Skip to main content

Cymryd camau i gadw’n actif

Gyda chyfyngiadau symud lefel pedwar yn eu lle, bydd llawer o bobl yng Nghymru yn meddwl tybed sut i gadw'n heini, yn actif a heb ddioddef o unrhyw straen dros gyfnod y Nadolig.

Mae dychwelyd at y math llymaf o gyfyngiadau’n golygu y bydd llawer o weithgareddau traddodiadol a chyfarwydd – rasys hwyl trefnus fel Parkrun, trochi torfol yn y môr ar wahanol draethau, hyd yn oed trip i'ch clwb pêl-droed neu rygbi lleol ar Ddydd San Steffan i losgi dipyn ar galorïau’r diwrnod cynt – yn amhosib eu cynnal eleni.

Gyda champfeydd a chanolfannau hamdden hefyd yn cau, bydd y rhan fwyaf o bobl yn gorfod ymarfer yn unigol neu fel rhan o grŵp teuluol unwaith eto, fel oedd yn rhan o'u trefn arferol yn gynharach yr haf yma.

Dyna pryd wnaeth llawer o bobl ddarganfod – neu eu hatgoffa eu hunain – o bleserau syml cerdded.

Wedi'r cyfan, does fawr ddim yn symlach na lapio’n gynnes, agor y drws ffrynt a chael awyr iach yn eich ysgyfaint, os ydych chi’n byw mewn dinas, tref neu gefn gwlad.

Mae'n hawdd, mae'n rhad ac am ddim, ac mae'n cynnig ffordd syml o godi allan os ydych chi'n dechrau teimlo'n styc yn y tŷ ac yn cael eich llethu gan ormod o deledu a mins peis.

Mae rhai hanfodion synhwyrol i'w hystyried: esgidiau cerdded da, neu esgidiau ymarfer cyfforddus, sy’n dal dŵr, o leiaf; siaced sy’n dal dŵr ar gyfer pan fydd tywydd Cymru’n troi; digon o hylif i hydradu; ac os ydych chi'n mynd allan ar ôl iddi dywyllu, cofiwch gadw at ardaloedd sydd wedi'u goleuo'n dda neu wisgo dillad adlewyrchol. 

Chi sydd i ddewis beth i’w wneud. Gall fod yn gerdded cyflym i gynnig rhywfaint o weithgarwch egnïol – cyn lleied â 15 munud yn cael ei wneud ar gyflymder sy'n llosgi calorïau – neu daith gerdded ddwy awr i feithrin dygnedd neu i gael amser i ymlacio.

Mae tudalen ar wefan y GIG, Cerdded ar gyfer Iechyd (https://www.nhs.uk/live-well/exercise/walking-for-health/) yn awgrymu y bydd cyflymder cerdded o 3 mya – ychydig yn gyflymach na cherdded yn araf – yn arwain at fanteision iechyd.

Defnyddiodd astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd fis yma gan y British Journal of Sports Medicine ddata gan bobl a oedd wedi gwisgo monitors gweithgarwch i dracio faint oeddent yn symud ac yn eistedd. 

Daeth yr ymchwilwyr i'r casgliad mai’r delfryd ar gyfer gweithgarwch corfforol a hirhoedledd oedd tua 35 munud y dydd o gerdded cyflym, neu weithgareddau cymedrol eraill, gyda’r cyfanswm amser yma’n arwain at y gwelliant ystadegol mwyaf mewn rhychwant bywyd, waeth faint o oriau roedd rhywun yn eistedd. 

Amrywiaeth wrth gerdded yw'r allwedd i'w wneud yn bleserus ac yn bosib ei ailadrodd. Amrywio'r llwybr, cymysgu hyd a dwyster a'i ddefnyddio'n achlysurol fel cyfle i archwilio. 

Mae mapiau ar-lein ac apiau’n gallu darparu nid yn unig cynllunio llwybr ar gyfer llwybrau troed rheolaidd, ond hefyd gall gwefannau fel rowmaps.com ddangos hawliau tramwy yn eich ardal leol nad oeddech yn gwybod eu bod yn bodoli efallai.

Darganfu ymchwilwyr yn Awstria yn 2017 bod y rhan fwyaf o bobl yn gweld cerdded yn yr awyr agored yn llai egnïol na cherdded dan do ar felin gerdded, hyd yn oed pan oedd y pellteroedd a'r graddiant yn union yr un fath.

Canfuwyd hefyd bod cerdded yn yr awyr agored yn arwain at fwy o fudd o ran codi hwyliau unigolyn o gymharu â'r un lefel o ymarfer corff dan do.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o bobl wedi defnyddio "cerdded ystyrlon" i wella eu lles a'u hiechyd meddwl.

Mae hyn yn cynnwys bod yn ymwybodol iawn ohonoch chi’ch hun, eich symudiadau, a'ch amgylchedd wrth i chi gerdded.

Mae seicolegwyr a seicotherapyddion sy'n hyrwyddo cerdded ystyrlon yn awgrymu eich bod yn dechrau drwy ganolbwyntio eich ymwybyddiaeth ar eich safiad, eich cydbwysedd, y teimladau o gael eich angori i'r ddaear wrth i chi gamu ymlaen, a hefyd eich anadlu.

Maen nhw'n dweud y gallwch chi wedyn symud ymlaen i sylwi ar eich amgylchedd, y dirwedd, y coed a'r blodau, y synau, yr arogleuon a'r blasau, a thrwy sylwi ar y pethau hyn, fel pe bai am y tro cyntaf, mae'n dod yn dechneg ddefnyddiol i dynnu eich sylw oddi wrth straen a phryderon eraill wrth i chi symud.

Gallai hyn fod yn rhywbeth i roi cynnig arno os ydych chi’n mynd â'r ci am dro ar Ddydd San Steffan, tra’n dymuno eich bod yn ôl yn y gampfa.

Gyda'r cyfyngiadau lefel pedwar yng Nghymru yn mynd i ymestyn am o leiaf dair wythnos i'r flwyddyn newydd, efallai mai cerdded i drechu felan mis Ionawr fydd yr opsiwn gorau.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy