedeg dros y gaeaf gan ei bod hi’n dywyll gyda’r nos, mae Athletau Cymru wedi arwain yr ymdrech i helpu i'w gwneud yn fwy diogel.

Cafodd yr ymgyrch Ein Nos Ni ei hamseru'n berffaith, gan gyrraedd y penawdau wrth droi’r clociau'n ôl ym mis Hydref. 

Nid yn unig mae'r fenter yn codi ymwybyddiaeth o'r problemau y mae menywod yn eu hwynebu wrth redeg yn y nos, ond mae'n anelu at addysgu cymunedau ar ffyrdd ymarferol o ddarparu cefnogaeth. Gwahoddodd grwpiau a chlybiau hefyd i ‘Ail-hawlio’r Strydoedd’, gan eu hannog i drefnu sesiynau rhedeg ar y cyd.

Gwylio’r fideo Ein Nos Ni.

  • Cymerodd 2127 o bobl ran yn ras Ein Nos Ni ledled Cymru ar 26 Hydref mewn digwyddiadau a drefnwyd gan 60 o glybiau a grwpiau yn ogystal â 3 digwyddiad gan Athletau Cymru.
  • Mae 223 o bobl wedi cymryd rhan mewn gweminarau addysgol
  • Mae 17 o aelodau'r Senedd wedi cefnogi'r ymgyrch yn swyddogol yn dilyn digwyddiad yn y Senedd.
  • Mae pob un o'r 4 heddlu yng Nghymru wedi cefnogi’r ymgyrch gyda 12 o glybiau wedi cofrestru ar gyfer mentrau'r heddlu. 
  • Mae wedi arwain at sicrhau bod clybiau fel Clwb Lloeren Fordy Runs Wrecsam yn gweithio gyda'r heddlu i drefnu sesiynau rhedeg mewn grŵp ar ôl iddi nosi.
  • Mae Cyngor Casnewydd bellach yn ystyried sut y gall goleuadau stryd ei gwneud hi'n fwy diogel i redwyr.

Mae'r ymgyrch hon yn parhau i gael effaith gyda mwy o bartneriaethau, mwy o sesiynau grŵp a mwy o fenywod sydd bellach yn teimlo ei bod hi'n fwy diogel mynd i redeg.

Gobeithio y gwelwn fwy o syniadau gwych ac effaith gadarnhaol ar chwaraeon Cymru y flwyddyn nesaf.

Y digwyddiadau chwaraeon a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2025 sydd wedi creu hanes

Roedd calendr chwaraeon Cymru yn brysur iawn o ddigwyddiadau chwaraeon o'r radd flaenaf gyda'r genedl yn cynnal digwyddiadau chwaraeon sydd wedi creu hanes.

Roedd 2025 yn flwyddyn o brofi pethau am y tro cyntaf, atgofion rhyfeddol a chyflawniadau bythgofiadwy. Dyma rai ohonynt...

Y golffwyr gorau yn cyrraedd Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Agored y Merched AIG

Mewn blwyddyn oedd yn un hynod lwyddiannus i chwaraeon merched, fe ddaeth golffwyr benywaidd gorau’r byd i’r Royal Porthcawl ar gyfer Pencampwriaeth Agored y Merched AIG. Ac fe hawliodd ei lle yn y llyfrau hanes fel y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i ferched i gael ei gynnal yng Nghymru.

Fe wyliodd torf fawr o 47,428 o bobl Miyu Yamashita o Japan yn codi’r tlws. Ond nid hi oedd yr unig enillydd…

