Main Content CTA Title

Cyfle partneriaeth cyffrous i wella enw da Plas Menai fel y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyfle partneriaeth cyffrous i wella enw da Plas Menai fel y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol

Mae Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru ym Mhlas Menai, yn ystod y 39 mlynedd diwethaf, wedi creu enw da iddi’i hun am ddarparu anturiaethau awyr agored o'r radd flaenaf ar gyfer pob oedran. 

Yn 2021, ar ôl cyfnod o adolygu, cytunodd Bwrdd Chwaraeon Cymru y byddai datblygu partneriaeth gyda sefydliad priodol yn helpu i sicrhau bod Plas Menai yn gallu gwneud y gorau o'i botensial am flynyddoedd i ddod.

Hwylio ar Afon Menai

 

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn ystod y deuddeg mis diwethaf ac mae Chwaraeon Cymru bellach mewn sefyllfa i lansio'r chwilio yn ffurfiol am bartner newydd gyda'r bwriad o ddechrau'r bartneriaeth erbyn mis Ionawr 2023. Mae natur bwrpasol y cyfle partneriaeth yn gosod tri pheth creiddiol yn rhan ohono:

  • partneriaeth arloesol gyda diwylliant a gwerthoedd sy’n cyd-fynd
  • diogelu a hyrwyddo lles a datblygiad staff;
  • gwybodaeth a dealltwriaeth am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghym

Dywedodd Graham Williams, Cyfarwyddwr Chwaraeon Cymru: "Mae Plas Menai wedi cael effaith gadarnhaol ar niferoedd enfawr o bobl dros nifer o flynyddoedd ac mae ganddo rôl hanfodol i'w chwarae wrth drawsnewid Cymru yn genedl actif. Ein nod ni yw sicrhau bod gan y ganolfan ddyfodol cynaliadwy yn yr hirdymor, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau’r cyfleuster pwysig yn ei leoliad rhagorol. Rydym yn credu, drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliad arloesol ac uchelgeisiol, sy’n angerddol am yr effaith y gall gweithgareddau antur awyr agored ei chael, y gall Plas Menai barhau i fynd o nerth i nerth.

"Rydym yn awyddus i sefydlu partneriaeth gyda sefydliad sy'n cyd-fynd â'n diwylliant a'n gwerthoedd, sy’n darparu sgiliau ategol y mae eu gwir angen ac a fydd yn ein helpu i wella enw da ac effaith Plas Menai. Mae hwn yn gyfle unigryw a chyffrous i wneud byd o wahaniaeth a byddwn yn annog unrhyw sefydliadau sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni i gofrestru eu diddordeb."

Er mai datblygu partneriaeth fydd y flaenoriaeth yn ystod y misoedd nesaf, mae prosiectau allweddol eraill eisoes ar y gweill i gefnogi dyfodol cynaliadwy hirdymor Plas Menai. O ganlyniad i fuddsoddiad helaeth gan Lywodraeth Cymru, mae'r Ganolfan ar gau dros dro ar hyn o bryd (gyda’r nod o ailagor ym mis Ebrill 2022) tra mae gwaith i osod system wresogi carbon effeithlon newydd ar y gweill, ynghyd â gwaith atgyweirio ac uwchraddio'r system awyru. Mae'r ganolfan yn arwain drwy esiampl wrth leihau allyriadau carbon a chefnogi'r symud tuag at y sector cyhoeddus cyfan yn dod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Dylai unrhyw sefydliadau sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am y cyfle gofrestru eu diddordeb ar GwerthwchiGymru a darllen drwy'r wybodaeth sydd wedi’i darparu.

Newyddion Diweddaraf

Hen Chwaraeon, Rheolau Newydd: Sut mae chwaraeon yn addasu o ran cynulleidfa a chynhwysiant

Mae llawer o chwaraeon yn cynnig gemau byrrach, cyflymach ac wedi'u haddasu i apelio at gynulleidfaoedd…

Darllen Mwy

Beth all eich clwb chwaraeon gael cyllid ar ei gyfer gyda’r Grant Arbed Ynni?

Dyma 7 gwelliant smart y gall eich clwb eu hariannu gyda hyd at £25,000 o'r Grant Arbed Ynni.

Darllen Mwy

Cyfarfod y rhai sy’n Newid y Gêm ar gyfer y Dyfodol drwy oresgyn rhwystrau yn y byd chwaraeon yng Nghymru

Ledled Cymru, mae cenhedlaeth newydd o arweinwyr chwaraeon yn ‘newid y gêm.’

Darllen Mwy