Wrth i ferched Cymru wthio ymlaen yng Nghwpan Rygbi'r Byd, mae clybiau'n camu ymlaen i ddatblygu'r gêm i ferched gartref.
Rydyn ni’n gwybod bod merched a genethod eisiau llefydd diogel a chroesawgar. Ond ar hyn o bryd, dim ond tua hanner y merched yng Nghymru sy'n teimlo bod digon o gyfleusterau chwaraeon yn eu hardal.
Ond mae help wrth law. Gall clybiau wneud cais i Lle i Chwaraeon – Crowdfunder i godi arian a gwella cyfleusterau – gan gynnwys y rhai sydd wedi’u hadeiladu i greu amgylcheddau gwell i ferched.
Mae llawer o glybiau rygbi yng Nghymru wedi gwneud hynny. Dim mwy o flociau cawod budr. Dim mwy o doiledau merched dros dro. Dim mwy o ystafelloedd newid blinedig, annymunol. Drwy gyllid torfol, mae clybiau'n rhoi'r llefydd maen nhw'n eu haeddu i'n merched a'n genethod ni…
Toiledau merched newydd yng Nghlwb Rygbi Treorci
Pan sefydlodd Clwb Rygbi Treorci ei dîm merched ddwy flynedd yn ôl, roedd y diddordeb yn enfawr. Roedd y chwaraewyr yn awyddus ac fe dyfodd y niferoedd yn gyflym.
Ond roedd un broblem fawr. Roedd angen dybryd am adnewyddu toiledau'r merched.
Ac felly fe drodd Clwb Rygbi Treorci at Lle i Chwaraeon – Crowdfunder. Fe gododd y clwb £6,000 drwy’r ymgyrch, gan gynnwys £3,600 gan Chwaraeon Cymru.