  • Mae 74 o brosiectau ledled Cymru yn trawsnewid cyfleusterau i ferched a genethod diolch i Gronfa Gwaddol gwerth £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru.
  • Mae mwy o ferched a genethod nag erioed o’r blaen o gymunedau amrywiol wedi cael eu cyflwyno i’r gamp drwy gynllun New2Golf Golff Cymru, sy’n cynnig hyfforddiant golff am gost isel mewn cyfleusterau lleol.
  • Mae Give Golf a Go, ymgyrch newydd sbon Golff Cymru a lansiwyd eleni mewn cydweithrediad â chlwb Criced Morgannwg, Undeb Rygbi Cymru a Phêl-rwyd Cymru/Y Dreigiau Celtaidd, wedi gweld ystod eang o bobl yn rhoi cynnig ar golff am y tro cyntaf!
  • Ac fe enillodd Clwb Golff Llantrisant a Phontyclun wobr Clwb Iau y Flwyddyn yng Ngwobrau Golff Cymru. Fe wnaethon nhw hefyd ddangos sut mae digwyddiadau chwaraeon elitaidd yn cael effaith ar chwaraeon ar lawr gwlad, gan ysbrydoli mwy o blant i fentro ar y cwrs. Mae’r aelodaeth iau wedi cynyddu 50% tra bo nifer y merched sy’n chwarae wedi mwy na threblu. Cafodd aelodau iau y clwb rôl arbennig yn y digwyddiad hyd yn oed, gan ffurfio’r osgordd er anrhydedd gyntaf erioed yn hanes y bencampwriaeth ar gyfer cyflwyno’r tlws.

 

Mwy o wybodaeth am ymdrechion Golff Cymru i dyfu’r gêm.

Photography: The R&A

Twrnamaint sboncen cadair olwyn cyntaf erioed Cymru

Mae gan Gymru enw da ym maes chwaraeon anabledd ers blynyddoedd. A bu'n gwthio’r ffiniau unwaith eto yn 2025.

Ym mis Medi cynhaliwyd twrnamaint Sboncen Cadair Olwyn Cymru am y tro cyntaf erioed, gan nodi carreg filltir enfawr yn natblygiad y gamp yng Nghymru.

Mae dyddiad eisoes wedi'i bennu yn y dyddiadur ar gyfer digwyddiad yr un fath y flwyddyn nesaf ond byddwch yn barod am un mwy a gwell y tro nesaf gan fod y twrnamaint eisoes wedi cael effaith hirdymor, sydd wedi arwain at y canlynol:

  • rhwydwaith newydd o lysgenhadon sboncen cadair olwyn 
  • sesiynau blasu misol yng Nghaerdydd
  • Mae Sboncen Cymru a Tennis Cymru bellach yn cydweithio ar gyfres o sesiynau blasu chwe wythnos. 

Digwyddiad tennis Wrecsam yn arwain at hwb economaidd

Llwyddodd Mimi Xu, y chwaraewr tennis ifanc arbennig o Gymru, i gyffroi’r dorf gartref pan enillodd y ddau deitl sengl a dwbl yng nghystadleuaeth Agored Lexus Wrecsam.

A gwnaeth hynny o flaen torf o blant ysgol lleol a oedd wedi'u hyfforddi i ymgymryd â rôl bwysig iawn criw'r bêl. Ac fel diolch am eu gwaith caled, rhoddodd Tennis Cymru sesiwn blasu padel iddyn nhw.

Cyn i'r twrnamaint ddechrau, cafodd plant lleol gyfle hefyd i chwarae ar yr un cyrtiau yr oedd y chwaraewyr proffesiynol yn eu defnyddio. Rhoddwyd tocynnau iddynt hefyd i wylio’r rownd gogynderfynol, a chawsant gyfle i ofyn eu cwestiynau hollbwysig i Mimi Xu.

Yn ôl ymchwil gan Sport England, fe wnaeth y digwyddiad – y digwyddiad tennis dan do mwyaf i fenywod yn y DU – sicrhau buddion gwerth £500,000 i’r gymuned fusnes. Gwelwyd hefyd y nifer uchaf o wylwyr o holl ddigwyddiadau dan do W100 yn 2025. 

A’r newyddion ardderchog? Mae’n digwydd eto yn 2026. Welwn ni chi’n Wrecsam!

Photography: James Baylis

Y prif gerrig milltir ym maes chwaraeon yng Nghymru yn 2025

Roedd 2025 yn flwyddyn nodedig i chwaraeon Cymru. Gwelwyd tîm pêl-droed y menywod yng nghystadleuaeth yr Ewros am y tro cyntaf erioed, a chyhoeddwyd y byddai'r Tour de France yn mynd drwy Gymru yn 2027.

