Colegau Addysg Bellach yng Nghymru yn croesawu'r her o wneud Cymru yn genedl fwy egnïol, gan wella iechyd a lles dysgwyr a chymunedau lleol.
Mae academïau arbenigol mewn colegau yn rhoi cyfleoedd gwych i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon traddodiadol fel rygbi, pêl-rwyd a phêl-droed. Y cyfleusterau hyn yn aml yw'r ris y bydd pobl ifanc yn camu arni cyn ennill anrhydeddau cenedlaethol. Cafodd 14 o garfan rygbi Cymru - sy'n cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Japan ar hyn o bryd - eu haddysg mewn colegau Addysg Bellach, gan ddatblygu eu sgiliau yng nghynghrair colegau Undeb Rygbi Cymru (Rygbi Pawb) a chystadlaethau tebyg.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae colegau hefyd wedi croesawu'r her sy'n wynebu nifer o bobl ifanc i fod yn fwy egnïol, gan fynd ati i'w helpu i wella'u hiechyd a'u lles. Mae rhoi profiad dysgu cyfoethocach a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd bellach yn digwydd law yn llaw â'r broses o ddatblygu sgiliau newydd.
Erbyn hyn, mae hanner y bobl 16-19 oed yng Nghymru yn mynd i goleg Addysg Bellach. Fis Medi eleni, yn y tri choleg ar ddeg, dechreuodd 45,000 o bobl ifanc ar bennod newydd yn eu taith drwy fyd addysg, gan gyfarfod ffrindiau newydd wrth astudio tuag at swyddi yn y dyfodol mewn pob math o broffesiynau. Mae cyfle ganddynt bellach i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon amrywiol iawn.
Meddai Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru, "Mae colegau Addysg Bellach Cymru yn creu rhwydwaith cenedlaethol o ganolfannau cymunedol sy'n hybu dysgu a sgiliau. Mae'r colegau wedi croesawu'r angen i annog pobl ifanc i fod yn egnïol a datblygu sgiliau arwain newydd. Maent yn cefnogi hyn drwy ddatblygu cyfleusterau chwaraeon cymunedol newydd a chanolfannau hyfforddi o'r radd flaenaf.