Mae Clwb Hoci Dinbych yn gwasanaethu ystod eang o bobl, o fyfyrwyr i aelodau hŷn y gymdeithas, ac mae croeso mawr wedi bod i’r clwb yn ailagor ei ddrysau.
Mae ganddo bedwar tîm gydag un garfan hŷn a thair iau, gan gynnwys plant dan naw oed, dan 11 a dan 13.
“Mae gennym ni chwaraewyr o wahanol grwpiau ethnigrwydd, gan gynnwys chwaraewyr sy'n fyfyrwyr cyfnewid tramor sy'n byw yng Ngholeg Myddelton,” ychwanegodd Liam.
“Rydyn ni hefyd yn gweithredu adran iau sy'n cynnwys genethod ac, ar hyn o bryd, mae prosiect ar wahân yn weithredol i ailsefydlu tîm hoci hŷn i ferched.
“Mae'r rhan fwyaf o bobl yn chwarae am hwyl, ond rydyn ni wedi cael un person ifanc, Matthew Jarvis, yn cael lle yn sgwad Cymru dan 18 oed."
Er bod llawer o gyfyngiadau wedi'u codi yn ystod y misoedd diwethaf, nid yw Clwb Hoci Dinbych wedi gallu cystadlu yn erbyn timau eraill oherwydd cyflwyno cyfyngiadau lleol i atal lledaeniad y coronafeirws.
“Rydyn ni’n chwarae yng Nghynghrair Hoci'r Gogledd Orllewin, sef gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru,” meddai.
“Mae llawer o'r gemau yma wedi cael eu gohirio oherwydd Covid. Yr hyn sy'n cymhlethu pethau yw bod rheolau gwahanol yn Lloegr i'r rhai yng Nghymru.
“Mae rhai timau y bydden ni fel arfer yn chwarae yn eu herbyn wedi'u lleoli mewn rhannau o Loegr lle mae cyfyngiadau symud lleol, felly dydyn ni ddim yn gallu chwarae yn eu herbyn. Hefyd, dydyn ni ddim eisiau teithio i lefydd dan gyfyngiadau symud lleol a mentro dod â'r feirws yn ôl i'n cymuned ni.
“Rydyn ni wedi gohirio'r tymor ac wedi cael ein rhoi dan gyfyngiadau lleol yn ddiweddar, felly dydyn ni ddim yn gallu mynd beth bynnag.”