Ond llwyddodd Cymru i sicrhau buddugoliaethau arwyddocaol y tu ôl i'r llenni hefyd…

Chwaraeon Cymru yn pasio'r marc Cyllido Torfol o £1 miliwn

Ym mis Medi, fe wnaeth clybiau ledled Cymru – gyda chymorth Chwaraeon Cymru a Crowdfunder – dorri’r garreg filltir buddsoddi o £1 miliwn.

Ers 2021:

  • Mae 76 o glybiau ledled Cymru wedi codi £730,795 drwy Crowdfunder.
  • Mae Chwaraeon Cymru wedi darparu £367,210 mewn cyllid cyfatebol drwy’r gronfa Lle i Chwaraeon
  • mae cyfanswm o £1,098,005 wedi'i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol
  • mae traean o'r prosiectau wedi bod o fudd i ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

O rampiau mynediad i bobl anabl ac ystafelloedd newid newydd i ymestyn tai clwb ac ailosod toeau sy'n gollwng dŵr, mae Chwaraeon Cymru a Crowdfunder yma i helpu.

Eisiau i'ch clwb fod yn rhan o'r £1 miliwn nesaf a godir ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru? Beth am ddechrau eich taith cyllido torfol nawr.

Lansio’r Fframwaith Sylfeini

Eleni, daeth sector chwaraeon Cymru ynghyd i greu Fframwaith Sylfeini Cymru.

Mae'n ganllaw arfer da i unrhyw un sy'n cyflwyno chwaraeon i blant 3 - 11 oed. 

Yng Nghymru, rydym eisiau i blant gael profiad cadarnhaol o chwaraeon fel y gallant dyfu gyda'r cymhelliant, yr hyder a'r sgiliau i fwynhau oes o fod yn actif. Yn syml, mae'n golygu rhoi'r dechrau gorau posibl i blant.

Dechreuodd y gwaith caled go iawn ym mis Tachwedd wrth i'r sector rannu'r fframwaith gyda chlybiau chwaraeon ledled Cymru. Y nod yw eu helpu i ddefnyddio'r adnodd fel y gallwn ni i gyd gyflwyno chwaraeon sy'n canolbwyntio ar y plentyn.

Ond pam ei fod yn bwysig? Wel...

  • dim ond 22% o blant 8-11 oed sy'n bodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd
  • Mae 1 o bob 4 o blant 4–5 oed (27.1%) yng Nghymru yn ordew neu dros bwysau
  • Nid yw 1 o bob 3 disgybl (31%) yng Nghymru yn hyderus i roi cynnig ar chwaraeon newydd
“Y gobaith yw dechrau lleihau nifer y plant sy’n rhoi’r gorau i chwaraeon oherwydd diffyg hyder neu brofiadau negyddol.”
meddai Clare Roberts o Chwaraeon Cymru

Sefydlu pum Partneriaeth Chwaraeon Rhanbarthol Cymru

Mewn trawsnewidiad arwyddocaol o ran chwaraeon yng Nghymru, mae'r pum partneriaeth chwaraeon rhanbarthol bellach wedi'u sefydlu.

Mae'n un o'r newidiadau mwyaf erioed yn y ffordd y mae chwaraeon yng Nghymru yn cael eu cyflwyno, eu harwain a'u hariannu. Nod y broses o wneud penderfyniadau ar lefel ranbarthol yw helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cyfranogiad mewn chwaraeon a meithrin dulliau cydweithio a meddwl arloesol ar draws y rhanbarth.

Mae'r partneriaethau'n cwmpasu Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Gorllewin Cymru, Canolbarth y De a Gwent. 

Rhagor o wybodaeth yma.

Wrth gwrs, fe welsom lawer o uchafbwyntiau eraill yn 2025 gyda sefydliadau a chlybiau yn dathlu eu llwyddiannau eu hunain. Gobeithio y gwelwn ni fwy o uchafbwyntiau, cerrig milltir ac effaith mewn chwaraeon yng Nghymru y flwyddyn nesaf.