Skip to main content

Clwb Pêl-droed Swiss Valley yn elwa o Gronfa Cymru Actif

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Clwb Pêl-droed Swiss Valley yn elwa o Gronfa Cymru Actif

Mae rheolwr Clwb Pêl Droed Calsonic Kansei Swiss Valley, Dean Williams, wedi canmol effaith Cronfa Cymru Actif, sydd wedi galluogi i ieuenctid Llanelli ddal ati i chwarae’r gamp maen nhw mor hoff ohoni.

Mae pandemig Covid-19 wedi arwain at anawsterau ariannol difrifol i glybiau chwaraeon ar lawr gwlad, gyda’u gallu i ddal ati i fodoli’n dod o dan amheuaeth.       

Roedd y pryder hwnnw’n gwmwl uwch ben Calsonic Kansei yn sicr – clwb yn ardal Swiss Valley yn Llanelli sydd wedi cael ei enw gan y ffatri foduron Japaneaidd y mae’r clwb yn chwarae ar ei chae.           

 

Ond diolch i gyllid gan Chwaraeon Cymru, mae pêl droed wedi dychwelyd i glwb sy’n darparu’r gamp i fwy na 300 o bobl o bob oedran, ar draws 17 o dimau. 

Mae’r arian – ychydig dros £1,000 – wedi galluogi’r clwb i dalu am offer a chynhyrchion yr oedd arno eu hangen er mwyn bodloni’r canllawiau newydd, yn dilyn gostyngiad enfawr yn ei incwm rheolaidd. 

“Roedd ein cais ni ar gyfer yr adrannau hŷn, iau a merched,” meddai Dean. 

“Mae gennym ni 17 o dimau i gyd. Mae pump o dimau merched, wyth tîm cymysg a phedwar tîm hŷn. Mae timau’r merched wedi datblygu’n dda iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae gennym ni bump o garfannau erbyn hyn. 

“Fe wnaethon ni gais am grant cyffredinol i geisio gallu gweithredu eto. Un o’r problemau mawr gyda’r adran hŷn oedd y golled enfawr o ran incwm am ein bod ni’n codi ffi am bob gêm. 

“Hefyd, er ein bod ni’n cael cae, rydyn ni’n gorfod gofalu amdano ein hunain.       

“Mae’r cae gennym ni ar brydles gan y ffatri, sy’n grêt, ond dydyn nhw ddim yn rhoi dim mwy na hynny i ni. Mae’n rhaid i ni ei dorri, ei farcio a’i gynnal a’i gadw. 

“Fe wnaethon ni golli tua 25 o gemau gyda Covid-19 a’r incwm hwnnw sy’n cyllido’r gwaith o gynnal a chadw’r cae dros fisoedd yr haf pan nad oes unrhyw arian yn dod i mewn. Felly fe wnaethon ni golli tua £1,400 o incwm yn yr adran hŷn yn unig.           

 

“Roedd y chwaraewyr hŷn yn talu £5 y gêm yn hytrach nag un ffi ar ddechrau’r flwyddyn, ond mae’r ieuenctid yn gweithio’n wahanol ac yn talu ymlaen llaw. Fel clwb, rydyn ni hefyd wedi colli ein nosweithiau cyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn ac eto, gyda 17 o dimau, mae’r rhain yn codi llawer o arian i ni fel gallwch chi ddychmygu.”

Mae’r tyllau yn eu ffrydiau cyllido rheolaidd wedi rhoi llawer o straen ar y clwb, a bydd tîm cyntaf y dynion yn y clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair newydd Gorllewin Cymru y tymor yma.

Mae timau merched y clwb yn cystadlu yng Nghynghrair Merched a Genethod Gorllewin Cymru, felly roedd incwm tanysgrifiad o gemau i lawr ar draws y clwb. 

Ychwanegodd Dean: “Fel clwb yn gyffredinol, rydyn ni’n credu ein bod ni wedi colli £3,500 i gyd a byddai’r arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i gyllido cynnal a chadw’r cae, fel hadu a’r math yna o beth. Dyna un o’r pethau wnaethon ni eu nodi ar y cais am grant.” 

Oherwydd gofynion Covid-19 o ran hylendid a diogelwch, mae llawer o’r arian wedi cael ei ddefnyddio i greu amgylchedd diogel i’r chwaraewyr ddychwelyd.               

“Fe wnaethon ni gynnwys pethau amlwg hefyd, fel cynhyrchion glanhau ac unrhyw offer cysylltiedig â Covid a dychwelyd at bêl droed mae Cymdeithas Bêl Droed yn eu rhoi at ei gilydd ar gyfer pawb. Y maes arall oedd offer a chyrsiau hyfforddi.     

“Yr hyn sy’n digwydd yn lleol yw bod cynllun grant sy’n weithredol bob blwyddyn. Fe allwch chi wneud cais am £1,500 sy’n cael ei dalu gan Chwaraeon Cymru a’i archwilio gan y cyngor lleol ac mae hwnnw ar gyfer sefydlu timau newydd. 

“Felly roedd gennym ni dîm dan chwech a thîm merched dan 16 newydd sbon. Fe fyddai’r £1,500 wedi cyllido peli newydd, offer hyfforddi newydd a hefyd y cymwysterau hyfforddi.           

“Ond doedden ni ddim yn gallu gwneud cais amdano oherwydd mae popeth gyda Chwaraeon Cymru wedi mynd tuag at gronfa Cymru Actif ei hun nawr. Rydyn ni wedi derbyn £1,000, sy’n rhagorol.       

“Mae’r £1,000 yma wedi talu am gynhyrchion glanhau fel sydd angen i bob tîm ac rydyn ni wedi gallu prynu’r offer y mae arnom ni ei angen er mwyn cael y timau newydd yn weithredol.” 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy