Skip to main content

Goroeswr strôc nôl yn y gêm gyda bowls

Mae goroeswr strôc o Lantrisant yn ddim ond un o filiynau o bobl ledled Cymru sy'n edrych ymlaen at fod nôl yn y gêm wrth i'r cyfyngiadau lacio.

Ar ôl mwy na 30 mlynedd o chwarae bowls, nid yw Alan Thompson, 74 oed, wedi bod ar lawnt fowlio ers dioddef strôc a beryglodd ei fywyd yn 2018, a wnaeth ei adael yn methu symud ac yn yr ysbyty am 14 wythnos. Fwy na thair blynedd yn ddiweddarach, mae Alan yn gobeithio dychwelyd i'w glwb bowls lleol am y tro cyntaf ers ei strôc.

Ar ôl llwybr araf at adferiad, mae Alan bellach yn gallu cerdded gyda chymorth ffon gerdded yn unig. Ddechrau'r flwyddyn eleni roedd yn teimlo ei fod yn barod i fod yn fwy actif eto ac ailddechrau chwarae bowls. Gyda'r cyfyngiadau symud a chlybiau chwaraeon ledled Cymru ar gau, trefnodd y Gymdeithas Strôc, mewn partneriaeth â Bowls Cymru, sesiynau bowls rhithwir ar gyfer goroeswyr strôc fel Alan.

Ar ôl adennill rhywfaint o'i gryfder corfforol a'i hyder yn dilyn cyflwr a beryglodd ei fywyd, mae Alan bellach yn dyheu am fod nôl yn gwneud rhywbeth mae mor hoff ohono. 

Alan Thompson.
Alan Thompson.

 

Meddai Alan: “Rydw i wedi bod yn chwarae bowls ers yr 80au, roedd yn rhan enfawr o fy mywyd i a dyna oedd yn fy nghadw i'n actif mewn gwirionedd. Y gêm ddiwethaf i mi ei chwarae oedd dair blynedd yn ôl, y diwrnod cyn i mi gael fy strôc. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i byth yn gallu chwarae bowls eto, ond fe wnaeth chwarae bowls yn rhithwir fy helpu i ailddechrau yn raddol ac rydw i wedi dod o hyd i fy hyder eto. Rydw i wedi gwneud yr ymarfer a nawr mae'n amser am y perfformiad go iawn allan ar y lawnt. ”

I bobl fel Alan ledled Cymru, mae bod nôl yn y gêm yn helpu i ailgysylltu â chwaraeon a'r gymuned o'i chwmpas. Mae bod yn actif nid yn unig yn dda i iechyd corfforol, ond hefyd o ran y manteision iechyd meddwl y gall eu darparu.

Mae ein hymchwil yn awgrymu bod mwy na hanner yr oedolion yng Nghymru yn colli'r mathau o weithgarwch yr oeddent yn gallu eu gwneud cyn i'r pandemig ddechrau, tra bod 60% o oedolion yn bwriadu cynyddu faint o weithgarwch corfforol ac ymarfer corff maent yn ei wneud wrth i Gymru ddod allan o’r cyfnod clo.

Wedi’i chalonogi gan sut bydd llacio’r cyfyngiadau’n agor chwaraeon i fwy o bobl, dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Drwy gydol cyfnod anhygoel o heriol, mae'r teulu chwaraeon yng Nghymru wedi dangos amynedd mawr, gan weithredu'n gyfrifol ac yn greadigol i helpu i gefnogi ffyrdd iach o fyw yn ystod y pandemig.

“Mae'r ffaith bod y dyddiadau ailagor wedi cael eu symud ymlaen yn dyst i ymroddiad y sector chwaraeon i sicrhau dychweliad diogel sy'n cydymffurfio â covid. Rydyn ni wrth ein bodd ei bod hi bron yn amser i bawb fod nôl yn y gêm a mwynhau manteision enfawr chwaraeon a gweithgarwch corfforol. ”

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer cyflwyno a chymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer…

Darllen Mwy