Main Content CTA Title

Sut bydd £3.3m yn cael ei wario ar welliannau i gyfleusterau chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut bydd £3.3m yn cael ei wario ar welliannau i gyfleusterau chwaraeon

Mae Chwaraeon Cymru yn buddsoddi £3.3m o gyllid Llywodraeth Cymru mewn 37 o brosiectau i wella cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru.

Bydd y cyllid yn helpu Cymru i greu cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes.

Bydd £2.8m o'r cyllid yn cefnogi chwaraeon ar lawr gwlad, gyda tua hanner miliwn o bunnoedd wedi'i neilltuo i chwaraeon perfformiad uchel.

Pam mae'r cyllid yn bwysig?

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, Brian Davies, fod y buddsoddiad yn cefnogi'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru:

Rydyn ni eisiau i bob person yng Nghymru allu cael mynediad at y chwaraeon a'r gweithgarwch corfforol maen nhw eisiau cymryd rhan ynddyn nhw, felly mae buddsoddi'n rheolaidd mewn cyfleusterau gwell yn gam pwysig tuag at gyflawni hynny.
Brian Davies

“Am y drydedd flwyddyn yn olynol, rydyn ni’n arbennig o falch o fod wedi gallu dyfarnu swm mawr o gyllid i helpu i ddiogelu dyfodol hirdymor nifer o ganolfannau hamdden drwy eu gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn gynaliadwy. Bydd y prosiectau yma hefyd yn sicrhau arbedion carbon sylweddol, gan helpu i gefnogi targedau newid hinsawdd Cymru.”

Mae'r holl grantiau wedi bod yn bosibl diolch i gyfanswm o £10 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer 2025-26 sydd wedi'i neilltuo i Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru. Cyhoeddir y manylion yn fuan ynghylch sut bydd y £6.7 miliwn sy'n weddill yn cael ei fuddsoddi.

Sut dewiswyd y prosiectau?

Gwnaeth awdurdodau lleol, cyrff rheoli chwaraeon a phartneriaid cenedlaethol gais am gyfran o'r 'cyllid cyfalaf' yma. Rhoddodd Chwaraeon Cymru flaenoriaeth i'r ceisiadau oedd yn cyflawni'r canlynol:

  • Gwneud chwaraeon yn fwy cynhwysol i bawb
  • Cefnogi datblygiad athletwyr talentog
  • Gwella effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd

Pa fath o brosiectau sydd wedi derbyn cyllid?

Gellir gweld rhestr lawn o'r 37 o brosiectau a fydd yn derbyn cyllid cyfalaf isod:

Dadansoddiad o gyllid yn ôl ardal leol

Pen-y-bont ar Ogwr

  • Bydd dau gwrt pêl rwyd macadam yng Nghanolfan Chwaraeon Bracla, sydd wedi'i lleoli yng nghefn Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cael eu huwchraddio i un cwrt CTA 2G / synthetig, ynghyd â llifoleuadau LED, diolch i grant o £65,316. ​​Bydd y cyfleuster newydd yn darparu ar gyfer chwaraeon amrywiol.

Caerdydd

  • Mae Athletau Cymru wedi derbyn £29,439 tuag at ddatblygu ardal hyfforddi gwaywffon yn Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn Lecwydd.

Ceredigion

  • Bydd gwelliannau gwresogi, goleuadau ac inswleiddiad yn cael eu gwneud yng Nghanolfan Hamdden Caron yn Nhregaron diolch i gyllid gwerth £83,700.

Conwy

  • Mae dyfarniad o £250,000 wedi cael ei wneud i gefnogi datblygiad datgarboneiddio enfawr gwerth £8 miliwn mewn tair canolfan hamdden: Canolfan Hamdden Abergele, Canolfan Hamdden Colwyn a Phwll Nofio Llanrwst.
  • Bydd amryw o welliannau sy'n gysylltiedig â chriced yn cael eu cwblhau yng Nghanolfan Hamdden Y Morfa ym Mae Cinmel, sy'n ganolfan griced i Ogledd Cymru. Bydd £118,377 yn cael ei wario ar wiced artiffisial awyr agored, adnewyddu caeau, ynghyd â mesurau effeithlon o ran ynni ar gyfer y ganolfan ei hun.

