Mae gan Glwb Saethyddiaeth Hafren Foresters ger y Drenewydd genhadaeth i annog mwy o ferched a genethod a phobl ag anableddau i estyn am fwa a saeth.
Mae'r Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru wedi helpu'r clwb i daro'r targed gan ei alluogi i lansio sesiynau hyfforddi a gweithdai i ferched yn unig gyda hyfforddwr benywaidd. Gyda grant o £4,688, mae wedi gallu prynu bwâu, saethau ac offer diogelwch newydd.
Yn cyflwyno Megan – Y saethyddwraig ifanc sy’n anelu am LA 2028
Mae Megan Costall ar y targed i gystadlu yng Ngemau Olympaidd 2028 ac mae'r cyfan oherwydd ei 'theulu' yn Hafren Foresters.
Pan oedd hi'n iau, roedd Megan wrth ei bodd gyda charate a’r unig reswm wnaeth hi roi'r gorau iddi oedd am ei bod wedi cael gwybod ei bod hi'n rhy ifanc i wneud ei gwregys du. Mae hi hefyd yn gyn-gymnast ond aeth i'r clwb saethyddiaeth yn 14 oed. Mae ei thad wedi bod yn rhan o redeg y clwb ers cryn amser ac roedd ei chwaer hŷn eisoes yn saethu'n rheolaidd. Gan sianelu ei hysbryd cystadleuol, roedd hi'n benderfynol o guro'r ddau.
Ers hynny, mae Megan wedi mynd ymlaen i ennill medal arian yng Ngornest Agored Berlin a helpu'r tîm i ennill aur ym Mhencampwriaethau Ieuenctid Ewrop yn 2022. Ac mae Megan yn dweud mai diolch am ei chynnydd i glwb saethyddiaeth Hafren.