Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cyllid a Chefnogaeth
  3. Ein dull ni o fuddsoddi

Ein dull ni o fuddsoddi

Yr hyn rydyn ni’n gobeithio ei gyflawni drwy ein buddsoddiadau.

Rydyn ni'n credu mewn cenedl wirioneddol actif lle mae pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau manteision bod yn gorfforol actif. 

Er mwyn ceisio cyflawni hyn rydyn ni'n buddsoddi arian Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol mewn llawer o wahanol sefydliadau ledled y wlad, sy’n cynllunio, yn rheoli ac yn darparu cyfleoedd yng nghymunedau lleol Cymru.

Rydyn ni'n gwybod bod grwpiau penodol o bobl yn llai tebygol o gymryd rhan neu y byddant yn ei chael yn fwy anodd cael mynediad at gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n addas ar eu cyfer. Gyda hyn mewn golwg, rydyn ni'n ceisio sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y meysydd sydd ei angen fwyaf, drwy’r sefydliadau a fydd yn gallu creu’r effaith fwyaf yn erbyn y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru, gyda chydraddoldeb yn rhan flaenllaw yn ein penderfyniadau.

Y MATHAU O FUDDSODDIADAU A CHYLLID RYDYN NI'N EU CYNNIG 

Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy'n gyfrifol am lywodraethu chwaraeon a darparu cyfleoedd cyfranogiad ar lefel genedlaethol ledled y wlad. Rydyn ni'n cynnig buddsoddiad blynyddol i'r sefydliadau hyn i gefnogi eu gweithgarwch craidd. Rydyn ni hefyd yn cynnig ffrydiau cyllid ychwanegol i gefnogi gweithgareddau penodol fel datblygu cyfleusterau.

Rydyn ni hefyd yn deall pwysigrwydd buddsoddi’n uniongyrchol yn y clybiau a’r sefydliadau sy’n cynnig cyfleoedd a gweithgareddau ar lawr gwlad. Gall clybiau a sefydliadau cymunedol wneud cais am ystod o opsiynau cyllido gwahanol i gefnogi gweithgareddau craidd a datblygu.