Sir y Fflint

  • Ym Mhwll Cei Connah, bydd £82,220 yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ailgrowtio'r pwll, gorchuddion pwll sy'n effeithlon o ran ynni a theclynnau codi.

Gwynedd

  • Dyfarnwyd £100,000 i Gyngor Gwynedd tuag at uwchraddio offer ffitrwydd yn Byw’n Iach Dwyfor ym Mhwllheli.

Merthyr Tudful

  • Dyfarniad o £40,000 i gefnogi prosiect Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i uwchraddio’r cae astroturf ar safle caeau Aberfan Grove i gae 3G i roi sylw i brinder y sir o arwynebau artiffisial. Mae cynlluniau i’r 3G gynnwys pad sioc newydd i alluogi defnydd rygbi.

Casnewydd

  • Dyfarnwyd grant o £146,546 i Gymnasteg Cymru i drawsnewid hen adeilad ym Mhill yn gyfleuster gymnasteg a chodi hwyl mewn gemau.
  • Gwnaed dyfarniad o £30,610 i Gyngor Casnewydd i gefnogi ei nod o uwchraddio’r cae chwaraeon artiffisial presennol yng Nghanolfan Mileniwm Pill i gae 3G.
  • Bydd £12,500 yn mynd tuag at osod paneli solar ym mhencadlys canolog Golff Cymru yng Ngwesty’r Celtic Manor i gefnogi nodau cynaliadwyedd y sefydliad.

Sir Benfro

  • Bydd £275,000 yn mynd tuag at bympiau ac unedau hidlo yng nghanolfannau hamdden Dinbych-y-pysgod ac Aberdaugleddau i sicrhau bod y ddau gyfleuster yn gynaliadwy yn y tymor hir drwy leihau'r defnydd o ynni.

Powys

  • Bydd y canolfannau hamdden yn Aberhonddu, Ystradgynlais a Dwyrain Maesyfed yn dod yn fwy effeithlon o ran ynni yn dilyn dyfarnu £56,433 tuag at bympiau pwll a chyfnewidwyr gwres, tra bydd £113,850 yn mynd tuag at unedau trin aer yng nghanolfannau hamdden Bro Ddyfi a Flash.

Rhondda Cynon Taf

  • ​​Bydd £20,068 yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio'r byrddau deifio yng Nghanolfan Hamdden Sobell yn Aberdâr.

Abertawe

  • I gefnogi'r diddordeb cynyddol mewn padel, bydd Tennis Cymru yn defnyddio £288,000 tuag at drosi cwrt awyr agored yn dri chwrt padel dan do, gyda llifoleuadau LED, yng Nghanolfan Tennis Abertawe. Mae hyn yn rhan o ddatblygiad mwy sy'n cynnwys ailwynebu pedwar cwrt dan do ac uwchraddio tri chwrt awyr agored arall i glai.
  • Mae Cyngor Abertawe a Freedom Leisure wedi derbyn dau grant i helpu eu cyfleusterau hamdden i ddod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Bydd £141,743 yn mynd tuag at uwchraddio pwll nofio ac ailosod boeleri yng Nghanolfan Hamdden Treforys ynghyd ag uned trin aer yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol. Yn y cyfamser, bydd £60,544 yn cael ei ddefnyddio i osod ffaniau dadhaenu a fydd yn lleihau'r defnydd o ynni yn y canolfannau hamdden yng Nghefn Hengoed, Penlan, Penyrheol a Threforys.
  • Bydd Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn elwa o uwchraddio llifoleuadau LED ar gyfer y ddau gae hoci a'r trac athletau diolch i ddyfarniad o £173,682. Bydd y trac athletau’n cael ei ailwynebu hefyd gan fod Athletau Cymru wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid gwerth £175,000.

Torfaen

  • Er mwyn helpu i ddiwallu'r galw am bêl fasged yn Nhorfaen, bydd dyfarniad o £20,489 yn talu am gylchoedd pêl fasged hyblyg o ran uchder a byrddau sgorio electronig yng Nghanolfan Hamdden Cwmbrân a Chanolfan Byw’n Actif Pont-y-pŵl.
  • Mae Cyngor Torfaen wedi derbyn £36,315 hefyd a fydd yn cael ei roi tuag at arwyneb newydd yn y cyfleuster bowlio dan do yn Stadiwm Cwmbrân.

