Mae clwb marchogaeth ceffylau bychan ger Caerffili yn gwneud neidio ceffylau a dressage yn fwy fforddiadwy i'w aelodau sy’n ferched i gyd bron.
Gyda chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru, mae Clwb Marchogaeth Pentref Rhydri yn helpu merched ifanc i feithrin hyder, cyfeillgarwch a sgiliau marchogaeth heb y pris uchel.
Mynd i’r afael â chost marchogaeth ceffylau
Mae chwaraeon marchogaeth yn enwog am fod yn ddrud. Gall llogi trelars i gludo ceffylau ar gyfer cystadlaethau gostio hyd at £200. Ychwanegwch brynu offer marchogaeth fel bŵts, siacedi, hetiau a gwarchodwyr y corff ac mae'r pris yn cynyddu’n gyflym. I deuluoedd mewn ardaloedd llai cyfoethog fel Caerffili, gall hyn wneud cymryd rhan mewn clybiau marchogaeth yn her real iawn.
Ond mae Clwb Marchogaeth Pentref Rhydri yn newid hynny.
Drwy sicrhau grant o £4,421 gan y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae'r clwb wedi gallu prynu ei neidiau sioe ei hun, a byrddau dressage a marcwyr. Gan arbed cannoedd mewn costau llogi offer nawr, mae posib trosglwyddo'r arbedion cost i'w aelodau.