Pan sefydlodd Shaun Sullivan Glwb Sboncen Ynys Mon gyntaf yn 2018, dim ond dwy o'r 38 o aelodau oedd yn ferched. Dim ond pump y cant.
Ond roedd gan Shaun weledigaeth.
Gweledigaeth lle'r oedd merched a genethod yr un mor weladwy ar y cwrt â'r dynion. A diolch i gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae'r weledigaeth honno bellach yn dod yn realiti.
Symud ymlaen i 2025, ac mae bron i 40 y cant o aelodau'r clwb yn ferched bellach. Mewn sesiynau iau, mae mwy o ferched nag o fechgyn erbyn hyn hyd yn oed.
Ei ferch yn ysbrydoliaeth
Mae Shaun wedi bod yn hyfforddi ers pan oedd yn 13 oed. Ond genedigaeth ei ferch yn 2021 roddodd yr hwb iddo wneud sboncen yn fwy cynhwysol ar Ynys Môn.
Gwnaeth gais unwaith eto am gyllid y Loteri Genedlaethol a'r tro yma i gynnal sesiynau hyfforddi am ddim i ferched a genethod yn unig.
Ac fe weithiodd hynny.
Fe ledaenodd y gair yn gyflym. Daeth y merched â'u ffrindiau gyda nhw. Fe ymunodd mamau hefyd, gan sicrhau ychydig o amser cwbl haeddiannol iddyn nhw eu hunain bob wythnos.
Doedd llawer ohonyn nhw ddim wedi cydio mewn raced o'r blaen. Ond gyda hyfforddiant arbenigol, cyfeillgar, fe ildiodd y nerfau i hyder.