Ond nid yw Stephen yn fodlon i'r clwb sefyll yn ei unfan a jyst mwynhau ei lwyddiant. Yn ystod Covid, mae wedi bod yn gweithio'n galed i sefydlu timau newydd. Hwn fydd y clwb cyntaf erioed i sefydlu tîm Rygbi’r Gynghrair Anabledd Corfforol (PDRL) sy'n fersiwn o rygbi'r gynghrair sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ag anableddau nad ydynt yn defnyddio cadair olwyn chwarae'r gêm.
Mae iechyd meddwl wedi cael lle blaenllaw gan Stephen hefyd. Yn wir, ychydig cyn y cyfyngiadau symud, cafodd nifer o hyfforddwyr y Crusaders hyfforddiant iechyd meddwl:
"Rydyn ni wedi trefnu i gyfarfod ar Zoom er mwyn i ni allu cadw mewn cysylltiad a gwneud yn siŵr bod pawb yn iawn. Mae 80% o'n haelodau ni wedi bod yn gwarchod eu hunain ac mae llawer o'n chwaraewyr ni wedi dioddef anafiadau sy'n newid eu bywyd, felly mae wedi bod yn bwysig dal i siarad a gwneud i'n gilydd chwerthin. Mae llawer o bobl wedi bod yn ei chael hi'n anodd iawn."
Efallai bod Stephen wedi ymddeol ond mae'r gwaith mae’n ei wneud i fynd â'r clwb o nerth i nerth yn cyfateb i swydd lawn amser. Mae hefyd yn brif hyfforddwr carfan Rygbi'r Gynghrair Cadair Olwyn ryngwladol Cymru.
Ac eto, mae gan Stephen anableddau hefyd. Ar hyn o bryd nid yw'n ddefnyddiwr cadair olwyn ond mae'n dioddef o glefyd Dirywiol Cyhyrol Genetig ac yn ddiweddar mae wedi cael diagnosis o syndrom Merrf, sy'n effeithio ar wahanol rannau o'r corff, yn enwedig y cyhyrau a'r system nerfol.
Ond mae angerdd Stephen dros y clwb a thros gynnig cyfleoedd i chwarae rygbi'r gynghrair yn ddiwyro. Ac mae'n talu teyrnged i'r cyfraniad mae'r Loteri Genedlaethol wedi'i wneud:
"Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cael effaith enfawr. Fe wnaeth ein helpu ni i sefydlu'r clwb yn 2013. Mae pob un o'n cadeiriau olwyn chwaraeon yn costio £1500 ac mae gennym ni 40 ohonyn nhw bellach, sydd wedi'u hariannu gan y Loteri Genedlaethol.
"Ac eleni, mae arian y Loteri Genedlaethol rydyn ni wedi’i gael drwy grant Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru yn golygu y bydd y clwb yma o hyd y flwyddyn nesaf. Doedd gennym ni ddim arian yn dod i mewn ond roedd rhaid i ni dalu am yswiriant a storio yr un fath, felly roedd y grant yn newyddion i'w groesawu'n fawr!”
Gyda help arian y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o weithwyr chwaraeon ar lawr gwlad a gwirfoddolwyr mewn clybiau a sefydliadau lleol ledled y DU wedi gallu dal ati i helpu'r genedl i gadw’n actif, yn hapus ac yn llawn cymhelliant yn ystod pandemig Covid-19.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da. Mae llawer o’r arian yma’n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ledled y DU yn ystod argyfwng y Coronafeirws.