Main Content CTA Title

Sut mae campfa leol yn Sir Benfro yn helpu merched i heneiddio'n dda

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut mae campfa leol yn Sir Benfro yn helpu merched i heneiddio'n dda

Yn Hwlffordd, mae Janice Morgan, 72 oed, ac Eva Hayes, 67 oed, yn profi nad oes rhaid i heneiddio olygu arafu.

Gan ddefnyddio pwysau o bob math, mae’r ddwy yn cofleidio heneiddio gydag egni ac optimistiaeth fel rhan o gymuned sy'n tyfu mewn sesiynau Heneiddio'n Dda yn Academi Cryfder Cymru.

“Mae gwneud y sesiynau yn Academi Cryfder Cymru wedi rhoi mwy o egni i mi,” meddai Janice. “A nawr, rydw i'n gryfach ac yn fwy ystwyth.” 

Cymuned sy’n codi ei gilydd

Nid campfa gyffredin mo Academi Cryfder Cymru. Mae'n achubiaeth gymunedol - yn croesawu pobl o bob oedran a gallu gyda'r uchelgais o godi'r gymuned gyfan.

Ochr yn ochr â'r sesiynau Heneiddio'n Dda ar gyfer pobl dros 60 oed, mae'r gampfa hefyd yn cynnal gweithgareddau ar gyfer y canlynol:

  • gofalwyr di-dâl
  • plant o deuluoedd difreintiedig,
  • pobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson, arthritis neu ddementia

Ond wrth i'r galw gynyddu, felly hefyd yr angen am y canlynol:

  • mwy o hyfforddwyr cymwys
  • offer addas
  • uwchraddio’r lloriau
Menywod hŷn yn dal dumbbell.
Menywod hŷn yn defnyddio peiriant rhwyfo.
Tri menyw yn gwneud ymarferion gwthio i fyny.
Hyfforddwr SAW yn rhoi arddangosiad i grŵp o fenywod.

Dyna pryd trodd y tîm at Chwaraeon Cymru a'r Loteri Genedlaethol - gan sicrhau mwy na £4,000 mewn cyllid i gryfhau eu cenhadaeth.

Diolch i'r gefnogaeth honno, mae mwy na 200 o bobl yn defnyddio'r gampfa bob wythnos bellach.

“Fe helpodd cyllid y Loteri Genedlaethol ni i hyfforddi ein gwirfoddolwyr i ddod yn hyfforddwyr. Fe wnaeth hefyd ganiatáu i ni brynu offer a gwella lloriau'r gampfa.” - Simon Roach, aelod o bwyllgor Academi Cryfder Cymru.

Y merched sy’n profi bod y gampfa ar gyfer pob oed

Janice – o golli pwysau i’w godi         

I Janice, mae'r gampfa wedi dod yn ffynhonnell o gryfder - corfforol a meddyliol. Ar ôl y pandemig, fe ymunodd hi i golli ychydig o bwysau. Nawr, mae hi'n codi pwysau 65 cilo ac yn teimlo'n fwy egnïol nag erioed.

Janice yn codi pwysau.
Rydw i'n awyddus i wneud popeth o fewn fy ngallu i ysgogi fy meddwl a fy nghorff wrth i mi heneiddio. Mae mor bwysig gwneud popeth allwch chi i gadw’n iach a bod yn annibynnol.
Janice Morgan

Eva – hyfforddi heddiw i fod yn gryfach fory

Wedi’i hysbrydoli gan frwydrau ei mam-yng-nghyfraith gydag osteoporosis a llawdriniaeth i gael clun newydd ei mam ei hun, fe ymunodd Eva i geisio diogelu ei hiechyd ar gyfer y dyfodol.

Eva yn codi pwysau.
Mae prosiectau fel Academi Cryfder Cymru yn hanfodol, Mae ymarfer corff yn allweddol os ydyn ni am atal problemau iechyd wrth i ni heneiddio, felly mae angen i gyfleusterau fel Academi Cryfder Cymru fod ar gael. Dyna pam mae cyllid y Loteri Genedlaethol mor bwysig.
Eva Hayes

Ond y tu hwnt i’r ymarfer corff, y cyfeillgarwch sy’n gwneud iddi ddod yn ôl yn gyson. Ar ôl pob sesiwn, mae Eva’n mwynhau’r ochr gymdeithasol, gan gael coffi cwbl haeddiannol gyda’i ffrindiau newydd.

Eisiau helpu merched i heneiddio'n dda?

Mae Janice ac Eva yn brawf bod posib i heneiddio, gyda'r gefnogaeth gywir, ymwneud ag ennill, nid colli, cryfder.

Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol, mae campfa gymunedol fechan yn Sir Benfro yn helpu pobl i symud yn well, teimlo'n well, a byw yn well.

Oes gennych chi brosiect fedr wneud gwahaniaeth i ferched hŷn hefyd? Gallai Cronfa Cymru Actif eich helpu chi i wneud y gwahaniaeth hwnnw.