Skip to main content

Chwaraeon a’r Iaith Gymraeg fel Arf

Pan mae Angharad James eisiau cyfleu pwynt tactegol i aelod arall o'i thîm, Natasha Harding, nid yw'n syndod ei bod yn siarad Cymraeg.

A dweud y gwir, fel pob chwaraewr pêl droed rhyngwladol, mae James yn benderfynol o sicrhau pob mantais ac mae'n awyddus i fwy o chwaraewyr yn y tîm cenedlaethol gyfathrebu yn yr iaith.

Mae James a Harding yn digwydd chwarae i'r un clwb, Reading FC, felly efallai bod synau dwy fenyw yn sgwrsio yn y Gymraeg wrth iddyn nhw sefyll uwch ben cic rydd yn Stadiwm Madejski yn drysu mwy nag ambell amddiffynnwr yn y tîm arall.

Mae'n fantais y byddai James yn hoffi gweld Cymru'n ei defnyddio'n fwy rheolaidd - yn rhannol er mwyn sicrhau nad yw'r gwrthwynebwyr yn deall beth sy'n cael ei ddweud, ond hefyd i fynegi ei hunaniaeth bersonol hi a'r tîm sy'n brwydro i gymhwyso ar gyfer y Pencampwriaethau Ewropeaidd nesaf.

"Mae Tash a fi'n defnyddio'r Gymraeg ar lefel clwb ac yma'n chwarae dros Gymru," meddai James, oedd yn rhan o dîm Cymru a gafodd gêm gyfartal 1-1 yn eu gêm ddiweddaraf gartref yn erbyn Gogledd Iwerddon.

Gareth Edwards yn bwrw iddi

"Os ydyn ni'n chwarae yn erbyn gwlad sy'n siarad Saesneg - fel Gogledd Iwerddon - neu ryw dîm gyda llawer o chwaraewyr sy'n deall Saesneg, ac os ydyn ni eisiau cyfleu pwynt tactegol i'n gilydd, rydyn ni'n siarad Cymraeg.

"Mae'n drueni nad oes mwy o chwaraewyr y sgwad yn siarad yr iaith. Mae'n arf ychwanegol ac os ydych chi i gyd yn gallu siarad yr iaith, mae o help yn amlwg.

"A dweud y gwir, mae'n rhywbeth rydyn ni wedi siarad amdano - cael rhywun i ddod i helpu i ddysgu'r sgwad cyfan i siarad a defnyddio'r Gymraeg."

Ar derfyn haf pryd cafodd y chwaraewyr rygbi rhyngwladol Jonathan Davies a Ken Owens eu hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae'n ymddangos bod yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio i greu effaith ar y cae ac mewn cyfweliadau ar y llinell ochr.

Ond mae mwy i'w wneud o hyd i alluogi i chwaraewyr ar bob lefel ddefnyddio'r Gymraeg. Mae un o bob pump o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, felly gall annog siaradwyr a dysgwyr Cymraeg fod yn ffordd o ddenu aelodau newydd i glybiau chwaraeon.

Gan gadw hynny mewn cof, mae gwefan Atebion Clwb, ar y cyd â Chomisiynydd y Gymraeg, wedi creu adnodd ar-lein i gynorthwyo clybiau gyda'r amcanion hynny.

Yr haf diwethaf, fe ddechreuodd Criced Cymru gynnig mwy o help i hyfforddwyr oedd eisiau hyfforddi yn y Gymraeg a'r tymor yma mae llawer o gyrff rheoli wedi cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Efallai mai Cymdeithas Bêl Droed Cymru sy'n arwain y ffordd, ar ôl llawer o ailfrandio gydag ymrwymiad cliriach i'r Gymraeg a'r defnydd o'r gair 'Cymru' mewn adroddiadau ar gemau ar ei gwefan, yn hytrach na 'Wales'.

Ond does dim byd yn newydd am y defnydd o'r Gymraeg mewn chwaraeon ac roedd yn bodoli ymhell cyn unrhyw strategaeth gorfforaethol.

Cynhaliwyd un o'r cyfarfodydd enwocaf - os byr iawn - yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn y Gymraeg, pan ddaeth Gareth Edwards a Barry John at ei gilydd am y tro cyntaf ar ddiwedd y 1960au a phenderfynu sut roeddent am goncro'r byd rygbi fel hanerwyr ifanc gorau'r gamp.

Mae'r ymadrodd enwog am gynllun y ddau, John oedd yn llanc ifanc hamddenol braf ac Edwards oedd yn llawer dwysach o ran cymeriad, ar gyfer trin y bêl hirgron wedi cael ei basio i lawr drwy'r cenedlaethau fel rhan o chwedloniaeth fawr y byd rygbi. Yr union eiriau oedd: "Twla di fe, ddala i fe".

