Skip to main content

Cydweithio i gefnogi oedolion hŷn

I bobl 55 oed a hŷn, mae cadw’n actif ac yn iach yn fwy o her nag erioed ar hyn o bryd – ond mae help a gobaith wrth law.

Mae’n anodd meddwl am amser mwy heriol na’r cyfnod clo presennol, nid yn unig oherwydd effeithiau bod yn ynysig ond hefyd o ystyried tywydd y gaeaf, sy’n gallu gwneud gweithgarwch awyr agored yn fwy lletchwith.

 

Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Chwaraeon Cymru fis Hydref diwethaf bod pobl dros 55 oed yng Nghymru’n fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud llai o ymarfer na chyn y pandemig.

Hefyd, mae'r gostyngiad mwyaf yn nifer yr oedolion sy'n gwneud ymarfer corff bum gwaith neu fwy yr wythnos wedi bod ymhlith pobl dros 55 oed.

Ond y newyddion da yw bod rhai adroddiadau eraill diweddar wedi awgrymu y gall pobl hŷn fod yn hynod wydn yn aml wrth ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gadw'n actif, yn gorfforol ac yn feddyliol.

Gydag aeddfedrwydd daw doethineb, medden nhw. Efallai mai dyma'r rheswm pam mae pobl hŷn yn dangos yn glir eu bod yn deall yn iawn ei bod yn bwysig cadw'n actif ac yn iach pan fydd pethau'n anodd.

 

Felly, sut maen nhw'n gwneud hynny a beth all mwy o bobl hŷn ledled Cymru ei wneud i wella eu lefelau gweithgarwch eu hunain?

Ble mae mynd i gael rhywfaint o hwb neu sbardun?

  1. Mae llawer o wybodaeth ar gael, ond rydym wedi ceisio rhoi'r cyfan mewn un lle, o dan ymgyrch o'r enw #CymruActif.

    Ar y dudalen benodol i oedolion hŷn, mae awgrymiadau a syniadau gan wahanol sefydliadau ynglŷn â sut i gadw'r corff a’r meddwl yn iach yn ystod y cyfnod yma o gyfyngiadau symud ac aros yn y tŷ i warchod ein hunain.

    Gallwch ddod o hyd iddynt yma: https://www.sport.wales/beactivewales-campaign/older-adults-advice-and-resources/
     
  2. Mae gan Age Cymru gyngor ar sut i gadw'n actif, gan gynnwys fideos sy'n dangos ymarferion LIFT (Hyfforddiant Swyddogaethol Effaith Isel) y mae posib eu gwneud gartref, naill ai'n eistedd neu'n sefyll.

    Mae fideos ymarfer corff ysgafn gan Chwaraeon Cymru ei hun, canllawiau cerdded ac ioga, a hefyd cymorth i bobl anabl. 

    Mae awgrymiadau hefyd gan ddau o gewri’r byd chwaraeon yng Nghymru – Lynn Davies a Phil Bennett, y ddau bellach yn eu 70au – ar sut i ofalu amdanoch eich hun yn ystod y cyfyngiadau symud. 
     
  3. Mae nifer o gynghorau yng Nghymru wedi canolbwyntio eu hymdrechion ar gymorth a chefnogaeth ar-lein gan y gwasanaethau chwaraeon a hamdden i bobl hŷn, gan nad yw’r dosbarthiadau sy’n cael eu cynnal mewn canolfannau hamdden yn gweithredu ar hyn o bryd. 

    Mae gan Gyngor Ceredigion fideos dosbarth step bywiog gyda Chelsey yn ogystal â fideo ffitrwydd yn y Gymraeg, Ffit Yn 5 digidol.
     
  4. Mae gan Newport Live dudalen “Hapus ac Iach yn y Cartref” ar ei wefan, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer cadw’n heini gartref a “Bingo Cyfnod Clo”, dosbarthiadau ymarfer wedi’u recordio ymlaen llaw a llawer mwy.             

    Mae cadw’r meddwl yn actif yn ystod cyfnodau clo yr un mor hanfodol â gofalu am ein cyrff. Bydd darllen, datrys posau, bod yn greadigol ac ymgysylltu ag eraill i gyd o fudd i les y meddwl yn ystod adegau pan fo pobl hŷn mewn perygl o deimlo ar eu pen eu hunain neu heb unrhyw ysbrydoliaeth.
     
  5. Mae gan Parkinson's UK Cymru help i gadw'n iach – yn gorfforol ac yn feddyliol – gan gynnwys help gyda chreu cynlluniau a threfn ddyddiol.

    Sefydliad arall sy'n defnyddio chwaraeon i helpu pobl hŷn yw Sporting Memories. Mae’n defnyddio pŵer hel atgofion am chwaraeon i gadw pobl mewn cysylltiad ac yn actif ac i drechu unigrwydd ac iselder.

    Gyda chyfarfodydd gwaith grŵp arferol yr elusen wedi'u hatal, mae wedi meddwl am #FagCIT Sporting Memories – bag cit mae’n ei ddosbarthu i gartrefi pobl.                     

    Mae'r bag cit yn cynnwys offer ymarfer corff ar gyfer adeiladu cryfder, DVD, adnoddau hel atgofion chwaraeon a llyfr cofnodion personol.

    Byd pawb sy'n gofyn am y bag cit hefyd yn derbyn galwadau ffôn gan yr elusen i'w helpu i ddechrau arni a chadw llygad ar eu cynnydd.

    Dywedodd Nikki Foster, cydlynydd prosiect Cymru: "Mae’r rhai sy’n cael y cit yn derbyn galwadau ffôn cadw mewn cysylltiad rheolaidd lle rydym yn cynnig cymhelliant a sgwrs gyffredinol, yn ogystal â'r cyfle i ymuno â Chlwb Sporting Memories ar-lein neu gylch ffôn.

    "Mae'r holl gyfranogwyr yn derbyn llyfr cofnodion, i dracio eu cynnydd. Mae hyn yn rhoi rhywbeth i ni siarad amdano hefyd. Ar ôl 3 mis, mae’r cyfranogwyr yn derbyn llyfryn newydd a bob mis, copïau o'n papur hel atgofion, Sporting Pink. Hefyd, yn bwysig iawn, rydyn ni’n gweithio gyda gofalwyr."

    Mae Sporting Pink yn seiliedig ar yr hen bapurau newydd chwaraeon a arferai gael eu cyhoeddi ar nos Sadwrn, fel y "Football Echo" yng Nghaerdydd a "The Sporting" a gyhoeddwyd yn Abertawe – sy’n siŵr o gael yr atgofion i lifo.

    Mae rhaglen #BagCIT Sporting Memories yn cael ei chyllido gan y Gronfa Iach ac Egnïol, y mae Chwaraeon Cymru yn bartner ynddi.

    Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer Sporting Pink ar ffurf ddigidol.

 

 

Mae'r sector chwaraeon a thu hwnt wedi dod at ei gilydd i gyd i sicrhau bod oedolion hŷn yn cael cyfle a chefnogaeth i ddal ati i gadw’n heini yn ystod misoedd anodd y gaeaf a’r cyfnod clo. Ffoniwch Mam-gu neu Taid i'w hatgoffa pa mor bwysig yw dal ati i symud, a dal ati i wenu hefyd.