Skip to main content

Cronfa Cymru Actif yn ehangu i roi cyfle i chwaraeon mewn mwy o gymunedau

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cronfa Cymru Actif yn ehangu i roi cyfle i chwaraeon mewn mwy o gymunedau

Mae Chwaraeon Cymru yn ehangu Cronfa Cymru Actif er mwyn helpu i gefnogi hyd yn oed mwy o gymunedau ledled y wlad i barhau i fod yn actif drwy gydol argyfwng Covid-19 a thu hwnt.

Pan lansiwyd y gronfa i ddechrau ym mis Gorffennaf, y ddwy flaenoriaeth oedd darparu cefnogaeth ariannol ar unwaith fel bod clybiau a sefydliadau chwaraeon nid-er-elw yn gallu goroesi, a hefyd i'w helpu i ddychwelyd at weithgarwch drwy helpu i dalu am y gost o fodloni canllawiau diogelwch Covid-19.

Nawr mae'r gronfa'n cael ei hehangu fel bod grantiau o rhwng £300 a £50,000 ar gael hefyd i gefnogi clybiau gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Gall y cyllid eu helpu i fod yn fwy arloesol yn eu dull o weithredu, dod yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir, neu wneud mwy i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb sy'n bodoli o ran cyfranogiad mewn chwaraeon. 

 

Er enghraifft, efallai bod gan glybiau syniadau gwych ar gyfer cynyddu cyfleoedd i grwpiau du a lleiafrifol, pobl ag anableddau, neu ferched a genethod. Hefyd mae gan Chwaraeon Cymru darged penodol o wella cyfleoedd i bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig gan fod ymchwil yn awgrymu bod y cymunedau difreintiedig hyn, yn anffodus, ar ei hôl hi yn fwy fyth o ran cyfranogiad yn ystod y pandemig.

Mae mwy na 450 o glybiau wedi elwa o gyfran o fwy na £650,000 hyd yma, ac mae miliynau ar gael o hyd i Chwaraeon Cymru eu dosbarthu drwy Gronfa Cymru Actif, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru a chyllid sydd wedi cael pwrpas newydd gan y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Mae chwaraeon cymunedol wedi’u gohirio ar hyn o bryd i gefnogi'r cyfnod atal byr cenedlaethol. Fodd bynnag, byddant yn chwarae rhan bwysig unwaith eto o ran cadw Cymru'n actif a chefnogi ffordd o fyw iach wrth i ni symud allan o'r cyfnod yma.

"Mae’r gronfa yma i gefnogi clybiau lleol ac os ydyn nhw yn y cam diogelu, paratoi neu gynnydd, rydyn ni eisiau sicrhau bod chwaraeon yn barod ac yn gallu darparu asedau hanfodol i gymunedau lleol yn ystod y cyfnod anodd yma a thu hwnt. Bydd elfen 'cynnydd' y gronfa’n gyfle i ni gefnogi mwy o glybiau sy'n barod i feddwl am wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol. Gan ddibynnu ar amgylchiadau eich clwb, dylech benderfynu pa elfen o'r gronfa rydych chi eisiau gwneud cais iddi.

"Fel ymateb i'r heriau tymor canolig a hir a gyflwynwyd gan Covid-19, efallai y bydd gan rai clybiau syniadau arloesol ynghylch dulliau newydd o ddarparu eu gweithgareddau, neu'r math o weithgareddau maen nhw’n eu cynnig. Efallai y gallwn ni gefnogi gyda chyllid i wneud y syniadau hynny’n realiti.

"Fel canllaw, gall y syniadau hyn gynnwys gwelliannau neu addasiadau i'ch cyfleusterau, defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o gyfranogwyr, uwchsgilio gwirfoddolwyr, neu brynu offer newydd. 

Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glybiau ystyried sut gallent ddarparu mwy o gyfleoedd i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon ac sy'n llai tebygol o fod yn gorfforol actif. Rhaid i ni weithredu i gynnig mwy o gyfleoedd sy'n mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb yma.”

Dim ond i glybiau nid-er-elw a sefydliadau cymunedol mae cyllid Cymru Actif yn agored. Dim ond ar gyfer un elfen o Gronfa Cymru Actif ddylai ymgeiswyr wneud cais ar unrhyw adeg benodol – naill ai ar gyfer 'diogelu', 'paratoi' neu 'gynnydd'.

Gall ymgeiswyr sydd eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer elfennau 'diogelu' neu 'baratoi' Cronfa Cymru Actif gyflwyno cais am gyllid 'cynnydd' hefyd.

Ychwanegodd Sarah: "Mae'n rhaid i ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i fod yn actif a rhoi cyfleoedd diogel iddyn nhw wneud hynny. Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hwyl, mae'n gwneud i ni deimlo'n well, mae'n dda i'n hiechyd ni, ac mae'n gymdeithasol. Mae angen chwaraeon yn fwy nag erioed."