Meddai Gareth Charles, y sylwebydd yn y Gymraeg ar BBC Radio Cymru ac S4C: "Roedd e'n berffaith normal i'r ddau fachan o bentrefi Cymraeg eu hiaith yng Ngorllewin Cymru ddefnyddio eu mamiaith ar y cae yn ogystal ag oddi arno fe.

"Nid y tro cyntaf, ac yn sicr nid y tro olaf, gan fod y Gymraeg wedi chwarae rhan gynyddol amlwg ym mhob agwedd ar chwaraeon erbyn hyn.

"Yn y 1980au, roedd tîm rygbi Cymru'n defnyddio rhifau Cymraeg wrth alw yn y llinell, oedd yn cynnwys y blaenwyr yn gorfod dysgu'r rhifau o 1 i 10 yn y Gymraeg - her fawr i ambell un!

"Ac o dan oruchwyliaeth y diweddar Ray Gravell, roedd sgorfwrdd yr hen Barc y Strade bob amser yn cynnwys fersiwn Cymraeg o enw'r gwrthwynebwyr - i'r graddau lle gwelwyd y canlynol ar y bwrdd yn ystod ymweliad gan y Wasps, 'Llanelli v Y Picwns' (enw llafar am y pryfed adeiniog!)."

Dywed Charles mai'r twf mewn addysg Gymraeg a darlledu yn y Gymraeg yw'r ddau brif sbardun sydd wedi arwain at ddefnyddio mwy ar y Gymraeg ar y maes chwarae.

"Drwy'r radio i ddechrau, ac wedyn ar y teledu, mae terminoleg chwaraeon newydd sbon wedi cael ei chreu, ei derbyn a dod yn rhan annatod o'r iaith.

"Mae chwaraeon wedi dod yn rhan bwysig iawn o arlwy S4C. Cyflwynodd y rhaglen 'Sgorio', sydd newydd ddathlu ei phen blwydd yn 30 oed, y Gymraeg i gynulleidfa newydd y tu allan i Gymru.

"Fel yr unig raglen yn y DU oedd yn darlledu pêl droed Ewropeaidd o'r safon uchaf ar y dechrau, daeth gwylwyr o Loegr ac Iwerddon yn ymwybodol o'r iaith Gymraeg.

"Mae Sgorio a'r Clwb Rygbi yn cael ffigurau gwylio blynyddol uchaf S4C yn rheolaidd.

"Ochr yn ochr â Sgorio, mae rhaglenni eraill ar BBC Cymru Wales wedi galluogi i chwaraeon lleiafrif a chlybiau ar lawr gwlad gael sylw na fydden nhw wedi'i fwynhau fel arall.

"O ganlyniad, mae'r cyrff rheoli wedi dod yn ymwybodol bod y defnydd o'r Gymraeg nid yn unig yn fuddiol, ond yn angenrheidiol.

"Roedd ymgyrch Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn ystod yr Ewros yn 2016 yn rhagorol ac mae eraill, Undeb Rygbi Cymru yn benodol, wedi bod yn efelychu hyn.

Yn oes y cyfryngau cymdeithasol, a'u cyrhaeddiad byd-eang, mae'r posibiliadau i'r iaith Gymraeg gael ei chlywed drwy chwaraeon yn cynyddu o hyd.

Pwy fyddai'n meddwl, ar ôl llofnodi cytundeb gyda phêl droediwr ifanc o Gymru, Rabbi Matondo, y byddai'r clwb Almaenig Schalke yn trydar yn ddyddiol yn y Gymraeg er budd eu cefnogwyr ehangach, yn ogystal ag Almaenwyr brwd.

Neu, yn dilyn llwyddiant Geraint Thomas yn y Tour de France, y byddai podlediad yn y Gymraeg o'r enw 'Y Dihangiad' yn cael ei sefydlu?

Ychwanegodd Charles: "Ystyr 'Y dihangiad' yn y Gymraeg yw 'The breakaway' yn y Saesneg a bathwyd y term yn ystod y Tour ei hun - esiampl berffaith o chwaraeon, technoleg ac iaith yn datblygu law yn llaw."

Ond os oes unrhyw un yn y byd chwaraeon yng Nghymru angen cymhelliant ychwanegol i wella eu Cymraeg, dyma ateb James.

"Rydych chi'n gallu gweld pan rydyn ni'n canu'r anthem genedlaethol ein bod ni i gyd yn teimlo'n angerddol amdani, ond rydw i'n meddwl y gallwch chi deimlo mwy fyth felly os ydych chi'n deall y geiriau i gyd."