Skip to main content

Cipolwg – Mae dwy wythnos fawr yn wynebu pêl droed yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cipolwg – Mae dwy wythnos fawr yn wynebu pêl droed yng Nghymru

Mae'r ddau fis nesaf yn gyfnod arwyddocaol i reolwr tîm pêl droed y dynion yng Nghymru, Ryan Giggs, ac i fos y merched, Jayne Ludlow.

Mae carfan Ludlow yn rhoi cychwyn i'w hymgyrch i gymhwyso am Ewro 2021 gyda thrip i Ynysoedd Faroe ar Awst 29.

Ac mae tîm y dynion yn dychwelyd at geisio cymhwyso ar gyfer Ewro 2020 pan fyddant yn croesawu Azerbaijan i Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 6.

Mae'r ddau dîm yn gobeithio cyrraedd rowndiau terfynol eu twrnameintiau, ond mae'n dasg anodd bob amser mewn pêl droed rhyngwladol, fel mae hanes wedi dangos.

Dechreuodd dynion Giggs yn llawn optimistiaeth ond maent wedi llithro i golli cefn wrth gefn yn erbyn Croatia a Hwngari fis Mehefin, ac mae eu cyfle i sicrhau lle yn y twrnamaint yr haf nesaf yn fain. Does dim lle i fwy o lithro fwy na thebyg.

Mae Cymru yn bedwerydd yng Ngrŵp E, chwe phwynt ar ôl y tîm ar y blaen, Hwngari, sydd wedi chwarae un gêm yn rhagor.

Mae'n ymddangos bod y seren Gareth Bale yn ôl yn rhan o gynlluniau Zinedine Zidane yn Real Madrid a bydd yn hwb mawr i Giggs.

Mae Aaron Ramsey, sydd eto i chwarae yn yr ymgyrch ar ôl dioddef o anaf i linyn y gar, wedi chwarae am y tro cyntaf yn ddiweddar i'w glwb newydd, Juventus, a bydd yn dychwelyd at ddyletswyddau rhyngwladol (cafwyd cadarnhad ers hyn na fydd yn heini).

Mae ei gyd-amddiffynnwr, Connor Roberts, yn parhau'n obeithiol y gall cydaelodau ei dîm chwarae'n well ac mae'n dweud eu bod eto i ddangos eu potensial llawn yn yr ymgyrch yma.

"Roedd canlyniadau'r haf yn hynod siomedig o safbwynt pawb," meddai Roberts.

"Yr unig ffordd y gallwn ni wneud iawn am hynny nawr yw drwy ddod at ein gilydd fel tîm a chael y buddugoliaethau sydd eu hangen.

"Rydyn ni'n gwybod bod posib i ni wneud hynny. Dydyn ni ddim wedi chwarae ein potensial eto yn y grŵp yma, ond mae amser o hyd i newid pethau. Rydw i'n siŵr y gallwn ni wneud hynny.

"Gobeithio y caf i gyfle i chwarae eto oherwydd rydw i wastad yn edrych ymlaen at gynrychioli Cymru.

"Does dim byd gwell na gwisgo crys eich gwlad a chwarae yn erbyn unrhyw wrthwynebwyr. Rydw i'n gobeithio cael fy newis wrth gwrs ac y gallwn ni roi perfformiad da i'r cefnogwyr."

Mae gan reolwr y merched, Ludlow, broblemau hefyd gyda'r chwaraewraig sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros Gymru, Jess Fishlock, allan o'r ddwy gêm gymhwyso gyntaf ar ôl rhwygo gewyn croes blaen wrth chwarae i'w chlwb, Reign FC.

Chwaraeodd Fishlock ran allweddol yn yr ymgyrch gymhwyso ddiwethaf wrth i Gymru ddod yn agos iawn at le yng Nghwpan y Byd yr haf yma a bydd yn golled fawr.

Ond mae Ludlow yn gallu galw ar chwaraewraig canol cae arall, Rachel Rowe, sydd wedi gwella ar ôl cael yr un anaf. Hefyd mae Angharad James yn ei hôl yn y garfan ar ôl cael gorffwys yn ystod y gêm gyfeillgar yn erbyn Seland Newydd ym mis Mehefin.

Mae sypreis hefyd wrth i'r chwaraewraig canol cae 15 oed, Carrie Jones, wneud cynnydd drwy raddau oedran Cymru a hi fydd aelod ieuengaf y garfan.

Mae Ludlow, cyn chwaraewraig canol cae ei hun a fwynhaodd yrfa chwarae ddisglair, yn credu y bydd Jones yn elwa o'r profiad o fod yn rhan o'r tîm ar lefel hŷn.

"Rydw i'n ei gweld hi'n herio am le. Oni bai am hynny, 'fyddai hi ddim yn cael ei dewis," meddai Ludlow.

"Mae hi wedi cystadlu'n dda iawn yn ei rhaglen o berfformiadau domestig ac mae gennym ni obeithion mawr ar ei chyfer yn y dyfodol. Ar ôl dweud hynny, mae'n ddyddiau cynnar iawn o ran ei gyrfa ar lefel hŷn: clwb a gwlad. Mae'n broses ddysgu felly pan ddaw hi atom ni bydd yn gallu cymryd cymaint â phosib allan o'r amgylchedd.

"Ar y cae yn dysgu oddi wrth yr hyfforddwyr neu yn yr amgylchedd yn dysgu oddi wrth aelodau eraill y tîm ac yn mwynhau'r profiad, bydd yn bositif.

"I ni fel cenedl fechan, rydyn ni'n ceisio dewis cymaint â phosib sy'n chwarae ar y lefel orau bosib. Rydyn ni wedi gwneud hynny eto. Mae rhai ychwanegiadau newydd a rhai babis i mewn hefyd, sydd eto'n rhywbeth rydyn ni'n mynd i orfod ei wneud o hyd.

"Gobeithio y byddan' nhw'n mwynhau'r profiad a'u bod nhw'n edrych ymlaen at ymgyrch sy'n mynd i fod yn un heriol iawn, ond yn bleserus hefyd gobeithio."

Ychwanegodd Jones: "Ar hyn o bryd rydw i yn y garfan berfformio felly rydw i wedi hyfforddi gyda rhai chwaraewyr sydd wedi bod yn y garfan hŷn, fel Nadia Lawrence a Kylie Nolan. Yn y gwersylloedd mae'n brofiad mor wych dysgu oddi wrth y chwaraewyr profiadol eraill.

"Fe wnes i freuddwydio am hyn a gweithio'n galed i'w gyflawni - a nawr rydw i yma."

Mae Cymru eisiau adeiladu ar ei hymgyrch gymhwyso yng Nghwpan y Byd lle gwelwyd y tîm yn gwthio merched Lloegr bob cam i'w gêm gymhwyso olaf cyn sicrhau eu lle yn y diwedd gyda buddugoliaeth o 3-0 ar Rodney Parade yr haf diwethaf.

Bydd carfan Ludlow yn dychwelyd i Gasnewydd pan fyddant yn croesawu Gogledd Iwerddon ar Fedi 3, bum diwrnod ar ôl y trip i Ynysoedd Faroe. A Norwy a Belarus yw'r ddau dîm arall sy'n cystadlu yng Ngrŵp C.