Bro Morgannwg

  • Mae £70,000 wedi cael ei ddyfarnu i Gyngor Bro Morgannwg i gefnogi cynlluniau ar gyfer parc sglefrio awyr agored yn Bear Field yn y Bont-faen.
  • Bydd dyfarniad o £12,403 yn cyllido rhwydi criced a chylchoedd pêl fasged yng Nghanolfan Hamdden Llanilltud Fawr i wella'r ddarpariaeth ar gyfer clybiau lleol sy'n defnyddio'r ganolfan ar gyfer sesiynau hyfforddi.
  • Bydd neuadd chwaraeon Canolfan Hamdden Penarth yn cael ei huwchraddio gyda llawr newydd diolch i grant o £51,000.

Wrecsam

  • Bydd dyfarniad o £66,519 yn mynd tuag at uwchraddio'r unedau trin aer yn Waterworld yn Wrecsam.
  • Yn dilyn dyfarniad o £54,000 a wnaed y llynedd ar gyfer bylbiau LED yn Stadiwm Queensway yn Wrecsam, cytunwyd ar gyllid gwerth £74,106 ar gyfer colofnau llifoleuadau newydd ar drac athletau'r cyfleuster a chaeau 3G bach.
  • Bydd yr uwchraddio ar y system wresogi a chylchrediad y pwll yn cael ei wneud yng Nghanolfan Hamdden Gwyn Evans a Chanolfan Hamdden y Waun diolch i grant o £99,765.

Cymru Gyfan

Dyfarnwyd rhywfaint o gyllid i Gyrff Rheoli Cenedlaethol i dalu am offer chwaraeon a fydd yn cael ei ddefnyddio ledled y wlad:

  • Bydd Triathlon Cymru yn derbyn £27,450 tuag at brynu sglodion amseru a meddalwedd i wella hygyrchedd a fforddiadwyedd digwyddiadau aml-chwaraeon ledled Cymru.
  • Wrth i athletau symud oddi wrth ddefnyddio gynnau i ddechrau rasys, mae Athletau Cymru wedi derbyn £4,482 i brynu system ddechrau electronig y gellir ei defnyddio mewn digwyddiadau ledled y wlad.
  • Bydd RYA Cymru yn derbyn £64,615 i brynu dau gwch ffoilio, dau gwch diogelwch a dau drelar. Mae pedwar deg y cant o'r holl ddisgyblaethau hwylio Olympaidd yn ddosbarth ffoil bellach, sy'n arbennig o addas i hwylwyr benywaidd.

Chwaraeon perfformiad

Mae sawl prosiect chwaraeon perfformiad wedi derbyn cyllid hefyd i helpu i gefnogi athletwyr mwyaf talentog Cymru i gyflawni eu potensial:

  • Mae Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn £260,800 tuag at ystafell adfer boeth / oer newydd i gymryd lle eu siambr cryo bresennol a chynorthwyo adferiad corfforol a gwydnwch meddyliol ymhellach.
  • Hefyd mae Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn £207,200 tuag at adnewyddu'r gampfa llwybr yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol yn Hensol, Bro Morgannwg.
  • Mae Bocsio Cymru wedi derbyn £43,200 tuag at brynu gwarchodwyr gwm sy'n cofrestru grym G i astudio dwysedd a grym yr ergydion y mae bocswyr ifanc yn eu cymryd yn ystod hyfforddiant a gornestau. Mae gan Focsio Cymru gynlluniau i weithio gyda'r adrannau niwroleg perthnasol ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe i archwilio'r effaith y mae ergydion yn eu cael ar ddatblygiad ymennydd pobl ifanc, fel eu bod yn gallu llunio canllawiau a gefnogir gan dystiolaeth feddygol.
  • Mae Nofio Cymru wedi derbyn dau grant i ddarparu amgylcheddau o safon byd i'w hathletwyr. Mae offer campfa a ffisiotherapi newydd yn dod i’r Pwll Cenedlaethol yn Abertawe diolch i grant o £9,837, a bydd £6,934 yn mynd tuag at brynu offer dadansoddi fideo mwy modern ac offer nofio perfformiad uchel.
  • Ac yn olaf ond nid y lleiaf, mae Beicio Cymru wedi gwneud cais llwyddiannus am £45,548 a fydd yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio cyfleuster Canolfan BMX Genedlaethol Cymru yn Llanrhymni, Caerdydd.