Main Content CTA Title

O deimlo'n unig i gael eu cynnwys: sut mae Clwb Badminton Dynamos Caerdydd yn helpu merched i oresgyn rhwystrau diwylliannol a chymdeithasol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. O deimlo'n unig i gael eu cynnwys: sut mae Clwb Badminton Dynamos Caerdydd yn helpu merched i oresgyn rhwystrau diwylliannol a chymdeithasol

Y llynedd, fe gysylltodd Ismatara, gweithiwr cymunedol 39 oed gyda Mind sy'n byw yn Grangetown, â Chlwb Badminton Dynamos Caerdydd. Dim ond un peth oedd hi eisiau. Cynnal sesiynau i ferched yn unig ar gyfer merched o gefndiroedd amrywiol.

Roedd hi'n gwybod o brofiad yr heriau y mae merched o leiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu wrth geisio bod yn fwy actif. O bryder cymdeithasol a rhwystrau iaith i gyfyngiadau diwylliannol. 

Clwb cymunedol sy'n gwrando

Ond cafodd y syniad groeso cynnes gan Dynamos Caerdydd.

Diolch i gyllid gan y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, creodd y clwb le diogel a chroesawgar. Yn y clwb, mae merched o gymdogaethau fel Trelái, Caerau, Glan yr Afon a Threganna yn dod at ei gilydd bob wythnos i chwarae badminton a gwneud ffrindiau.

Pam mae lleoliadau i ferched yn unig yn bwysig? I ferched Mwslimaidd yn benodol, mae cael sesiynau i ferched yn unig yn hanfodol, yn enwedig o ran tynnu eu hijab wrth ymarfer corff.

Dyma pam mae lleoliadau i ferched yn unig yn bwysig:

  • Rhesymau crefyddol
  • Teimlo'n gyfforddus a hyderus
  • Teimlo'n ddiogel
  • Penodol ar gyfer anghenion merched

I lawer o'r merched sy'n dod, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gymryd rhan mewn chwaraeon erioed. 

A woman playing badminton
Wrth siarad â’r merched yn y sesiynau badminton, roedd gan bob un ohonyn nhw stori i’w hadrodd. Nid yw llawer o ferched yn gadael y tŷ yn aml iawn. Maen nhw'n wynebu rhwystrau iaith, dydyn nhw ddim yn teimlo'n hyderus, neu mae ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl. Roedd eu gweld nhw’n mwynhau chwaraeon - rhai ohonyn nhw am y tro cyntaf - yn hyfryd, ac rydyn ni'n diolch i'r Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru am eu cymorth.
Ismatara

Gyda chefnogaeth gan gyllid y Loteri Genedlaethol, mae Dynamos Caerdydd wedi buddsoddi mewn racedi, gwenoliaid, hyfforddiant, a llogi lleoliad yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Sophia, gan sicrhau nad oes unrhyw ferch yn cael ei gadael ar ôl oherwydd cost na mynediad.

Lleddfu poen a gwneud ffrindiau i Ismatara

Mae Ismatara, sy'n byw gyda'r poenau eang sy’n cael eu hachosi gan ffibromyalgia, yn dweud bod y sesiynau wedi newid ei bywyd, ac nid dim ond yn gorfforol.

Mae hi’n esbonio, “Fel dynes Fwslimaidd, mae bod yn actif yn gallu bod yn anodd. Mae yna lawer o gyfyngiadau am nad oes llawer o leoedd i ferched yn unig lle gallwn ni deimlo'n gyfforddus i dynnu ein hijab wrth ymarfer corff. Mae Dynamos Caerdydd wedi creu rhywbeth arbennig iawn – nid dim ond clwb badminton ydi hwn, mae'n hafan ddiogel lle gall merched o bob cefndir ddod at ei gilydd, bod yn nhw eu hunain, a theimlo'n hyderus i fod yn actif.”

Iddi hi, mae'r sesiynau wythnosol yma wedi bod yn gyfle i ddod i gysylltiad â chwaraeon eto, rhywbeth yr oedd hi wrth ei bodd yn ei wneud yn blentyn, cwrdd â phobl newydd, a rhoi sylw i’w hiechyd.

Two girls playing badminton

Gwneud gwahaniaeth ledled Caerdydd

Drwy sesiynau hyfforddi cynhwysol ac amgylchedd cefnogol, mae Clwb Badminton Dynamos Caerdydd yn profi y gall chwaraeon uno cymunedau, goresgyn rhwystrau diwylliannol, a grymuso merched i gymryd yr awenau gyda’u hiechyd a'u lles eu hunain.

Oes gan eich clwb chi syniadau gwych ar gyfer creu cyfleoedd cynhwysol i ferched a genethod mewn chwaraeon? Dysgwch sut gall Cronfa Cymru Actif helpu gyda hynny.