Skip to main content

Cefnogaeth i fwy na 1,000 o glybiau chwaraeon cymunedol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cefnogaeth i fwy na 1,000 o glybiau chwaraeon cymunedol

Mae mwy na 1,000 o glybiau ar lawr gwlad wedi derbyn cyllid i helpu i sicrhau bod cyfleoedd chwaraeon a hamdden yn dychwelyd i gymunedau lleol yn dilyn pandemig Covid-19. 

Ers yr haf diwethaf, mae mwy na £3m wedi'i ddyfarnu gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i glybiau dan arweiniad gwirfoddolwyr a sefydliadau nid-er-elw, ac mae mwy o arian ar gael o hyd. 

Gan ddefnyddio arian gan Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael pwrpas newydd o’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau o rhwng £300 a £50,000 i helpu clybiau chwaraeon i oroesi'r pandemig, gwneud eu gweithgareddau'n ddiogel o ran Covid, a chefnogi cynlluniau clybiau i gynnig cyfleoedd chwaraeon gwell fyth y tu hwnt i'r argyfwng. 

 

Mae'r gronfa wedi cefnogi popeth, o hylif diheintio dwylo i baneli solar, hyd yma a dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Er bod gweithgareddau wedi’u gohirio ar hyn o bryd , nid yw'n golygu bod rhaid i'n gwaith cynllunio na'n huchelgais ni stopio. Bydd chwaraeon yn dechrau ailagor yn ystod y Gwanwyn a gall Cronfa Cymru Actif helpu i sicrhau bod clybiau'n barod i ddychwelyd yn ddiogel cyn gynted ag y bydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu hynny. 

"Rydw i hefyd yn credu y bydd chwaraeon yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy nag erioed pan fydd y pandemig yma drosodd felly bydd angen i glybiau fod yn barod am hynny. Mae'n gyffrous gweld y ffyrdd amrywiol mae clybiau eisoes yn dod o hyd i ffyrdd o wella eu cynnig yn y dyfodol a rhoi gwên yn ôl ar wynebau pobl." 



Mae ymchwil a gasglwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan Chwaraeon Cymru a Savanta ComRes yn awgrymu bod rhywfaint o'r anghydraddoldeb o ran cymryd rhan mewn chwaraeon wedi gwaethygu oherwydd y cyfyngiadau symud. Fel ymateb, mae Chwaraeon Cymru yn annog clybiau i ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael i ddileu unrhyw rwystrau sy’n atal cymryd rhan mewn chwaraeon yn y dyfodol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd. 



Ychwanegodd Sarah: "Rydyn ni eisiau gweithio gyda chlybiau i fynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae Cronfa Cymru Actif ar gael i helpu gyda hyn, felly byddwn yn annog pob clwb a sefydliad sy'n darparu chwaraeon i ystyried sut gallent ddefnyddio'r cyllid i greu cenedl fwy actif ar ôl Covid." 



I gael gwybod mwy am Gronfa Cymru Actif, ewch i www.sport.wales/beactivewalesfund.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy