Main Content CTA Title

Mae taith Priya yn dangos sut y gall campfa leol newid bywyd plentyn

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mae taith Priya yn dangos sut y gall campfa leol newid bywyd plentyn

Dechreuodd Priya O’Neill ddod i Glwb Gymnasteg YMCA y Barri pan oedd yn ifanc iawn. A hithau bellach yn 10 oed, mae hi wrth ei bodd yn fflipio, troi a throelli ar draws llawr y gampfa. Gan fyw gydag anhwylder yn natblygiad y cydsymud (DCD), a elwir hefyd yn ddyspracsia, mae Priya wedi dod o hyd i le i dyfu a chael hwyl, a hynny i gyd gyda chefnogaeth ei hyfforddwyr a'r Loteri Genedlaethol.

O rowlio'n ifanc i lwyddiannau anhygoel

Mae gymnasteg wedi achub bywyd Priya. Mae’r sesiynau'n ei helpu gyda’r canlynol:

  • Rheoli ei hwyliau
  • Datblygu ei chorff i gydsymud
  • Magu hyder
  • Gwneud ffrindiau newydd

Mae ei mam, Michaela O’Neill, yn ei disgrifio fel “enfys niwroamrywiaeth” ac yn dweud bod y sesiynau wedi bod yn gefnogaeth gyson iddi ers pan oedd hi'n fabi. 

Gymnastwr ifanc
Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau yma. Mae’r hyfforddwyr yn hwyliog ac yn ddeallus. Mae’r offer newydd yn wych. Mae yna bwll newydd a llawr mawr lle rydyn ni'n dawnsio.
Priya O’Neill

Yn ystod Covid, pan oedd yn rhaid i'r clwb gau, sylwodd mam Priya ar wahaniaeth mawr. “Heb unrhyw le i gael gwared ar ei hegni a dilyn trefn gyda'i gymnasteg, roedd hi’n blentyn gwahanol,” eglura. “Yma, mae hi’n cael mewnbwn synhwyraidd, dealltwriaeth garedig ac amyneddgar gan yr hyfforddwyr, a sesiynau wedi’u trefnu mewn amgylchedd diogel,” meddai Michaela. 

Mae hyd yn oed therapyddion galwedigaethol Priya wedi sylwi ar ei chynnydd. Gyda'i chyflwr hi, mae cyrraedd lefel mor uchel o gydbwysedd a chydsymud yn garreg filltir enfawr.

Clwb i bob gallu

Mae Clwb Gymnasteg YMCA y Barri yn croesawu pawb. O fabanod sy'n cropian i blant ifanc sigledig ar eu traed a sgwadiau elitaidd. Mae'r clwb yn cynnal amrywiaeth o sesiynau:

  • Dosbarthiadau yn y gampfa i blant bach a phlant cyn ysgol
  • Grwpiau cymorth i bobl ag anabledd
  • Sgwadiau hamdden ac elitaidd
  • Sesiynau dawns a symudiadau
Grŵp o gymnastwyr ifanc

Yn ddiweddar, helpodd cyllid y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru i drawsnewid y gampfa. Ymysg y gwelliannau mae: 

  • Llawr newydd
  • Matiau glanio
  • Pwll sbwng lliwgar

Dywed Michaela O’Neill, “Mae’r clwb hwn yn wirioneddol bwysig. Nid yn unig mae’n cyrraedd lefelau elitaidd o ran gymnastwyr, mae'n cyffwrdd â chymaint o bobl â gwahanol alluoedd yn ein cymuned. Mae'r cymorth gan y Loteri Genedlaethol yn golygu y gall y clwb gadw costau aelodaeth mor isel â phosibl. Heb YMCA y Barri a'r Loteri Genedlaethol, ni fyddai gan blant yma'r cyfleoedd i ddatblygu gwytnwch, disgyblaeth, na phenderfyniad. Byddai'r cyfan yn diflannu.”

Diolch i’r Loteri Genedlaethol 

Mae'r grant wedi caniatáu i'r clwb ehangu sesiynau, hyfforddi mwy o hyfforddwyr a darparu amgylchedd diogel a chynhwysol i bawb. Mae rhieni'n dweud bod plant yn fwy hyderus, yn hapusach ac yn ffynnu o ran sgiliau a dulliau rhyngweithio cymdeithasol. 

Dosbarth gymnasteg yn Acton
Oni bai am y gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol, byddai’r clwb wedi bod mewn trafferthion difrifol. Felly, hoffem ddiolch yn fawr iawn i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am ein cefnogi ni a'n cymuned.
Anthea Clements, Glwb Gymnasteg YMCA y Barri

Dyfodol disglair a chynhwysol

Diolch i'r gefnogaeth hon, mae'r gampfa oedd wirioneddol angen ei hatgyweirio ar frys bellach yn ofod bywiog i blant o bob gallu. Mae Clwb Gymnasteg YMCA y Barri yn parhau i sicrhau’r canlynol:

  • Cefnogi grwpiau i bobl ag anabledd
  • Darparu hwyl ac elfennau dysgu i fabanod a phlant bach
  • Meithrin ymgeiswyr gobeithiol Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol
Gymnastwr ifanc

I Priya, mae'r gampfa yn lle i feithrin hyder, teimlo'n rhan o rywbeth arbennig a pharhau i gael breuddwydion uchelgeisiol. 

Ydych chi'n meddwl am helpu plant yn eich cymuned i ffynnu drwy chwaraeon? Fel Clwb Gymnasteg YMCA y Barri, gallai Cronfa Cymru Actif helpu eich clwb i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc o bob gallu.